2 Corinthiaid 12:8-9
2 Corinthiaid 12:8-9 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dw i wedi pledio ar i’r Arglwydd ei symud, do, dair gwaith, ond ei ateb oedd, “Mae fy haelioni i’n hen ddigon i ti. Mae fy nerth i’n gweithio orau mewn gwendid.” Felly dw i’n hapus iawn i frolio am beth sy’n dangos mod i’n wan, er mwyn i nerth y Meseia ddal i weithio trwof fi.
2 Corinthiaid 12:8-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ynglŷn â hyn deisyfais ar yr Arglwydd dair gwaith ar iddo'i symud oddi wrthyf. Ond dywedodd wrthyf, “Digon i ti fy ngras i; mewn gwendid y daw fy nerth i'w anterth.” Felly, yn llawen iawn fe ymffrostiaf fwyfwy yn fy ngwendidau, er mwyn i nerth Crist orffwys arnaf.
2 Corinthiaid 12:8-9 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Am y peth hwn mi a atolygais i’r Arglwydd deirgwaith, ar fod iddo ymadael â mi. Ac efe a ddywedodd wrthyf, Digon i ti fy ngras i: canys fy nerth i a berffeithir mewn gwendid. Yn llawen iawn gan hynny yr ymffrostiaf fi yn hytrach yn fy ngwendid, fel y preswylio nerth Crist ynof fi.