Logo YouVersion
Eicon Chwilio

1 Samuel 2:1-10

1 Samuel 2:1-10 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Dyma Hanna yn gweddïo fel hyn: “Dw i mor falch o’r ARGLWYDD. Gallaf godi fy mhen a chwerthin ar fy ngelynion, am fy mod mor hapus dy fod wedi fy achub. Does neb yn sanctaidd fel yr ARGLWYDD. Does neb tebyg i ti; neb sy’n graig fel ein Duw ni. Peidiwch brolio’ch hunain a siarad mor snobyddlyd, oherwydd mae’r ARGLWYDD yn Dduw sy’n gwybod popeth, ac mae’n barnu popeth sy’n cael ei wneud. Bydd grym milwrol y rhai cryfion yn cael ei dorri, ond bydd y rhai sy’n baglu yn cael nerth. Bydd y rhai sydd ar ben eu digon yn gorfod gweithio i fwyta, ond bydd y rhai sy’n llwgu’n cael eu llenwi. Bydd y wraig sy’n methu cael plant yn cael saith, ond yr un sydd â llawer yn llewygu. Yr ARGLWYDD sy’n lladd a rhoi bywyd. Fe sy’n gyrru rhai i’r bedd ac yn achub eraill oddi yno. Yr ARGLWYDD sy’n gwneud rhai yn dlawd ac eraill yn gyfoethog; fe sy’n tynnu rhai i lawr ac yn codi eraill i fyny. Mae e’n codi pobl dlawd o’r baw, a’r rhai sydd mewn angen o’r domen sbwriel i eistedd gyda’r bobl bwysig ar y sedd anrhydedd. Duw sy’n dal colofnau’r ddaear, a fe osododd y byd yn ei le arnyn nhw. Mae’n gofalu am y rhai sy’n ffyddlon iddo, ond bydd y rhai drwg yn darfod yn y tywyllwch, achos dydy pobl ddim yn llwyddo yn eu nerth eu hunain. Bydd gelynion yr ARGLWYDD yn cael eu dryllio, bydd e’n taranu o’r nefoedd yn eu herbyn. Yr ARGLWYDD sy’n barnu’r byd i gyd. Mae’n rhoi grym i’w frenin, a buddugoliaeth i’r un mae wedi’i ddewis.”