1 Timotheus 6:6-10
1 Timotheus 6:6-10 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Ond mae byw’n dduwiol yn cyfoethogi bywyd go iawn pan dŷn ni’n fodlon gyda beth sydd gynnon ni yn faterol. Doedd gynnon ni ddim pan gawson ni ein geni, a fyddwn ni’n gallu mynd â dim byd gyda ni pan fyddwn ni farw. Felly os oes gynnon ni fwyd a dillad, gadewch i ni fod yn fodlon gyda hynny. Mae pobl sydd eisiau bod yn gyfoethog yn syrthio i demtasiwn ac yn cael eu trapio gan chwantau ffôl a niweidiol sy’n difetha ac yn dinistrio’u bywydau. Mae ariangarwch wrth wraidd pob math o ddrygioni. Ac mae rhai pobl, yn eu hawydd i wneud arian, wedi crwydro oddi wrth y ffydd, ac achosi pob math o loes a galar iddyn nhw’u hunain.
1 Timotheus 6:6-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ac wrth gwrs, y mae cyfoeth mawr mewn bywyd duwiol ynghyd â bodlonrwydd mewnol. A'r ffaith yw, na ddaethom â dim i'r byd, ac felly hefyd na allwn fynd â dim allan ohono. Os oes gennym fwyd a dillad, gadewch inni fodloni ar hynny. Y mae'r rhai sydd am fod yn gyfoethog yn syrthio i demtasiynau a maglau, a llu o chwantau direswm a niweidiol, sy'n hyrddio pobl i lawr i ddistryw a cholledigaeth. Oherwydd gwraidd pob math o ddrwg yw cariad at arian, ac wrth geisio cael gafael ynddo crwydrodd rhai oddi wrth y ffydd, a'u trywanu eu hunain ag arteithiau lawer.
1 Timotheus 6:6-10 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ond elw mawr yw duwioldeb gyda bodlonrwydd. Canys ni ddygasom ni ddim i’r byd, ac eglur yw na allwn ddwyn dim allan chwaith. Ac o bydd gennym ymborth a dillad, ymfodlonwn ar hynny. Ond y rhai sydd yn ewyllysio ymgyfoethogi, sydd yn syrthio i brofedigaeth a magl, a llawer o chwantau ynfyd a niweidiol, y rhai sydd yn boddi dynion i ddinistr a cholledigaeth. Canys gwreiddyn pob drwg yw ariangarwch: yr hon, a rhai yn chwannog iddi, hwy a gyfeiliornasant oddi wrth y ffydd, ac a’u gwanasant eu hunain â llawer o ofidiau.