Logo YouVersion
Eicon Chwilio

1 Timotheus 5

5
1Na cherydda hynafgwr, eithr cynghora ef megis tad; a’r rhai ieuainc, megis brodyr; 2Yr hen wragedd, megis mamau; y rhai ieuainc, megis chwiorydd, gyda phob purdeb. 3Anrhydedda’r gwragedd gweddwon, y rhai sydd wir weddwon. 4Eithr o bydd un weddw ac iddi blant neu wyrion, dysgant yn gyntaf arfer duwioldeb gartref, a thalu’r pwyth i’w rhieni: canys hynny sydd dda a chymeradwy gerbron Duw. 5Eithr yr hon sydd wir weddw ac unig, sydd yn gobeithio yn Nuw, ac yn parhau mewn ymbiliau a gweddïau nos a dydd. 6Ond yr hon sydd drythyll, a fu farw, er ei bod yn fyw. 7A gorchymyn y pethau hyn, fel y byddont ddiargyhoedd. 8Ac od oes neb heb ddarbod dros yr eiddo, ac yn enwedig ei deulu, efe a wadodd y ffydd, a gwaeth yw na’r di-ffydd. 9Na ddewiser yn weddw un a fo dan drigeinmlwydd oed, yr hon fu wraig i un gŵr, 10Yn dda ei gair am weithredoedd da; os dygodd hi blant i fyny, os bu letygar, o golchodd hi draed y saint, o chynorthwyodd hi y rhai cystuddiol, o dilynodd hi bob gorchwyl da. 11Eithr gwrthod y gweddwon ieuainc: canys pan ddechreuont ymdrythyllu yn erbyn Crist, priodi a fynnant; 12Gan gael barnedigaeth, am iddynt ddirmygu y ffydd gyntaf. 13A hefyd y maent yn dysgu bod yn segur, gan rodio o amgylch o dŷ i dŷ; ac nid yn segur yn unig, ond hefyd yn wag-siaradus, ac yn rhodresgar, gan adrodd pethau nid ŷnt gymwys. 14Yr wyf yn ewyllysio gan hynny i’r rhai ieuainc briodi, planta, gwarchod y tŷ, heb roi dim achlysur i’r gwrthwynebwr i ddifenwi. 15Canys y mae rhai eisoes wedi gŵyro ar ôl Satan. 16Od oes gan ŵr neu wraig ffyddlon wragedd gweddwon, cynorthwyant hwynt, ac na phwyser ar yr eglwys; fel y gallo hi ddiwallu y gwir weddwon. 17Cyfrifer yr henuriaid sydd yn llywodraethu yn dda, yn deilwng o barch dauddyblyg; yn enwedig y rhai sydd yn poeni yn y gair a’r athrawiaeth. 18Canys y mae’r ysgrythur yn dywedyd, Na chae safn yr ych sydd yn dyrnu’r ŷd: ac, Y mae’r gweithiwr yn haeddu ei gyflog. 19Yn erbyn henuriaid na dderbyn achwyn, oddieithr dan ddau neu dri o dystion. 20Y rhai sydd yn pechu, cerydda yng ngŵydd pawb, fel y byddo ofn ar y lleill. 21Gorchymyn yr ydwyf gerbron Duw, a’r Arglwydd Iesu Grist, a’r etholedig angylion, gadw ohonot y pethau hyn heb ragfarn, heb wneuthur dim o gydbartïaeth. 22Na ddod ddwylo yn ebrwydd ar neb, ac na fydd gyfrannog o bechodau rhai eraill: cadw dy hun yn bur. 23Nac yf ddwfr yn hwy; eithr arfer ychydig win, er mwyn dy gylla a’th fynych wendid. 24Pechodau rhyw ddynion sydd amlwg o’r blaen, yn rhagflaenu i farn; eithr rhai sydd yn eu canlyn hefyd. 25Yr un ffunud hefyd y mae gweithredoedd da yn amlwg o’r blaen; a’r rhai sydd amgenach, nis gellir eu cuddio.

Dewis Presennol:

1 Timotheus 5: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda