1 Timotheus 6:15-16
1 Timotheus 6:15-16 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Bydd hynny’n digwydd pan mae Duw’n dweud – sef y Duw bendigedig, yr un sy’n rheoli pob peth, Brenin y brenhinoedd ac Arglwydd yr arglwyddi! Fe ydy’r unig un sy’n anfarwol yn ei hanfod. Mae’n byw mewn golau llachar na ellir mynd yn agos ato, a does neb wedi’i weld, nac yn mynd i allu ei weld. Pob anrhydedd iddo! Boed iddo deyrnasu am byth! Amen!
1 Timotheus 6:15-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
a amlygir yn ei amser addas gan yr unig Bennaeth bendigedig, Brenin y brenhinoedd, Arglwydd yr arglwyddi. Ganddo ef yn unig y mae anfarwoldeb, ac mewn goleuni anhygyrch y mae'n preswylio. Nid oes neb wedi ei weld, ac ni ddichon neb ei weld. Iddo Ef y byddo anrhydedd a gallu tragwyddol! Amen.
1 Timotheus 6:15-16 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yr hwn yn ei amserau priod a ddengys y bendigedig a’r unig Bennaeth, Brenin y brenhinoedd, ac Arglwydd yr arglwyddi; Yr hwn yn unig sydd ganddo anfarwoldeb, sydd yn trigo yn y goleuni ni ellir dyfod ato, yr hwn nis gwelodd un dyn, ac ni ddichon ei weled: i’r hwn y byddo anrhydedd a gallu tragwyddol. Amen.