2 Corinthiaid 13:1-13
2 Corinthiaid 13:1-13 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Y drydedd waith hon yr ydwyf yn dyfod atoch. Yng ngenau dau neu dri o dystion y bydd safadwy pob gair. Rhagddywedais i chwi, ac yr ydwyf yn rhagddywedyd fel pe bawn yn bresennol yr ail waith, ac yn absennol yr awron yr ydwyf yn ysgrifennu at y rhai a bechasant eisoes, ac at y lleill i gyd, os deuaf drachefn, nad arbedaf: Gan eich bod yn ceisio profiad o Grist, yr hwn sydd yn llefaru ynof, yr hwn tuag atoch chwi nid yw wan, eithr sydd nerthol ynoch chwi. Canys er ei groeshoelio ef o ran gwendid, eto byw ydyw trwy nerth Duw: canys ninnau hefyd ydym weiniaid ynddo ef, eithr byw fyddwn gydag ef trwy nerth Duw tuag atoch chwi. Profwch chwychwi eich hunain, a ydych yn y ffydd; holwch eich hunain. Onid ydych yn eich adnabod eich hunain, sef bod Iesu Grist ynoch, oddieithr i chwi fod yn anghymeradwy? Ond yr wyf yn gobeithio y gwybyddwch nad ydym ni yn anghymeradwy. Ac yr wyf yn gweddïo ar Dduw na wneloch chwi ddim drwg; nid fel yr ymddangosom ni yn gymeradwy, ond fel y gwneloch chwi yr hyn sydd dda, er bod ohonom ni megis rhai anghymeradwy. Canys ni allwn ni ddim yn erbyn y gwirionedd, ond dros y gwirionedd. Canys llawen ydym pan fyddom ni yn weiniaid, a chwithau yn gryfion: a hyn hefyd yr ydym yn ei ddymuno, sef eich perffeithrwydd chwi. Am hynny myfi yn absennol ydwyf yn ysgrifennu’r pethau hyn, fel pan fyddwyf bresennol nad arferwyf doster, yn ôl yr awdurdod a roddes yr Arglwydd i mi er adeilad, ac nid er dinistr. Bellach, frodyr, byddwch wych. Byddwch berffaith, diddaner chwi, syniwch yr un peth, byddwch heddychol; a Duw’r cariad a’r heddwch a fydd gyda chwi. Anerchwch eich gilydd â chusan sanctaidd. Y mae’r holl saint yn eich annerch chwi. Gras ein Harglwydd Iesu Grist, a chariad Duw, a chymdeithas yr Ysbryd Glân, a fyddo gyda chwi oll. Amen. Yr ail at y Corinthiaid a ysgrifennwyd o Philipi ym Macedonia, gyda Thitus a Luc.
2 Corinthiaid 13:1-13 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Hwn fydd y trydydd tro i mi ymweld â chi. “Rhaid cael dau neu dri tyst i gadarnhau fod rhywbeth yn wir.” Dw i wedi rhoi un rhybudd i’r rhai oedd wedi bod yn pechu y tro dwetha roeddwn i gyda chi. Dw i ddim gyda chi ar hyn o bryd, ond dw i’n rhoi ail rybudd (iddyn nhw a phawb sydd wedi ymuno â nhw). Fydda i’n dangos dim trugaredd y tro nesa! Wedi’r cwbl, dych chi eisiau prawf fod y Meseia yn siarad trwof fi. Dydy e ddim yn wan yn y ffordd mae e’n delio gyda chi – mae’n gweithio’n nerthol yn eich plith chi! Mae’n wir ei fod yn wan pan gafodd ei ladd ar y groes, ond mae bellach yn byw drwy nerth Duw. A’r un modd, dŷn ni sy’n perthyn iddo yn wan, ond byddwn ni’n rhannu ei fywyd e – a’r bywyd hwnnw sydd drwy nerth Duw yn ein galluogi ni i’ch gwasanaethu chi. Chi ddylai edrych arnoch eich hunain i weld a ydych yn byw’n ffyddlon. Dylech chi roi eich hunain ar brawf! Ydych chi ddim yn sylweddoli fod y Meseia Iesu yn eich plith chi? – os na, dych chi wedi methu’r prawf. Beth bynnag, dw i’n hyderus eich bod chi’n gweld ein bod ni ddim wedi methu’r prawf. Ond dim cael pobl i weld ein bod ni wedi pasio’r prawf ydy’r rheswm pam dŷn ni’n gweddïo ar Dduw na fyddwch chi’n gwneud dim o’i le. Dŷn ni am i chi wneud beth sy’n iawn hyd yn oed os ydy’n ymddangos ein bod ni wedi methu. Dŷn ni ddim am wneud unrhyw beth sy’n rhwystr i’r gwirionedd, dim ond beth sy’n hybu’r gwirionedd. Yn wir, dŷn ni’n ddigon balch o fod yn wan os dych chi’n gryfion. Ein gweddi ni ydy ar i chi gael eich adfer. Dyna pam dw i’n ysgrifennu atoch chi fel hyn tra dw i’n absennol – dw i ddim eisiau gorfod bod yn galed arnoch chi a defnyddio’r awdurdod mae’r Arglwydd wedi’i roi i mi. Dw i eisiau cryfhau, dim chwalu’ch ffydd chi. Felly i gloi, ffrindiau annwyl, byddwch lawen! Newidiwch eich ffyrdd a gwrando ar beth dw i’n eich annog chi i’w wneud. Cytunwch â’ch gilydd, a byw mewn perthynas iach â’ch gilydd. A bydd y Duw sy’n rhoi cariad a heddwch perffaith gyda chi. Cyfarchwch eich cyd-Gristnogion yn llawn cariad. Mae pobl Dduw i gyd yn anfon eu cyfarchion atoch chi. Dw i’n gweddïo y byddwch chi i gyd yn profi haelioni rhyfeddol yr Arglwydd Iesu Grist, a chariad Duw, a’r rhannu mae’r Ysbryd Glân yn ei ysgogi.
2 Corinthiaid 13:1-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Dyma'r drydedd waith y dof atoch chwi. Y mae pob peth i sefyll ar air dau neu dri o dystion. Pan oeddwn gyda chwi yr ail waith, rhoddais rybudd i'r rhai oedd gynt wedi pechu, ac i bawb arall; yn awr, a minnau'n absennol, yr wyf yn dal i'w rhybuddio: os dof eto, nid arbedaf. Rwy'n dweud hyn gan eich bod yn gofyn am brawf o'r Crist sy'n llefaru ynof fi, y Crist nad yw'n wan yn ei ymwneud â chwi, ond sydd yn nerthol yn eich plith. Oherwydd er ei groeshoelio ef mewn gwendid, eto y mae'n byw trwy nerth Duw. Ac er ein bod ninnau yn wan ynddo ef, eto fe gawn fyw gydag ef trwy nerth Duw, yn ein perthynas â chwi. Profwch eich hunain i weld a ydych yn y ffydd; chwiliwch eich hunain. Onid ydych yn sylweddoli bod Iesu Grist ynoch chwi?—a chaniatáu nad ydych wedi methu'r prawf. Yr wyf yn gobeithio y dewch chwi i weld nad ydym ni wedi methu. Yr ydym yn gweddïo ar Dduw na fydd i chwi wneud dim drwg, nid er mwyn i ni ymddangos fel rhai a lwyddodd yn y prawf, ond er mwyn i chwi wneud yr hyn sydd dda, er i ni ymddangos fel rhai a fethodd. Oherwydd ni allwn wneud dim yn erbyn y gwirionedd, dim ond dros y gwirionedd. Yr ydym yn llawenhau pan fyddwn ni'n wan a chwithau'n gryf; a hyn yn wir yw ein gweddi, i chwi gael eich adfer. Yr wyf yn ysgrifennu'r pethau hyn, a minnau'n absennol, er mwyn i mi, pan fyddaf yn bresennol, beidio â'ch trafod yn llym wrth arfer yr awdurdod a roddodd yr Arglwydd imi i adeiladu, nid i ddymchwel. Bellach, gyfeillion, ffarwel. Mynnwch eich adfer, gwrandewch ar fy apêl, byddwch o'r un meddwl, a byw'n heddychlon; a bydd Duw'r cariad a'r tangnefedd gyda chwi. Cyfarchwch eich gilydd â chusan sanctaidd. Y mae'r saint i gyd yn eich cyfarch. Gras ein Harglwydd Iesu Grist, a chariad Duw, a chymdeithas yr Ysbryd Glân fyddo gyda chwi oll!