Logo YouVersion
Eicon Chwilio

1 Samuel 18:1-16

1 Samuel 18:1-16 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Ar ôl siarad â Saul dyma Dafydd yn cyfarfod Jonathan, ei fab, a daeth y ddau yn ffrindiau gorau. Roedd Jonathan yn caru Dafydd fwy na fe ei hun. O’r diwrnod hwnnw ymlaen dyma Saul yn cadw Dafydd gydag e, a chafodd e ddim mynd adre at ei dad. Roedd Jonathan a Dafydd wedi ymrwymo i fod yn ffyddlon i’w gilydd. Roedd Jonathan yn caru Dafydd fwy na fe ei hun. Tynnodd ei fantell a’i rhoi am Dafydd, a’i grys hefyd, a hyd yn oed ei gleddyf, ei fwa a’i felt. Roedd Dafydd yn llwyddo beth bynnag roedd Saul yn gofyn iddo’i wneud. Felly dyma Saul yn ei wneud yn gapten ar ei fyddin. Ac roedd hynny’n plesio pawb, gan gynnwys swyddogion Saul. Pan aeth y fyddin adre ar ôl i Dafydd ladd y Philistiad, roedd merched pob tref yn dod allan i groesawu’r brenin Saul. Roedden nhw’n canu a dawnsio’n llawen i gyfeiliant offerynnau taro a llinynnol. Wrth ddathlu’n frwd roedden nhw’n canu fel hyn: “Mae Saul wedi lladd miloedd, ond Dafydd ddegau o filoedd!” Doedd Saul ddim yn hapus o gwbl am y peth. Roedd wedi gwylltio. “Maen nhw’n rhoi degau o filoedd i Dafydd, a dim ond miloedd i mi,” meddai. “Peth nesa, byddan nhw eisiau’i wneud e’n frenin!” Felly o hynny ymlaen roedd Saul yn amheus o Dafydd, ac yn cadw llygad arno. Y diwrnod wedyn dyma ysbryd drwg oddi wrth Dduw yn dod ar Saul, a dyma fe’n dechrau ymddwyn fel dyn gwallgo yn y tŷ. Roedd Dafydd wrthi’n canu’r delyn iddo fel arfer. Roedd gwaywffon yn llaw Saul, a dyma fe’n taflu’r waywffon at Dafydd. “Mi hoelia i e i’r wal,” meddyliodd. Digwyddodd hyn ddwywaith, ond llwyddodd Dafydd i’w osgoi. Roedd y sefyllfa’n codi ofn ar Saul, am fod yr ARGLWYDD gyda Dafydd, ond wedi’i adael e. Felly dyma Saul yn anfon Dafydd i ffwrdd a’i wneud yn gapten ar uned o fil o filwyr. Dafydd oedd yn arwain y fyddin allan i frwydro. Roedd yn llwyddo beth bynnag roedd e’n ei wneud, am fod yr ARGLWYDD gydag e. Pan welodd Saul mor llwyddiannus oedd e roedd yn ei ofni fwy fyth. Ond roedd pobl Israel a Jwda i gyd wrth eu boddau gyda Dafydd, am mai fe oedd yn arwain y fyddin.

