Logo YouVersion
Eicon Chwilio

2 Cronicl 20

20
1Ac wedi hyn meibion Moab a meibion Ammon a ddaethant, a chyda hwynt eraill heblaw yr Ammoniaid, yn erbyn Jehosaffat, i ryfel. 2Yna y daethpwyd ac y mynegwyd i Jehosaffat, gan ddywedyd, Tyrfa fawr a ddaeth yn dy erbyn di o’r tu hwnt i’r môr, o Syria; ac wele y maent hwy yn Hasason-tamar, honno yw En-gedi. 3A Jehosaffat a ofnodd, ac a ymroddodd i geisio yr Arglwydd; ac a gyhoeddodd ympryd trwy holl Jwda. 4A Jwda a ymgasglasant i ofyn cymorth gan yr Arglwydd: canys hwy a ddaethant o holl ddinasoedd Jwda i geisio’r Arglwydd.
5A Jehosaffat a safodd yng nghynulleidfa Jwda a Jerwsalem, yn nhŷ yr Arglwydd, o flaen y cyntedd newydd, 6Ac a ddywedodd, O Arglwydd Dduw ein tadau, onid wyt ti yn Dduw yn y nefoedd, ac yn llywodraethu ar holl deyrnasoedd y cenhedloedd; ac onid yn dy law di y mae nerth a chadernid, fel nad oes a ddichon dy wrthwynebu di? 7Onid tydi ein Duw ni a yrraist ymaith breswylwyr y wlad hon o flaen dy bobl Israel, ac a’i rhoddaist hi i had Abraham dy garedigol yn dragywydd? 8A thrigasant ynddi, ac adeiladasant i ti ynddi gysegr i’th enw, gan ddywedyd, 9Pan ddêl niwed arnom ni, sef cleddyf, barnedigaeth, neu haint y nodau, neu newyn; os safwn o flaen y tŷ hwn, a cher dy fron di, (canys dy enw di sydd yn y tŷ hwn,) a gweiddi arnat yn ein cyfyngdra, ti a wrandewi ac a’n gwaredi ni. 10Ac yn awr wele feibion Ammon a Moab, a thrigolion mynydd Seir, y rhai ni chaniateaist i Israel fyned atynt, pan ddaethant o wlad yr Aifft; ond hwy a droesant oddi wrthynt, ac ni ddifethasant hwynt: 11Eto wele hwynt-hwy yn talu i ni, gan ddyfod i’n bwrw ni allan o’th etifeddiaeth di, yr hon a wnaethost i ni ei hetifeddu. 12O ein Duw ni, oni ferni di hwynt? canys nid oes gennym ni nerth i sefyll o flaen y dyrfa fawr hon sydd yn dyfod i’n herbyn; ac ni wyddom ni beth a wnawn: ond arnat ti y mae ein llygaid. 13A holl Jwda oedd yn sefyll gerbron yr Arglwydd, â’u rhai bach, eu gwragedd, a’u plant.
14Yna ar Jahasiel mab Sechareia, fab Benaia, fab Jeiel, fab Mataneia, Lefiad o feibion Asaff, y daeth ysbryd yr Arglwydd yng nghanol y gynulleidfa. 15Ac efe a ddywedodd, Gwrandewch holl Jwda, a thrigolion Jerwsalem, a thithau frenin Jehosaffat, Fel hyn y dywed yr Arglwydd wrthych chwi, Nac ofnwch, ac na ddigalonnwch rhag y dyrfa fawr hon: canys nid eiddoch chwi y rhyfel, eithr eiddo Dduw. 16Yfory ewch i waered yn eu herbyn hwynt; wele hwynt yn dyfod i fyny wrth riw Sis, a chwi a’u goddiweddwch hwynt yng nghwr yr afon, tuag anialwch Jeruel. 17Nid rhaid i chwi ymladd yn y rhyfel hwn: sefwch yn llonydd, a gwelwch ymwared yr Arglwydd tuag atoch, O Jwda a Jerwsalem: nac ofnwch, ac na ddigalonnwch: ewch yfory allan yn eu herbyn hwynt, a’r Arglwydd fydd gyda chwi. 18A Jehosaffat a ymgrymodd i lawr ar ei wyneb: holl Jwda hefyd a holl drigolion Jerwsalem a syrthiasant gerbron yr Arglwydd, gan addoli yr Arglwydd. 19A’r Lefiaid, o feibion y Cohathiaid, ac o feibion y Corhiaid, a gyfodasant i foliannu Arglwydd Dduw Israel â llef uchel ddyrchafedig.
