Logo YouVersion
Eicon Chwilio

1 Samuel 30

30
Dafydd yn achub teuluoedd ei filwyr
1Erbyn i Dafydd a’i ddynion gyrraedd yn ôl i Siclag ddeuddydd wedyn, roedd yr Amaleciaid wedi bod yno ac wedi ymosod ar dde Jwda a Siclag. Roedden nhw wedi llosgi Siclag, 2ac wedi cymryd y gwragedd oedd yno yn gaethion, hen ac ifanc. Doedden nhw ddim wedi lladd neb, ond wedi mynd â nhw i ffwrdd gyda nhw.
3Roedd y dre wedi’i llosgi pan gyrhaeddodd Dafydd yno. Roedd eu gwragedd a’u plant wedi’u cymryd yn gaethion. 4A dyma Dafydd a’i ddynion yn dechrau crio’n uchel nes eu bod nhw’n rhy wan i grio ddim mwy. 5Roedd gwragedd Dafydd wedi’u cymryd yn gaeth hefyd, sef Achinoam o Jesreel ac Abigail, gweddw Nabal o Carmel. 6Roedd Dafydd mewn trwbwl. Roedd y dynion yn bygwth taflu cerrig ato i’w ladd, am eu bod nhw i gyd mor chwerw am beth oedd wedi digwydd i’w plant. Ond cafodd Dafydd nerth gan yr ARGLWYDD ei Dduw.
7Yna dyma Dafydd yn galw’r offeiriad, Abiathar fab Achimelech, a dweud wrtho, “Tyrd â’r effod i mi.” Daeth Abiathar a’r effod iddo. 8A dyma Dafydd yn gofyn i’r ARGLWYDD, “Os af i ar ôl y rhai wnaeth ymosod, wna i eu dal nhw?” A dyma’r ARGLWYDD yn ei ateb, “Dos ar eu holau. Byddi’n eu dal nhw ac yn llwyddo i achub y rhai sydd wedi cael eu cipio!”
9Felly i ffwrdd a Dafydd, a’i chwe chant o ddynion gydag e. Dyma nhw’n cyrraedd Wadi Besor,#30:9 Wadi Besor Rhyw 15 milltir i’r de o Siclag. a dyma rai o’r dynion yn aros yno. 10Aeth Dafydd yn ei flaen gyda pedwar cant o’r dynion. (Roedd dau gant wedi aros ar ôl am eu bod yn rhy flinedig i groesi Wadi Besor.)
11Dyma nhw’n dod o hyd i ddyn o’r Aifft mewn cae, a mynd â fe at Dafydd. Dyma nhw’n rhoi ychydig o fwyd iddo a diod o ddŵr. 12Wedyn dyma nhw’n rhoi bar o ffigys a dau lond dwrn o rhesins iddo, a daeth ato’i hun. Doedd e ddim wedi cael dim byd i’w fwyta na’i yfed ers tri diwrnod.
13Dyma Dafydd yn ei holi, “O ble ti’n dod? Pwy ydy dy feistr di?” A dyma’r bachgen yn ateb, “Dw i’n dod o’r Aifft ac yn gaethwas i un o’r Amaleciaid. Gadawodd fy meistr fi yma dridiau yn ôl am fy mod i’n sâl. 14Roedden ni newydd ymosod ar Negef y Cerethiaid,#30:14 Enw arall ar y Philistiaid, oedd yn dod o Creta yn wreiddiol. ar ardal Jwda a Negef Caleb. Ac roedden ni wedi rhoi Siclag ar dân.” 15Dyma Dafydd yn gofyn iddo, “Wnei di’n harwain ni at y criw wnaeth ymosod?” A dyma fe’n ateb, “Addo i mi o flaen dy Dduw na wnei di fy lladd i na’m rhoi i yn ôl i’m meistr, a gwna i dy arwain di atyn nhw.”
16Pan aeth e â Dafydd atyn nhw, roedden nhw dros bobman. Roedden nhw’n bwyta ac yn yfed ac yn dathlu am eu bod wedi llwyddo i ddwyn cymaint o wlad y Philistiaid ac o Jwda. 17Yna cyn iddi wawrio dyma Dafydd a’i fyddin yn ymosod arnyn nhw. Buon nhw’n ymladd drwy’r dydd nes oedd hi’n dechrau nosi. Yr unig rai wnaeth lwyddo i ddianc oedd rhyw bedwar cant o ddynion ifanc wnaeth ffoi ar gefn camelod. 18Llwyddodd Dafydd i achub popeth oedd yr Amaleciaid wedi’i gymryd, gan gynnwys ei ddwy wraig. 19Doedd neb ar goll, o’r ifancaf i’r hynaf, gan gynnwys y plant. Cafodd bawb a phopeth oedd wedi’i ddwyn yn ôl. 20Yna cymerodd Dafydd y defaid a’r gwartheg a’u gyrru nhw o flaen gweddill ei anifeiliaid. Roedd pawb yn dweud, “Dyma wobr Dafydd!”
21Aeth Dafydd yn ôl i Wadi Besor, at y dau gant o ddynion oedd wedi bod yn rhy flinedig i’w ddilyn. Dyma’r dynion yn dod allan i’w gyfarfod e a’i filwyr. Pan gwrddon nhw dyma Dafydd yn eu cyfarch. 22Ond roedd rhai o’r dynion oedd wedi mynd gyda Dafydd yn ddynion drwg, a dechreuon nhw godi stŵr a dweud, “Pam ddylai’r rhain gael siâr o’r ysbail? Wnaethon nhw ddim dod gyda ni! Gad i bob un ohonyn nhw gymryd ei wraig a’i blant yn ôl, ond wedyn rhaid iddyn nhw adael!” 23Ond meddai Dafydd, “Na, peidiwch gwneud hynny ar ôl popeth mae’r ARGLWYDD wedi’i roi i ni! Fe ydy’r un wnaeth ofalu amdanon ni, a rhoi’r dynion wnaeth ymosod arnon ni yn ei gafael. 24Does neb yn mynd i wrando arnoch chi yn siarad fel yna! Bydd siâr pawb yr un fath – y rhai aeth i ymladd a’r rhai arhosodd gyda’r offer. Bydd pawb yn cael yr un faint.#Numeri 31:25-5425A dyna’r rheol a’r drefn yn Israel hyd heddiw.
26Wedi i Dafydd ddod yn ôl i Siclag, dyma fe’n anfon peth o’r ysbail i’r arweinwyr yn Jwda roedd e’n ffrindiau gyda nhw. “Dyma i chi rodd o ysbail gelynion yr ARGLWYDD!” meddai. 27Anfonodd beth i’r lleoedd canlynol: Bethel, Ramoth yn y Negef, a Iattir; 28Aroer, Siffmoth, Eshtemoa, 29a Rachal; trefi’r Ierachmeëliaid a’r Ceneaid; 30Horma, Bor-ashan, Athach, 31a Hebron; ac i bobman arall roedd e wedi bod gyda’i ddynion o bryd i’w gilydd.

Dewis Presennol:

1 Samuel 30: bnet

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd