1 Samuel 30:1-8
1 Samuel 30:1-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Pan gyrhaeddodd Dafydd a'i filwyr yn ôl i Siclag ymhen tridiau, yr oedd yr Amaleciaid wedi gwneud cyrch ar y Negef ac ar Siclag, ac wedi ymosod ar Siclag a'i llosgi. Yr oeddent wedi cymryd yn gaeth y gwragedd oedd yno, yn ifanc a hen; nid oeddent wedi lladd neb, ond mynd â hwy i'w canlyn wrth ymadael. Pan gyrhaeddodd Dafydd a'i ddynion, yr oedd y dref wedi ei llosgi â thân, a'u gwragedd, eu meibion a'u merched wedi mynd i gaethiwed. Torrodd Dafydd a'i ddynion allan i wylo'n uchel, nes eu bod yn rhy wan i wylo rhagor. Yr oedd dwy wraig Dafydd wedi eu caethgludo, sef Ahinoam o Jesreel ac Abigail o Garmel, gwraig Nabal. Aeth yn gyfyng iawn ar Ddafydd, oherwydd bod y bobl yn bygwth ei labyddio am fod ysbryd pob un o'r bobl yn chwerw o achos ei feibion a'i ferched ei hun; ond cafodd Dafydd nerth gan yr ARGLWYDD ei Dduw. Dywedodd Dafydd wrth yr offeiriad Abiathar fab Ahimelech, “Tyrd â'r effod yma i mi.” Wedi i Abiathar ddod â'r effod at Ddafydd, ymofynnodd Dafydd â'r ARGLWYDD, a gofyn, “Os af ar ôl y fintai hon, a ddaliaf hwy?” Atebodd ef, “Dos ar eu hôl; yr wyt yn sicr o'u dal a sicrhau gwaredigaeth.”
1 Samuel 30:1-8 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Erbyn i Dafydd a’i ddynion gyrraedd yn ôl i Siclag ddeuddydd wedyn, roedd yr Amaleciaid wedi bod yno ac wedi ymosod ar dde Jwda a Siclag. Roedden nhw wedi llosgi Siclag, ac wedi cymryd y gwragedd oedd yno yn gaethion, hen ac ifanc. Doedden nhw ddim wedi lladd neb, ond wedi mynd â nhw i ffwrdd gyda nhw. Roedd y dre wedi’i llosgi pan gyrhaeddodd Dafydd yno. Roedd eu gwragedd a’u plant wedi’u cymryd yn gaethion. A dyma Dafydd a’i ddynion yn dechrau crio’n uchel nes eu bod nhw’n rhy wan i grio ddim mwy. Roedd gwragedd Dafydd wedi’u cymryd yn gaeth hefyd, sef Achinoam o Jesreel ac Abigail, gweddw Nabal o Carmel. Roedd Dafydd mewn trwbwl. Roedd y dynion yn bygwth taflu cerrig ato i’w ladd, am eu bod nhw i gyd mor chwerw am beth oedd wedi digwydd i’w plant. Ond cafodd Dafydd nerth gan yr ARGLWYDD ei Dduw. Yna dyma Dafydd yn galw’r offeiriad, Abiathar fab Achimelech, a dweud wrtho, “Tyrd â’r effod i mi.” Daeth Abiathar a’r effod iddo. A dyma Dafydd yn gofyn i’r ARGLWYDD, “Os af i ar ôl y rhai wnaeth ymosod, wna i eu dal nhw?” A dyma’r ARGLWYDD yn ei ateb, “Dos ar eu holau. Byddi’n eu dal nhw ac yn llwyddo i achub y rhai sydd wedi cael eu cipio!”
1 Samuel 30:1-8 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A phan ddaeth Dafydd a’i wŷr i Siclag y trydydd dydd, yr Amaleciaid a ruthrasent ar du y deau, ac ar Siclag, ac a drawsent Siclag, ac a’i llosgasent hi â thân. Caethgludasent hefyd y gwragedd oedd ynddi: o fychan hyd fawr ni laddasent hwy neb, eithr dygasent hwy ymaith, ac aethent i’w ffordd. Felly y daeth Dafydd a’i wŷr i’r ddinas; ac wele hi wedi ei llosgi â thân: eu gwragedd hwynt hefyd, a’u meibion, a’u merched, a gaethgludasid. Yna dyrchafodd Dafydd a’r bobl oedd gydag ef eu llef, ac a wylasant, hyd nad oedd nerth ynddynt i wylo. Dwy wraig Dafydd hefyd a gaethgludasid, Ahinoam y Jesreeles, ac Abigail, gwraig Nabal y Carmeliad. A bu gyfyng iawn ar Dafydd; canys y bobl a feddyliasant ei labyddio ef; oherwydd chwerwasai enaid yr holl bobl, bob un am ei feibion, ac am ei ferched: ond Dafydd a ymgysurodd yn yr ARGLWYDD ei DDUW. A Dafydd a ddywedodd wrth Abiathar yr offeiriad, mab Ahimelech, Dwg i mi, atolwg, yr effod, Ac Abiathar a ddug yr effod at Dafydd. A Dafydd a ymofynnodd â’r ARGLWYDD, gan ddywedyd, A erlidiaf fi ar ôl y dorf hon? a oddiweddaf fi hi? Ac efe a ddywedodd wrtho, Erlid: canys gan oddiweddyd y goddiweddi, a chan waredu y gwaredi.