1 Timotheus 2:9-10
1 Timotheus 2:9-10 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
A gwragedd yr un fath. Dylen nhw beidio gwisgo dillad i dynnu sylw atyn nhw eu hunain, dim ond dillad sy’n weddus, yn synhwyrol ac yn bwrpasol. Dim steil gwallt a thlysau aur a pherlau a dillad costus sy’n bwysig, ond gwneud daioni. Dyna sy’n gwneud gwragedd sy’n proffesu eu bod yn addoli Duw yn ddeniadol.
1 Timotheus 2:9-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
a bod y gwragedd, yr un modd, yn gwisgo dillad gweddus, yn wylaidd a diwair, ac yn eu harddu eu hunain, nid â phlethiadau gwallt a thlysau aur a pherlau a gwisgoedd drud, ond â gweithredoedd da, fel sy'n gweddu i wragedd sy'n honni bod yn dduwiol.
1 Timotheus 2:9-10 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yr un modd hefyd, bod i’r gwragedd eu trefnu eu hunain mewn dillad gweddus, gyda gwylder a sobrwydd; nid â gwallt plethedig, neu aur, neu emau, neu ddillad gwerthfawr; Ond, (yr hyn sydd yn gweddu i wragedd a fo yn proffesu duwioldeb,) â gweithredoedd da.