1 Samuel 21:12-13
1 Samuel 21:12-13 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Roedd clywed hyn yn codi ofn ar Dafydd. Beth fyddai Achish, brenin Gath, yn ei wneud iddo? Felly dyma Dafydd yn dechrau ymddwyn yn od o’u blaenau nhw, a chymryd arno ei fod yn wallgof. Roedd rhaid iddyn nhw ei atal. Roedd e’n crafu drysau’r giât ac yn slefrian poer i lawr ei farf.
Rhanna
Darllen 1 Samuel 211 Samuel 21:12-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Cymerodd Dafydd y geiriau hyn at ei galon, ac ofnodd rhag Achis brenin Gath. Newidiodd ei ymddygiad o'u blaen, a dechrau ymddwyn fel ynfytyn yn eu mysg, a chripio drysau'r porth, a glafoerio hyd ei farf.
Rhanna
Darllen 1 Samuel 211 Samuel 21:12-13 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A Dafydd a osododd y geiriau hynny yn ei galon, ac a ofnodd yn ddirfawr rhag Achis brenin Gath. Ac efe a newidiodd ei wedd yn eu golwg hwynt; ac a gymerth arno ynfydu rhwng eu dwylo hwynt, ac a gripiodd ddrysau y porth, ac a ollyngodd ei boeryn i lawr ar ei farf.
Rhanna
Darllen 1 Samuel 21