2 Corinthiaid 4:1-5
2 Corinthiaid 4:1-5 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Felly gan fod Duw wedi bod mor garedig â rhoi’r gwaith yma’n ein gofal ni, dŷn ni ddim yn digalonni. Dŷn ni wedi gwrthod pob dull cudd a dan din o weithredu. Wnawn ni ddim twyllo neb na gwyrdroi neges Duw. Dŷn ni’n dweud yn blaen beth ydy’r gwir, ac mae pawb yn gwybod eu bod nhw’n gallu’n trystio ni fel rhai sy’n gwbl agored o flaen Duw. Os oes rhai pobl sy’n methu deall y newyddion da dŷn ni’n ei gyhoeddi, y bobl sy’n mynd i ddistryw ydy’r rheiny. Y diafol (‘duw’ y byd hwn) sydd wedi dallu’r rhai sydd ddim yn credu. Does ganddo fe ddim eisiau iddyn nhw ddeall y newyddion da, na gweld ysblander y Meseia sy’n dangos i ni yn union sut un ydy Duw. Dŷn ni ddim yn siarad amdanon ni’n hunain – dim ond cyhoeddi mai Iesu y Meseia ydy’r Arglwydd. Ein lle ni ydy eich gwasanaethu chi ar ran Iesu.
2 Corinthiaid 4:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Am hynny, gan fod y weinidogaeth hon gennym trwy drugaredd Duw, nid ydym yn digalonni. Yr ydym wedi ymwrthod â ffyrdd dirgel a chywilyddus; nid ydym yn arfer cyfrwystra nac yn llurgunio gair Duw. Yn hytrach, trwy ddwyn y gwirionedd i'r amlwg yr ydym yn ein cymeradwyo'n hunain i gydwybod pob un gerbron Duw. Os yw'n hefengyl ni dan orchudd, yn achos y rhai sydd ar lwybr colledigaeth y mae hi felly— yr anghredinwyr y dallodd duw'r oes bresennol eu meddyliau, rhag iddynt weld goleuni Efengyl gogoniant Crist, delw Duw. Nid ein pregethu ein hunain yr ydym, ond Iesu Grist yn Arglwydd, a ninnau yn weision i chwi er mwyn Iesu.
2 Corinthiaid 4:1-5 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Am hynny gan fod i ni y weinidogaeth hon, megis y cawsom drugaredd, nid ydym yn pallu; Eithr ni a ymwrthodasom â chuddiedig bethau cywilydd, heb rodio mewn cyfrwystra, na thrin gair Duw yn dwyllodrus, eithr trwy eglurhad y gwirionedd yr ydym yn ein canmol ein hun wrth bob cydwybod dynion yng ngolwg Duw. Ac os cuddiedig yw ein hefengyl ni, yn y rhai colledig y mae yn guddiedig: Yn y rhai y dallodd duw’r byd hwn feddyliau y rhai di-gred, fel na thywynnai iddynt lewyrch efengyl gogoniant Crist, yr hwn yw delw Duw. Canys nid ydym yn ein pregethu ein hunain, ond Crist Iesu yr Arglwydd; a ninnau yn weision i chwi er mwyn Iesu.