1 Timotheus 5:16-18
1 Timotheus 5:16-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Dylai unrhyw wraig sy'n gredadun, a chanddi weddwon yn y teulu, ofalu amdanynt. Nid yw'r gynulleidfa i ddwyn y baich mewn achos felly, er mwyn iddynt allu gofalu am y rhai sy'n weddwon mewn gwirionedd. Y mae'r henuriaid sy'n arweinwyr da yn haeddu cael dwbl y gydnabyddiaeth, yn arbennig y rhai sydd yn llafurio ym myd pregethu a hyfforddi. Oherwydd y mae'r Ysgrythur yn dweud: “Nid wyt i roi genfa am safn ych tra bydd yn dyrnu”, a hefyd: “Y mae'r gweithiwr yn haeddu ei gyflog.”
1 Timotheus 5:16-18 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Os oes gan unrhyw wraig sy’n Gristion berthnasau sy’n weddwon, dylai hi ofalu amdanyn nhw a pheidio rhoi’r baich ar yr eglwys. Bydd yr eglwys wedyn yn gallu canolbwyntio ar helpu’r gweddwon hynny sydd mewn gwir angen. Mae’r arweinwyr hynny yn yr eglwys sy’n gwneud eu gwaith yn dda yn haeddu eu parchu a derbyn cyflog teg. Mae hyn yn arbennig o wir am y rhai hynny sy’n gweithio’n galed yn pregethu a dysgu. Mae’r ysgrifau sanctaidd yn dweud, “Peidiwch rhwystro’r ych sy’n sathru’r ŷd rhag bwyta,” a hefyd “Mae gweithiwr yn haeddu ei gyflog.”
1 Timotheus 5:16-18 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Od oes gan ŵr neu wraig ffyddlon wragedd gweddwon, cynorthwyant hwynt, ac na phwyser ar yr eglwys; fel y gallo hi ddiwallu y gwir weddwon. Cyfrifer yr henuriaid sydd yn llywodraethu yn dda, yn deilwng o barch dauddyblyg; yn enwedig y rhai sydd yn poeni yn y gair a’r athrawiaeth. Canys y mae’r ysgrythur yn dywedyd, Na chae safn yr ych sydd yn dyrnu’r ŷd: ac, Y mae’r gweithiwr yn haeddu ei gyflog.