1 Timotheus 6:11-20
1 Timotheus 6:11-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ond yr wyt ti, ŵr Duw, i ffoi rhag y pethau hyn, ac i roi dy fryd ar uniondeb, duwioldeb, ffydd, cariad, dyfalbarhad ac addfwynder. Ymdrecha ymdrech lew y ffydd, a chymer feddiant o'r bywyd tragwyddol. I hyn y cefaist dy alw pan wnaethost dy gyffes lew o'r ffydd o flaen tystion lawer. Yng ngŵydd Duw, sy'n rhoi bywyd i bob peth, ac yng ngŵydd Crist Iesu, a dystiodd i'r un gyffes lew o flaen Pontius Pilat, yr wyf yn dy gymell i gadw'r gorchymyn yn ddi-fai a digerydd hyd at ymddangosiad ein Harglwydd Iesu Grist, a amlygir yn ei amser addas gan yr unig Bennaeth bendigedig, Brenin y brenhinoedd, Arglwydd yr arglwyddi. Ganddo ef yn unig y mae anfarwoldeb, ac mewn goleuni anhygyrch y mae'n preswylio. Nid oes neb wedi ei weld, ac ni ddichon neb ei weld. Iddo Ef y byddo anrhydedd a gallu tragwyddol! Amen. Gorchymyn di i gyfoethogion y byd presennol beidio â bod yn falch, ac iddynt sefydlu eu gobaith, nid ar ansicrwydd cyfoeth ond ar y Duw sy'n rhoi inni yn helaeth bob peth i'w fwynhau. Annog hwy i wneud daioni, i fod yn gyfoethog mewn gweithredoedd da, i fod yn hael ac yn barod i rannu, ac felly i gael trysor iddynt eu hunain fydd yn sylfaen sicr ar gyfer y dyfodol, i feddiannu'r bywyd sydd yn fywyd yn wir. Timotheus, cadw'n ddiogel yr hyn a ymddiriedwyd i'th ofal, a thro dy gefn ar y gwag siarad bydol, a'r gwrthddywediadau a gamenwir yn wybodaeth.
1 Timotheus 6:11-20 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ond rwyt ti, Timotheus, yn was i Dduw. Felly dianc di rhag pethau felly. Dylet ti wneud dy orau i fyw yn iawn, fel mae Duw am i ti fyw – yn ffyddlon, yn llawn cariad, yn dal ati drwy bopeth ac yn addfwyn. Mae’r bywyd Cristnogol fel gornest yn y mabolgampau, a rhaid i ti ymdrechu i ennill. Bywyd tragwyddol ydy’r wobr. Mae Duw wedi dy alw di i hyn ac rwyt wedi dweud yn glir dy fod di’n credu o flaen llawer o dystion. Dw i’n rhoi’r siars yma i ti – a hynny o flaen Duw sy’n rhoi bywyd i bopeth, ac o flaen Iesu y Meseia, a ddwedodd y gwir yn glir pan oedd ar brawf o flaen Pontius Peilat. Gwna bopeth rwyt ti wedi dy alw i’w wneud, nes bydd yr Arglwydd Iesu Grist yn dod yn ôl. Bydd hynny’n digwydd pan mae Duw’n dweud – sef y Duw bendigedig, yr un sy’n rheoli pob peth, Brenin y brenhinoedd ac Arglwydd yr arglwyddi! Fe ydy’r unig un sy’n anfarwol yn ei hanfod. Mae’n byw mewn golau llachar na ellir mynd yn agos ato, a does neb wedi’i weld, nac yn mynd i allu ei weld. Pob anrhydedd iddo! Boed iddo deyrnasu am byth! Amen! Dwed wrth bobl gyfoethog y byd hwn i beidio bod yn falch, a hefyd i beidio meddwl fod rhywbeth sydd mor ansicr â chyfoeth yn bodloni. Duw ydy’r un i ymddiried ynddo. Mae’n rhoi popeth sydd ei angen arnon ni, i ni ei fwynhau. Dwed wrthyn nhw am ddefnyddio’u harian i wneud daioni. Dylen nhw fod yn gyfoethog mewn gweithredoedd da, yn hael, ac yn barod i rannu bob amser. Wrth wneud hynny byddan nhw’n casglu trysor go iawn iddyn nhw’u hunain – sylfaen gadarn i’r dyfodol, iddyn nhw gael gafael yn y bywyd sydd yn fywyd go iawn. Timotheus, cadw’n saff bopeth mae Duw wedi’i roi yn dy ofal. Cadw draw oddi wrth glebran bydol a’r math nonsens dwl sy’n cael ei alw ar gam yn ‘wybodaeth’.
1 Timotheus 6:11-20 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Eithr tydi, gŵr Duw, gochel y pethau hyn; a dilyn gyfiawnder, duwioldeb, ffydd, cariad, amynedd, addfwyndra. Ymdrecha hardd-deg ymdrech y ffydd; cymer afael ar y bywyd tragwyddol; i’r hwn hefyd y’th alwyd, ac y proffesaist broffes dda gerbron llawer o dystion. Yr ydwyf yn gorchymyn i ti gerbron Duw, yr hwn sydd yn bywhau pob peth, a cherbron Crist Iesu, yr hwn dan Pontius Peilat a dystiodd broffes dda; Gadw ohonot y gorchymyn hwn yn ddifeius, yn ddiargyhoedd, hyd ymddangosiad ein Harglwydd Iesu Grist: Yr hwn yn ei amserau priod a ddengys y bendigedig a’r unig Bennaeth, Brenin y brenhinoedd, ac Arglwydd yr arglwyddi; Yr hwn yn unig sydd ganddo anfarwoldeb, sydd yn trigo yn y goleuni ni ellir dyfod ato, yr hwn nis gwelodd un dyn, ac ni ddichon ei weled: i’r hwn y byddo anrhydedd a gallu tragwyddol. Amen. Gorchymyn i’r rhai sydd oludog yn y byd yma, na byddont uchel feddwl, ac na obeithiont mewn golud anwadal, ond yn y Duw byw, yr hwn sydd yn helaeth yn rhoddi i ni bob peth i’w mwynhau: Ar iddynt wneuthur daioni, ymgyfoethogi mewn gweithredoedd da, fod yn hawdd ganddynt roddi a chyfrannu; Yn trysori iddynt eu hunain sail dda erbyn yr amser sydd ar ddyfod, fel y caffont afael ar y bywyd tragwyddol. O Timotheus, cadw’r hyn a roddwyd i’w gadw atat, gan droi oddi wrth halogedig ofer-sain, a gwrthwyneb gwybodaeth, a gamenwir felly