1 Timotheus 2:1-7
1 Timotheus 2:1-7 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Felly, o flaen popeth arall dw i’n pwyso arnoch chi i weddïo dros bawb – pledio a gweddïo’n daer; gofyn a diolch i Dduw ar eu rhan nhw. Dylech chi wneud hynny dros frenhinoedd a phawb arall mewn safle o awdurdod, er mwyn i ni gael heddwch a llonydd i fyw bywydau duwiol a gweddus. Mae gweddïo felly yn beth da i’w wneud, ac yn plesio Duw sydd wedi’n hachub ni. Achos mae e am i bobl o bob math gael eu hachub a dod i wybod y gwir. Mae am iddyn nhw ddeall mai un Duw sydd, ac mai dim ond un person sy’n gallu pontio’r gagendor rhwng Duw a phobl. Iesu y Meseia ydy hwnnw, ac roedd e’n ddyn. Rhoddodd ei fywyd yn aberth i dalu’r pris am ollwng pobl yn rhydd. Daeth i roi tystiolaeth am fwriad Duw ar yr amser iawn. A dyma pam ces i fy newis yn negesydd ac yn gynrychiolydd personol iddo, i ddysgu pobl o genhedloedd eraill am beth sy’n wir, a’r angen i gredu yn Iesu Grist. A’r gwir dw i’n ei gyhoeddi, heb air o gelwydd!
1 Timotheus 2:1-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yn y lle cyntaf, felly, yr wyf yn annog bod ymbiliau, gweddïau, deisyfiadau a diolchiadau yn cael eu hoffrymu dros bawb, dros frenhinoedd a phawb sydd mewn awdurdod, inni gael byw ein bywyd yn dawel a heddychlon, yn llawn duwioldeb a gwedduster. Peth da yw hyn, a chymeradwy gan Dduw, ein Gwaredwr, sy'n dymuno gweld pob un yn cael ei achub ac yn dod i ganfod y gwirionedd. Oherwydd un Duw sydd, ac un cyfryngwr hefyd rhwng Duw a dynion, sef Crist Iesu, yntau yn ddyn. Fe'i rhoes ei hun yn bridwerth dros bawb, yn dystiolaeth yn yr amser priodol i fwriad Duw. Ar fy ngwir, heb ddim anwiredd, dyma'r neges y penodwyd fi i dystio iddi fel pregethwr ac apostol, yn athro i'r Cenhedloedd yn y ffydd ac yn y gwirionedd.
1 Timotheus 2:1-7 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Cynghori yr ydwyf am hynny, ymlaen pob peth, fod ymbiliau, gweddïau, deisyfiadau, a thalu diolch, dros bob dyn; Dros frenhinoedd, a phawb sydd mewn goruchafiaeth; fel y gallom ni fyw yn llonydd ac yn heddychol mewn pob duwioldeb ac onestrwydd. Canys hyn sydd dda a chymeradwy gerbron Duw ein Ceidwad; Yr hwn sydd yn ewyllysio bod pob dyn yn gadwedig, a’u dyfod i wybodaeth y gwirionedd. Canys un Duw sydd, ac un cyfryngwr hefyd rhwng Duw a dynion, y dyn Crist Iesu; Yr hwn a’i rhoddes ei hunan yn bridwerth dros bawb, i’w dystiolaethu yn yr amseroedd priod. I’r hyn y’m gosodwyd i yn bregethwr, ac yn apostol, (y gwir yr wyf yn ei ddywedyd yng Nghrist, nid wyf yn dywedyd celwydd;) yn athro’r Cenhedloedd mewn ffydd a gwirionedd.