20A hwy a gyfodasant yn fore, ac a aethant i anialwch Tecoa: ac wrth fyned ohonynt, Jehosaffat a safodd, ac a ddywedodd, Gwrandewch fi, O Jwda, a thrigolion Jerwsalem; Credwch yn yr Arglwydd eich Duw, a chwi a sicrheir; coeliwch ei broffwydi ef, a chwi a ffynnwch. 21Ac efe a ymgynghorodd â’r bobl, ac a osododd gantorion i’r Arglwydd, a rhai i foliannu prydferthwch sancteiddrwydd, pan aent allan o flaen y rhyfelwyr; ac i ddywedyd, Clodforwch yr Arglwydd, oherwydd ei drugaredd a bery yn dragywydd.
22Ac yn yr amser y dechreuasant hwy y gân a’r moliant, y rhoddodd yr Arglwydd gynllwynwyr yn erbyn meibion Ammon, Moab, a thrigolion mynydd Seir, y rhai oedd yn dyfod yn erbyn Jwda; a hwy a laddasant bawb ei gilydd. 23Canys meibion Ammon a Moab a gyfodasant yn erbyn trigolion mynydd Seir, i’w difrodi, ac i’w difetha hwynt: a phan orffenasant hwy drigolion Seir, hwy a helpiasant ddifetha pawb ei gilydd. 24A phan ddaeth Jwda hyd Mispa yn yr anialwch, hwy a edrychasant ar y dyrfa, ac wele hwynt yn gelaneddau meirwon yn gorwedd ar y ddaear, ac heb un dihangol. 25A phan ddaeth Jehosaffat a’i bobl i ysglyfaethu eu hysbail hwynt, hwy a gawsant yn eu mysg hwy lawer o olud, gyda’r cyrff meirw, a thlysau dymunol, yr hyn a ysglyfaethasant iddynt, beth anfeidrol: a thridiau y buant yn ysglyfaethu yr ysbail; canys mawr oedd.
26Ac ar y pedwerydd dydd yr ymgynullasant i ddyffryn y fendith; canys yno y bendithiasant yr Arglwydd: am hynny y gelwir enw y fan honno Dyffryn y fendith, hyd heddiw. 27Yna y dychwelodd holl wŷr Jwda a Jerwsalem, a Jehosaffat yn flaenor iddynt, i fyned yn eu hôl i Jerwsalem mewn llawenydd; canys yr Arglwydd a roddasai lawenydd iddynt hwy ar eu gelynion. 28A hwy a ddaethant i Jerwsalem â nablau, a thelynau, ac utgyrn, i dŷ yr Arglwydd. 29Ac ofn Duw oedd ar holl deyrnasoedd y ddaear, pan glywsant hwy fel y rhyfelasai yr Arglwydd yn erbyn gelynion Israel. 30Felly teyrnas Jehosaffat a gafodd lonydd: canys ei Dduw a roddodd iddo lonyddwch o amgylch.
31A Jehosaffat a deyrnasodd ar Jwda: mab pymtheng mlwydd ar hugain oedd efe pan ddechreuodd deyrnasu, a phum mlynedd ar hugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem: ac enw ei fam ef oedd Asuba merch Silhi. 32Ac efe a rodiodd yn ffordd Asa ei dad, ac ni chiliodd oddi wrthi, gan wneuthur yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr Arglwydd. 33Er hynny ni thynnwyd yr uchelfeydd ymaith: canys ni pharatoesai y bobl eu calon eto at Dduw eu tadau. 34A’r rhan arall o’r gweithredoedd cyntaf a diwethaf i Jehosaffat, wele hwy yn ysgrifenedig ymysg geiriau Jehu mab Hanani, yr hwn y crybwyllir amdano yn llyfr brenhinoedd Israel.
35Ac wedi hyn Jehosaffat brenin Jwda a ymgyfeillodd ag Ahaseia brenin Israel, yr hwn a ymroddasai i ddrygioni. 36Ac efe a unodd ag ef ar wneuthur llongau i fyned i Tarsis: a gwnaethant y llongau yn Esion-gaber. 37Yna Elieser mab Dodafa o Maresa a broffwydodd yn erbyn Jehosaffat, gan ddywedyd, Oherwydd i ti ymgyfeillachu ag Ahaseia, yr Arglwydd a ddrylliodd dy waith di. A’r llongau a ddrylliwyd, fel na allasant fyned i Tarsis.

Dewis Presennol:

2 Cronicl 20: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda