1 Timotheus 3:1-13
1 Timotheus 3:1-13 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Mae beth sy’n cael ei ddweud mor wir: Mae rhywun sydd ag uchelgais i fod yn arweinydd yn yr eglwys yn awyddus i wneud gwaith da. Felly rhaid i arweinydd fod yn ddi-fai. Dylen nhw fod yn ffyddlon i’w priod, yn ymddwyn yn gyfrifol, yn synhwyrol ac yn gall, yn groesawgar, yn gallu dysgu eraill, ddim yn meddwi, ddim yn ymosodol ond yn addfwyn, ddim yn achosi dadleuon, a ddim yn ariangar. Dylen nhw allu cadw trefn ar eu teulu eu hunain, a’u plant yn atebol iddyn nhw ac yn eu parchu. (Os ydyn nhw ddim yn gallu cadw trefn ar eu teulu eu hunain, sut mae disgwyl iddyn nhw ofalu am eglwys Dduw?) Dylen nhw ddim bod yn rhywun sydd newydd ddod yn Gristion, rhag iddyn nhw droi’n falch a chael eu barnu fel cafodd y diafol ei farnu. Dylen nhw hefyd fod ag enw da gan bobl y tu allan i’r eglwys, rhag iddyn nhw gael eu dal ym magl y diafol a chael eu cywilyddio. A’r rhai sy’n gwasanaethu’r tlawd ar ran yr eglwys yr un fath. Rhaid iddyn nhw fod yn bobl sy’n haeddu eu parchu, ddim yn ddauwynebog, ddim yn yfed yn ormodol, nac yn elwa ar draul pobl eraill. Rhaid iddyn nhw ddal gafael yn beth mae Duw wedi’i ddangos sy’n wir, a byw gyda chydwybod lân. Dylen nhw dreulio cyfnod ar brawf cyn cael eu penodi i wasanaethu. Wedyn byddan nhw’n gallu cael eu penodi os does dim rheswm i beidio gwneud hynny. A’r un fath gyda’r gwragedd hynny sy’n gwasanaethu. Dylen nhw fod yn wragedd sy’n cael eu parchu; ddim yn rhai sy’n hel clecs maleisus, ond yn wragedd cyfrifol ac yn rai dŷn ni’n gallu dibynnu’n llwyr arnyn nhw. Dylai unrhyw ddyn sy’n gwasanaethu’r tlawd ar ran yr eglwys fod yn ffyddlon i’w wraig, ac yn gallu cadw trefn ar ei blant ac ar ei gartref. Bydd y rhai sydd wedi gwasanaethu’n dda yn cael enw da ac yn gallu siarad yn hyderus am gredu yn y Meseia Iesu.
1 Timotheus 3:1-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Dyma air i'w gredu: “Pwy bynnag sydd â'i fryd ar swydd arolygydd, y mae'n chwennych gwaith rhagorol.” Felly, rhaid i arolygydd fod heb nam ar ei gymeriad, yn ŵr i un wraig, yn ddyn sobr, disgybledig, anrhydeddus, lletygar, ac yn athro da. Rhaid iddo beidio â bod yn rhy hoff o win, nac yn rhy barod i daro. I'r gwrthwyneb, dylai fod yn ystyriol a heddychlon a diariangar. Dylai fod yn un a chanddo reolaeth dda ar ei deulu, ac yn cadw ei blant yn ufudd, â phob gwedduster. Os nad yw rhywun yn medru rheoli ei deulu ei hun, sut y mae'n mynd i ofalu am eglwys Dduw? Rhaid iddo beidio â bod yn newydd i'r ffydd, rhag iddo droi'n falch a chwympo dan y condemniad a gafodd y diafol. A dylai fod yn un â gair da iddo gan y byd oddi allan, rhag iddo gwympo i waradwydd a chael ei ddal ym magl y diafol. Yn yr un modd, rhaid i ddiaconiaid ennyn parch; nid yn ddauwynebog, nac yn drachwantus am win, nac yn chwennych elw anonest. A dylent ddal eu gafael ar ddirgelwch y ffydd gyda chydwybod bur. Dylid eu rhoi hwythau ar brawf ar y cychwyn, ac yna, o'u cael yn ddi-fai, caniatáu iddynt wasanaethu. Yn yr un modd dylai eu gwragedd fod yn weddus, yn ddiwenwyn, yn sobr, ac yn ffyddlon ym mhob dim. Rhaid i bob diacon fod yn ŵr i un wraig, a chanddo reolaeth dda ar ei blant a'i deulu ei hun. Oherwydd y mae'r rhai a gyflawnodd waith da fel diaconiaid yn ennill iddynt eu hunain safle da, a hyder mawr ynglŷn â'r ffydd sy'n eiddo i ni yng Nghrist Iesu.
1 Timotheus 3:1-13 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Gwir yw’r gair, Od yw neb yn chwennych swydd esgob, gwaith da y mae yn ei chwennych. Rhaid gan hynny i esgob fod yn ddiargyhoedd, yn ŵr un wraig, yn wyliadwrus, yn sobr, yn weddaidd, yn lletygar, yn athrawaidd; Nid yn wingar, nid yn drawydd, nid yn budrelwa; eithr yn dirion, yn anymladdgar, yn ddiariangar; Yn llywodraethu ei dŷ ei hun yn dda, yn dal ei blant mewn ufudd-dod ynghyd â phob onestrwydd; (Oblegid oni fedr un lywodraethu ei dŷ ei hun, pa fodd y cymer efe ofal dros eglwys Dduw?) Nid yn newyddian yn y ffydd, rhag iddo ymchwyddo, a syrthio i ddamnedigaeth diafol. Ac y mae yn rhaid iddo ef hefyd gael tystiolaeth dda gan y rhai oddi allan; rhag iddo syrthio i waradwydd, ac i fagl diafol. Rhaid i’r diaconiaid yr un ffunud fod yn onest; nid yn ddaueiriog, nid yn ymroi i win lawer, nid yn budrelwa; Yn dala dirgelwch y ffydd mewn cydwybod bur. A phrofer y rhai hynny hefyd yn gyntaf; yna gwasanaethant swydd diaconiaid, os byddant ddiargyhoedd. Y mae’n rhaid i’w gwragedd yr un modd fod yn onest, nid yn enllibaidd, yn sobr, yn ffyddlon ym mhob peth. Bydded y diaconiaid yn wŷr un wraig, yn llywodraethu eu plant a’u tai eu hunain yn dda. Canys y rhai a wasanaethant swydd diaconiaid yn dda, ydynt yn ennill iddynt eu hunain radd dda, a hyfder mawr yn y ffydd sydd yng Nghrist Iesu.