2 Corinthiaid 4:17-18
2 Corinthiaid 4:17-18 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Dydy’n trafferthion presennol ni’n ddim byd o bwys, a fyddan nhw ddim yn para’n hir. Ond maen nhw’n arwain i fendithion tragwyddol yn y pen draw – ysblander sydd y tu hwnt i bob mesur! Felly mae’n sylw ni wedi’i hoelio ar beth sy’n anweledig, dim ar beth welwn ni’n digwydd o’n cwmpas ni. Dydy beth sydd i’w weld ond yn para dros dro, ond mae beth sy’n anweledig yn aros am byth!
2 Corinthiaid 4:17-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Oherwydd y baich ysgafn o orthrymder sydd arnom yn awr, darparu y mae, y tu hwnt i bob mesur, bwysau tragwyddol o ogoniant i ni, dim ond inni gadw'n golwg, nid ar y pethau a welir, ond ar y pethau na welir. Dros amser y mae'r pethau a welir, ond y mae'r pethau na welir yn dragwyddol.
2 Corinthiaid 4:17-18 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Canys ein byr ysgafn gystudd ni sydd yn odidog ragorol yn gweithredu tragwyddol bwys gogoniant i ni; Tra na byddom yn edrych ar y pethau a welir, ond ar y pethau ni welir: canys y pethau a welir sydd dros amser, ond y pethau ni welir sydd dragwyddol.