1 Samuel 15:22-23
1 Samuel 15:22-23 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Yna dyma Samuel yn dweud, “Beth sy’n rhoi mwya o bleser i’r ARGLWYDD? Aberth ac offrwm i’w losgi, neu wneud beth mae e’n ddweud? Mae gwrando yn well nag aberth; mae talu sylw yn well na braster hyrddod. Mae gwrthryfela yn bechod, fel dablo mewn dewiniaeth, ac mae anufudd-dod mor ddrwg ac addoli eilunod. Am dy fod wedi gwrthod gwrando ar yr ARGLWYDD mae e wedi dy wrthod di fel brenin.”
1 Samuel 15:22-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yna dywedodd Samuel: “A oes gan yr ARGLWYDD bleser mewn offrymau ac ebyrth, fel mewn gwrando ar lais yr ARGLWYDD? Gwell gwrando nag aberth, ac ufudd-dod na braster hyrddod. Yn wir, pechod fel dewiniaeth yw anufudd-dod, a throsedd fel addoli eilunod yw cyndynrwydd. Am i ti wrthod gair yr ARGLWYDD, gwrthododd ef di fel brenin.”
1 Samuel 15:22-23 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A Samuel a ddywedodd, A yw ewyllys yr ARGLWYDD ar boethoffrymau, neu ebyrth, megis ar wrando ar lais yr ARGLWYDD? Wele, gwrando sydd well nag aberth, ac ufuddhau na braster hyrddod. Canys anufudd-dod sydd fel pechod dewiniaeth; a throseddiad sydd anwiredd a delw-addoliaeth. Oherwydd i ti fwrw ymaith air yr ARGLWYDD, yntau a’th fwrw dithau ymaith o fod yn frenin.