1 Samuel 18:1-5
1 Samuel 18:1-5 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ar ôl siarad â Saul dyma Dafydd yn cyfarfod Jonathan, ei fab, a daeth y ddau yn ffrindiau gorau. Roedd Jonathan yn caru Dafydd fwy na fe ei hun. O’r diwrnod hwnnw ymlaen dyma Saul yn cadw Dafydd gydag e, a chafodd e ddim mynd adre at ei dad. Roedd Jonathan a Dafydd wedi ymrwymo i fod yn ffyddlon i’w gilydd. Roedd Jonathan yn caru Dafydd fwy na fe ei hun. Tynnodd ei fantell a’i rhoi am Dafydd, a’i grys hefyd, a hyd yn oed ei gleddyf, ei fwa a’i felt. Roedd Dafydd yn llwyddo beth bynnag roedd Saul yn gofyn iddo’i wneud. Felly dyma Saul yn ei wneud yn gapten ar ei fyddin. Ac roedd hynny’n plesio pawb, gan gynnwys swyddogion Saul.
1 Samuel 18:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Wedi i Ddafydd orffen siarad â Saul, ymglymodd enaid Jonathan wrth enaid Dafydd, a charodd ef fel ef ei hun. Cymerodd Saul ef y dydd hwnnw, ac ni chaniataodd iddo fynd adref at ei dad. Gwnaeth Jonathan gyfamod â Dafydd am ei fod yn ei garu fel ef ei hun; tynnodd y fantell oedd amdano a'i rhoi i Ddafydd; hefyd ei arfau, hyd yn oed ei gleddyf, ei fwa a'i wregys. Llwyddodd Dafydd ym mhob gorchwyl a roddai Saul iddo, a gosododd Saul ef yn bennaeth ei filwyr, er boddhad i bawb, gan gynnwys swyddogion Saul.
1 Samuel 18:1-5 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac wedi darfod iddo ymddiddan â Saul, enaid Jonathan a ymglymodd wrth enaid Dafydd; a Jonathan a’i carodd ef megis ei enaid ei hun. A Saul a’i cymerth ef ato y diwrnod hwnnw, ac ni adawai iddo ddychwelyd i dŷ ei dad. Yna Jonathan a Dafydd a wnaethant gyfamod; oherwydd efe a’i carai megis ei enaid ei hun. A Jonathan a ddiosgodd y fantell oedd amdano ei hun, ac a’i rhoddes i Dafydd, a’i wisgoedd, ie, hyd yn oed ei gleddyf, a’i fwa, a’i wregys. A Dafydd a aeth i ba le bynnag yr anfonodd Saul ef, ac a ymddug yn ddoeth. A Saul a’i gosododd ef ar y rhyfelwyr: ac efe oedd gymeradwy yng ngolwg yr holl bobl, ac yng ngolwg gweision Saul hefyd.