Gweddïodd Hanna a dweud: “Gorfoleddodd fy nghalon yn yr ARGLWYDD, dyrchafwyd fy mhen yn yr ARGLWYDD. Codaf fy llais yn erbyn fy ngelynion, oherwydd rwy'n llawenhau yn dy iachawdwriaeth. Nid oes sanct fel yr ARGLWYDD, yn wir nid oes neb heblaw tydi, ac nid oes craig fel ein Duw ni. Peidiwch ag amlhau geiriau trahaus, na gadael gair hy o'ch genau; canys Duw sy'n gwybod yw'r ARGLWYDD, ac ef sy'n pwyso gweithredoedd. Dryllir bwâu y cedyrn, ond gwregysir y gwan â nerth. Bydd y porthiannus yn gweithio am eu bara, ond y newynog yn gorffwyso bellach. Planta'r ddi-blant seithwaith, ond dihoeni a wna'r aml ei phlant. Yr ARGLWYDD sy'n lladd ac yn bywhau, yn tynnu i lawr i Sheol ac yn dyrchafu. Yr ARGLWYDD sy'n tlodi ac yn cyfoethogi, yn darostwng a hefyd yn dyrchafu. Y mae'n codi'r gwan o'r llwch ac yn dyrchafu'r anghenus o'r domen, i'w osod i eistedd gyda phendefigion ac i etifeddu cadair anrhydedd; canys eiddo'r ARGLWYDD golofnau'r ddaear, ac ef a osododd y byd arnynt. Y mae'n gwarchod camre ei ffyddloniaid, ond y mae'r drygionus yn tewi mewn tywyllwch; canys nid trwy rym y mae trechu. Dryllir y rhai sy'n ymryson â'r ARGLWYDD; tarana o'r nef yn eu herbyn. Yr ARGLWYDD a farna eithafoedd daear; fe rydd nerth i'w frenin a dyrchafu pen ei eneiniog.”
Darllen 1 Samuel 2
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: 1 Samuel 2:1-10
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos