2 Corinthiaid 12:7-10
2 Corinthiaid 12:7-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
A rhag i mi ymddyrchafu o achos rhyfeddod y pethau a ddatguddiwyd imi, rhoddwyd draenen yn fy nghnawd, cennad oddi wrth Satan, i'm poeni, rhag imi ymddyrchafu. Ynglŷn â hyn deisyfais ar yr Arglwydd dair gwaith ar iddo'i symud oddi wrthyf. Ond dywedodd wrthyf, “Digon i ti fy ngras i; mewn gwendid y daw fy nerth i'w anterth.” Felly, yn llawen iawn fe ymffrostiaf fwyfwy yn fy ngwendidau, er mwyn i nerth Crist orffwys arnaf. Am hynny, yr wyf yn ymhyfrydu, er mwyn Crist, mewn gwendid, sarhad, gofid, erledigaeth, a chyfyngder. Oherwydd pan wyf wan, yna rwyf gryf.
2 Corinthiaid 12:7-10 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac fel na’m tra-dyrchafer gan odidowgrwydd y datguddiedigaethau, rhoddwyd i mi swmbwl yn y cnawd, cennad Satan, i’m cernodio, fel na’m tra-dyrchefid. Am y peth hwn mi a atolygais i’r Arglwydd deirgwaith, ar fod iddo ymadael â mi. Ac efe a ddywedodd wrthyf, Digon i ti fy ngras i: canys fy nerth i a berffeithir mewn gwendid. Yn llawen iawn gan hynny yr ymffrostiaf fi yn hytrach yn fy ngwendid, fel y preswylio nerth Crist ynof fi. Am hynny yr wyf yn fodlon mewn gwendid, mewn amarch, mewn anghenion, mewn erlidiau, mewn cyfyngderau, er mwyn Crist: canys pan wyf wan, yna yr wyf gadarn.