1 Timotheus 5:1-4
1 Timotheus 5:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Paid â cheryddu hynafgwr, ond ei gymell fel petai'n dad i ti, y dynion ifainc fel brodyr, y gwragedd hŷn fel mamau, a'r merched ifainc â phurdeb llwyr fel chwiorydd. Cydnabydda'r gweddwon, y rheini sy'n weddwon mewn gwirionedd. Ond os oes gan y weddw blant neu wyrion, dylai'r rheini yn gyntaf ddysgu ymarfer eu crefydd tuag at eu teulu, a thalu'n ôl i'w rhieni y ddyled sydd arnynt, oherwydd hynny sy'n gymeradwy gan Dduw.
1 Timotheus 5:1-4 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Paid bod yn llawdrwm wrth geryddu dyn sy’n hŷn na ti. Dangos barch ato ac apelio ato fel petai’n dad i ti. Trin y dynion ifanc fel brodyr, y gwragedd hŷn fel mamau, a’r gwragedd ifanc fel chwiorydd (a gofalu dy fod yn cadw dy feddwl yn lân pan fyddi gyda nhw). Dylai’r eglwys ofalu am y gweddwon hynny sydd mewn gwir angen. Ond os oes gan weddw blant neu wyrion, dylai’r rheiny ymarfer eu crefydd drwy ofalu am eu teuluoedd. Gallan nhw dalu yn ôl am y gofal gawson nhw pan yn blant. Dyna sut mae plesio Duw.
1 Timotheus 5:1-4 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Na cherydda hynafgwr, eithr cynghora ef megis tad; a’r rhai ieuainc, megis brodyr; Yr hen wragedd, megis mamau; y rhai ieuainc, megis chwiorydd, gyda phob purdeb. Anrhydedda’r gwragedd gweddwon, y rhai sydd wir weddwon. Eithr o bydd un weddw ac iddi blant neu wyrion, dysgant yn gyntaf arfer duwioldeb gartref, a thalu’r pwyth i’w rhieni: canys hynny sydd dda a chymeradwy gerbron Duw.