2 Corinthiaid 4:4-6
2 Corinthiaid 4:4-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
yr anghredinwyr y dallodd duw'r oes bresennol eu meddyliau, rhag iddynt weld goleuni Efengyl gogoniant Crist, delw Duw. Nid ein pregethu ein hunain yr ydym, ond Iesu Grist yn Arglwydd, a ninnau yn weision i chwi er mwyn Iesu. Oherwydd y Duw a ddywedodd, “Llewyrched goleuni o'r tywyllwch”, a lewyrchodd yn ein calonnau i roi i ni oleuni'r wybodaeth am ogoniant Duw yn wyneb Iesu Grist.
2 Corinthiaid 4:4-6 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Y diafol (‘duw’ y byd hwn) sydd wedi dallu’r rhai sydd ddim yn credu. Does ganddo fe ddim eisiau iddyn nhw ddeall y newyddion da, na gweld ysblander y Meseia sy’n dangos i ni yn union sut un ydy Duw. Dŷn ni ddim yn siarad amdanon ni’n hunain – dim ond cyhoeddi mai Iesu y Meseia ydy’r Arglwydd. Ein lle ni ydy eich gwasanaethu chi ar ran Iesu. Ac mae’r Duw ddwedodd, “Dw i eisiau i olau ddisgleirio allan o’r tywyllwch,” wedi’n goleuo ni a’n galluogi ni i ddangos fod ysblander Duw ei hun yn disgleirio yn wyneb Iesu y Meseia.
2 Corinthiaid 4:4-6 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yn y rhai y dallodd duw’r byd hwn feddyliau y rhai di-gred, fel na thywynnai iddynt lewyrch efengyl gogoniant Crist, yr hwn yw delw Duw. Canys nid ydym yn ein pregethu ein hunain, ond Crist Iesu yr Arglwydd; a ninnau yn weision i chwi er mwyn Iesu. Canys Duw, yr hwn a orchmynnodd i’r goleuni lewyrchu o dywyllwch, yw yr hwn a lewyrchodd yn ein calonnau, i roddi goleuni gwybodaeth gogoniant Duw, yn wyneb Iesu Grist.