1 Samuel 29
29
Y Philistiaid yn gwrthod help Dafydd
1Roedd y Philistiaid wedi casglu at ei gilydd yn Affec, a dyma Israel yn codi gwersyll wrth y ffynnon yn Jesreel. 2Roedd llywodraethwyr y Philistiaid yn archwilio eu hunedau milwrol (unedau o gannoedd a miloedd), ac yn y cefn roedd Dafydd a’i ddynion yn cael eu harchwilio gydag unedau Achish. 3“Pwy ydy’r Hebreaid yma?” holodd capteiniaid y Philistiaid. “Dafydd ydy e,” meddai Achish wrthyn nhw. “Roedd e’n arfer bod yn was i Saul, brenin Israel. Ond mae e wedi bod gyda mi bellach ers blwyddyn a mwy. Dydy e wedi gwneud dim o’i le o’r diwrnod y daeth e drosodd aton ni.” 4Ond roedd capteiniaid y Philistiaid yn wyllt hefo Achish, “Anfon y dyn yn ei ôl! Gad iddo fynd yn ôl i ble bynnag roist ti iddo fyw. Paid gadael iddo ddod i ymladd gyda ni, rhag ofn iddo droi yn ein herbyn ni yng nghanol y frwydr. Pa ffordd well fyddai iddo ennill ffafr ei feistr eto na gyda phennau’r dynion yma? 5Hwn ydy’r Dafydd roedden nhw’n canu amdano wrth ddawnsio,
‘Mae Saul wedi lladd miloedd,
ond Dafydd ddegau o filoedd!’”
6Felly dyma Achish yn galw Dafydd ato a dweud, “Mor siŵr â bod yr ARGLWYDD yn fyw, dw i’n gwybod dy fod ti’n ddyn gonest. Byddwn i wrth fy modd yn dy gael di’n mynd allan gyda ni i ymladd. Dwyt ti wedi gwneud dim o’i le o’r diwrnod y dest ti drosodd aton ni. Ond dydy’r arweinwyr eraill ddim yn hapus. 7Felly, dos yn ôl heb wneud ffws. Paid gwneud dim byd i’w pechu nhw.”
8“Ond be dw i wedi’i wneud o’i le?” meddai Dafydd. “O’r diwrnod y dois i atat ti hyd heddiw, pa fai wyt ti wedi’i gael yn dy was? Pam ga i ddim dod i ryfela yn erbyn gelynion fy meistr, y brenin?” 9Atebodd Achish e, “Dw i’n gwybod dy fod ti mor ddibynnol ag angel Duw! Ond mae arweinwyr eraill y Philistiaid wedi dweud na chei di fynd i ryfela gyda nhw. 10Felly, coda’n gynnar bore fory, ti a gweision dy feistr sydd gyda ti. Gallwch fynd cyn gynted ag y bydd hi’n olau.”
11Felly dyma Dafydd a’i ddynion yn codi ben bore, a mynd yn ôl i wlad y Philistiaid. Ac aeth y Philistiaid i fyny i Jesreel.
Dewis Presennol:
1 Samuel 29: bnet
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 2023