Y drydedd waith hon yr ydwyf yn dyfod atoch. Yng ngenau dau neu dri o dystion y bydd safadwy pob gair. Rhagddywedais i chwi, ac yr ydwyf yn rhagddywedyd fel pe bawn yn bresennol yr ail waith, ac yn absennol yr awron yr ydwyf yn ysgrifennu at y rhai a bechasant eisoes, ac at y lleill i gyd, os deuaf drachefn, nad arbedaf: Gan eich bod yn ceisio profiad o Grist, yr hwn sydd yn llefaru ynof, yr hwn tuag atoch chwi nid yw wan, eithr sydd nerthol ynoch chwi. Canys er ei groeshoelio ef o ran gwendid, eto byw ydyw trwy nerth Duw: canys ninnau hefyd ydym weiniaid ynddo ef, eithr byw fyddwn gydag ef trwy nerth Duw tuag atoch chwi. Profwch chwychwi eich hunain, a ydych yn y ffydd; holwch eich hunain. Onid ydych yn eich adnabod eich hunain, sef bod Iesu Grist ynoch, oddieithr i chwi fod yn anghymeradwy? Ond yr wyf yn gobeithio y gwybyddwch nad ydym ni yn anghymeradwy. Ac yr wyf yn gweddïo ar Dduw na wneloch chwi ddim drwg; nid fel yr ymddangosom ni yn gymeradwy, ond fel y gwneloch chwi yr hyn sydd dda, er bod ohonom ni megis rhai anghymeradwy. Canys ni allwn ni ddim yn erbyn y gwirionedd, ond dros y gwirionedd. Canys llawen ydym pan fyddom ni yn weiniaid, a chwithau yn gryfion: a hyn hefyd yr ydym yn ei ddymuno, sef eich perffeithrwydd chwi. Am hynny myfi yn absennol ydwyf yn ysgrifennu’r pethau hyn, fel pan fyddwyf bresennol nad arferwyf doster, yn ôl yr awdurdod a roddes yr Arglwydd i mi er adeilad, ac nid er dinistr. Bellach, frodyr, byddwch wych. Byddwch berffaith, diddaner chwi, syniwch yr un peth, byddwch heddychol; a Duw’r cariad a’r heddwch a fydd gyda chwi. Anerchwch eich gilydd â chusan sanctaidd. Y mae’r holl saint yn eich annerch chwi. Gras ein Harglwydd Iesu Grist, a chariad Duw, a chymdeithas yr Ysbryd Glân, a fyddo gyda chwi oll. Amen.
Yr ail at y Corinthiaid a ysgrifennwyd o Philipi ym Macedonia, gyda Thitus a Luc.