1 Samuel 18:1-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Wedi i Ddafydd orffen siarad â Saul, ymglymodd enaid Jonathan wrth enaid Dafydd, a charodd ef fel ef ei hun. Cymerodd Saul ef y dydd hwnnw, ac ni chaniataodd iddo fynd adref at ei dad. Gwnaeth Jonathan gyfamod â Dafydd am ei fod yn ei garu fel ef ei hun; tynnodd y fantell oedd amdano a'i rhoi i Ddafydd; hefyd ei arfau, hyd yn oed ei gleddyf, ei fwa a'i wregys. Llwyddodd Dafydd ym mhob gorchwyl a roddai Saul iddo, a gosododd Saul ef yn bennaeth ei filwyr, er boddhad i bawb, gan gynnwys swyddogion Saul. Un tro yr oeddent ar eu ffordd adref, a Dafydd yn dychwelyd ar ôl taro'r Philistiaid, a daeth y gwragedd allan ym mhob tref yn Israel i edrych; aeth y merched dawnsio i gyfarfod y Brenin Saul gyda thympanau a molawdau a thrionglau, ac yn eu llawenydd canodd y gwragedd: “Lladdodd Saul ei filoedd, a Dafydd ei fyrddiynau.” Digiodd Saul yn arw, a chafodd ei gythruddo gan y dywediad. Meddai, “Maent yn rhoi myrddiynau i Ddafydd, a dim ond miloedd i mi; beth yn rhagor sydd iddo ond y frenhiniaeth?” O'r diwrnod hwnnw ymlaen yr oedd Saul yn cadw llygad ar Ddafydd. Trannoeth meddiannwyd Saul gan yr ysbryd drwg, a pharablodd yn wallgof yng nghanol y tŷ, ac yr oedd Dafydd yn canu'r delyn yn ôl ei arfer. Yr oedd gan Saul waywffon yn ei law, a hyrddiodd hi, gan feddwl trywanu Dafydd i'r pared, ond osgôdd Dafydd ef ddwywaith. Cafodd Saul ofn rhag Dafydd oherwydd fod yr ARGLWYDD wedi troi o'i blaid ef ac yn erbyn Saul. Gyrrodd Saul ef i ffwrdd oddi wrtho, a'i wneud yn gapten ar fil o ddynion; ac ef oedd yn arwain y fyddin. Yr oedd Dafydd yn llwyddiannus ym mhopeth a wnâi, ac yr oedd yr ARGLWYDD gydag ef. Pan welodd Saul mor llwyddiannus oedd Dafydd, yr oedd arno fwy o'i ofn. Yr oedd Israel a Jwda i gyd yn ymserchu yn Nafydd am mai ef oedd yn arwain y fyddin.

1 Samuel 18:1-16 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Ac wedi darfod iddo ymddiddan â Saul, enaid Jonathan a ymglymodd wrth enaid Dafydd; a Jonathan a’i carodd ef megis ei enaid ei hun. A Saul a’i cymerth ef ato y diwrnod hwnnw, ac ni adawai iddo ddychwelyd i dŷ ei dad. Yna Jonathan a Dafydd a wnaethant gyfamod; oherwydd efe a’i carai megis ei enaid ei hun. A Jonathan a ddiosgodd y fantell oedd amdano ei hun, ac a’i rhoddes i Dafydd, a’i wisgoedd, ie, hyd yn oed ei gleddyf, a’i fwa, a’i wregys. A Dafydd a aeth i ba le bynnag yr anfonodd Saul ef, ac a ymddug yn ddoeth. A Saul a’i gosododd ef ar y rhyfelwyr: ac efe oedd gymeradwy yng ngolwg yr holl bobl, ac yng ngolwg gweision Saul hefyd. A bu, wrth ddyfod ohonynt, pan ddychwelodd Dafydd o ladd y Philistiad, ddyfod o’r gwragedd allan o holl ddinasoedd Israel, dan ganu a dawnsio, i gyfarfod â’r brenin Saul â thympanau, â gorfoledd, ac ag offer cerdd dannau. A’r gwragedd wrth ganu a ymatebent, ac a ddywedent, Lladdodd Saul ei filoedd, a Dafydd ei fyrddiwn. A digiodd Saul yn ddirfawr, a’r ymadrodd hwn oedd ddrwg yn ei olwg ef; ac efe a ddywedodd, Rhoddasant i Dafydd fyrddiwn, ac i mi y rhoddasant filoedd: beth mwy a roddent iddo ef, ond y frenhiniaeth? A bu Saul â’i lygad ar Dafydd o’r dydd hwnnw allan. Bu hefyd drannoeth, i’r drwg ysbryd oddi wrth DDUW ddyfod ar Saul; ac efe a broffwydodd yng nghanol y tŷ: a Dafydd a ganodd â’i law, fel o’r blaen: a gwaywffon oedd yn llaw Saul. A Saul a daflodd y waywffon; ac a ddywedodd, Trawaf trwy Dafydd yn y pared. A Dafydd a giliodd ddwywaith o’i ŵydd ef. A Saul oedd yn ofni Dafydd; oherwydd bod yr ARGLWYDD gydag ef, a chilio ohono oddi wrth Saul. Am hynny Saul a’i gyrrodd ef ymaith oddi wrtho, ac a’i gosododd ef yn dywysog ar fil: ac efe a aeth i mewn ac allan o flaen y bobl. A Dafydd a ymddug yn ddoeth yn ei holl ffyrdd; a’r ARGLWYDD oedd gydag ef. A phan welodd Saul ei fod ef yn ddoeth iawn, efe a’i hofnodd ef. Eithr holl Israel a Jwda a garodd Dafydd, am ei fod ef yn myned i mewn ac allan o’u blaen hwynt.