2 Cronicl 20:12-17
2 Cronicl 20:12-17 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ein Duw, plîs wnei di eu cosbi nhw? Dŷn ni ddim ddigon cryf i wrthsefyll y fyddin enfawr yma sy’n ymosod arnon ni. Dŷn ni ddim yn gwybod beth i’w wneud. Dŷn ni’n troi atat ti am help.” Roedd dynion Jwda i gyd yn sefyll o flaen yr ARGLWYDD gyda’i babis bach, eu gwragedd a’u plant. Yna yng nghanol y dyrfa dyma Ysbryd yr ARGLWYDD yn disgyn ar un o’r Lefiaid o dylwyth Asaff, sef Iachsiel fab Sechareia (ŵyr i Benaia fab Jeiel, mab Mataneia). Dyma fe’n dweud, “Gwrandwch bobl Jwda, a chi sy’n byw yn Jerwsalem, a’r Brenin Jehosaffat. Dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud wrthoch chi, ‘Peidiwch bod ag ofn a pheidiwch panicio am y fyddin fawr yma. Brwydr Duw ydy hon nid eich brwydr chi. Ewch allan yn eu herbyn yfory pan fyddan nhw’n dod i fyny drwy Fwlch Sis. Byddan nhw ym mhen draw’r ceunant, o flaen Anialwch Ierwel. Fyddwch chi ddim yn gorfod ymladd y frwydr yma. Byddwch yn sefyll lle rydych chi, ac yn gweld yr ARGLWYDD yn eich achub, bobl Jwda a Jerwsalem. Peidiwch bod ag ofn na phanicio. Ewch allan yn eu herbyn yfory; mae’r ARGLWYDD gyda chi!’”
2 Cronicl 20:12-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
O ein Duw, oni wnei di gyhoeddi barn arnynt? Oherwydd nid ydym ni'n ddigon cryf i wrthsefyll y fintai fawr hon sy'n dod yn ein herbyn. Ni wyddom ni beth i'w wneud, ond dibynnwn arnat ti.” Yr oedd holl wŷr Jwda, gyda'u rhai bach, eu gwragedd a'u plant, yn sefyll o flaen yr ARGLWYDD. Yr oedd Jehasiel fab Sechareia, fab Benaia, fab Jeiel, fab Mattaneia, Lefiad o dylwyth Asaff, yng nghanol y cynulliad; daeth ysbryd yr ARGLWYDD arno, a dywedodd, “Gwrandewch, holl Jwda a thrigolion Jerwsalem ynghyd â'r brenin Jehosaffat. Y mae'r ARGLWYDD yn dweud wrthych am beidio ag ofni na digalonni o achos y fintai fawr yma, oherwydd brwydr Duw yw hon, nid eich brwydr chwi. Ewch i lawr yn eu herbyn yfory, pan fyddant yn dringo rhiw Sis, ac fe'u cewch ym mhen draw'r dyffryn, yn ymyl anialwch Jerual. Ni fydd raid i chwi ymladd yn y frwydr hon; safwch yn llonydd yn eich lle, ac fe welwch y fuddugoliaeth a rydd yr ARGLWYDD ichwi, O Jwda a Jerwsalem. Peidiwch ag ofni na digalonni; ewch allan yn eu herbyn yfory, a bydd yr ARGLWYDD gyda chwi.”
2 Cronicl 20:12-17 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
O ein DUW ni, oni ferni di hwynt? canys nid oes gennym ni nerth i sefyll o flaen y dyrfa fawr hon sydd yn dyfod i’n herbyn; ac ni wyddom ni beth a wnawn: ond arnat ti y mae ein llygaid. A holl Jwda oedd yn sefyll gerbron yr ARGLWYDD, â’u rhai bach, eu gwragedd, a’u plant. Yna ar Jahasiel mab Sechareia, fab Benaia, fab Jeiel, fab Mataneia, Lefiad o feibion Asaff, y daeth ysbryd yr ARGLWYDD yng nghanol y gynulleidfa. Ac efe a ddywedodd, Gwrandewch holl Jwda, a thrigolion Jerwsalem, a thithau frenin Jehosaffat, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD wrthych chwi, Nac ofnwch, ac na ddigalonnwch rhag y dyrfa fawr hon: canys nid eiddoch chwi y rhyfel, eithr eiddo DDUW. Yfory ewch i waered yn eu herbyn hwynt; wele hwynt yn dyfod i fyny wrth riw Sis, a chwi a’u goddiweddwch hwynt yng nghwr yr afon, tuag anialwch Jeruel. Nid rhaid i chwi ymladd yn y rhyfel hwn: sefwch yn llonydd, a gwelwch ymwared yr ARGLWYDD tuag atoch, O Jwda a Jerwsalem: nac ofnwch, ac na ddigalonnwch: ewch yfory allan yn eu herbyn hwynt, a’r ARGLWYDD fydd gyda chwi.