Logo YouVersion
Eicon Chwilio

1 Samuel 15:12-26

1 Samuel 15:12-26 beibl.net 2015, 2023 (BNET)

Yna’n gynnar iawn y bore wedyn aeth Samuel i weld Saul. Ond dyma rywun yn dweud wrtho fod Saul wedi mynd i dref Carmel i godi cofeb iddo’i hun yno, ac yna ymlaen i Gilgal. Pan ddaeth Samuel o hyd i Saul, dyma Saul yn ei gyfarch, “Bendith yr ARGLWYDD arnat i. Dw i wedi gwneud popeth ddwedodd yr ARGLWYDD.” Ond dyma Samuel yn ei ateb, “Os felly, beth ydy sŵn y defaid a’r gwartheg yna dw i’n ei glywed?” Atebodd Saul, “Y milwyr wnaeth eu cymryd nhw oddi ar yr Amaleciaid. Maen nhw wedi cadw’r defaid a’r gwartheg gorau i’w haberthu i’r ARGLWYDD dy Dduw. Mae popeth arall wedi cael ei ddinistrio.” Ond dyma Samuel yn dweud wrth Saul, “Taw, i mi gael dweud wrthot ti beth ddwedodd Duw wrtho i neithiwr.” “Dwed wrtho i,” meddai Saul. Ac meddai Samuel, “Pan oeddet ti’n meddwl dy fod ti’n neb o bwys, cest ti dy wneud yn arweinydd ar lwythau Israel. Dewisodd yr ARGLWYDD di yn frenin ar Israel. Wedyn dyma fe’n dy anfon di allan a dweud, ‘Dos i ddinistrio’r Amaleciaid drwg yna. Ymladd yn eu herbyn nhw a dinistria nhw’n llwyr.’ Felly pam wnest ti ddim gwrando? Yn lle hynny, rwyt ti wedi rhuthro ar yr ysbail i gael be alli di i ti dy hun. Ti wedi gwneud drwg yng ngolwg yr ARGLWYDD.” Dyma Saul yn ateb Samuel, “Ond dw i hefyd wedi gwneud beth ddwedodd yr ARGLWYDD! Es i ar yr ymgyrch fel roedd e wedi dweud. Dw i wedi dal y Brenin Agag ac wedi dinistrio’r Amaleciaid yn llwyr. Cymerodd y fyddin y defaid a’r gwartheg gorau i’w haberthu nhw i’r ARGLWYDD dy Dduw yma yn Gilgal!” Yna dyma Samuel yn dweud, “Beth sy’n rhoi mwya o bleser i’r ARGLWYDD? Aberth ac offrwm i’w losgi, neu wneud beth mae e’n ddweud? Mae gwrando yn well nag aberth; mae talu sylw yn well na braster hyrddod. Mae gwrthryfela yn bechod, fel dablo mewn dewiniaeth, ac mae anufudd-dod mor ddrwg ac addoli eilunod. Am dy fod wedi gwrthod gwrando ar yr ARGLWYDD mae e wedi dy wrthod di fel brenin.” Dyma Saul yn cyfaddef i Samuel, “Dw i wedi pechu. Dw i wedi bod yn anufudd i’r ARGLWYDD a gwrthod gwrando arnat ti. Roedd gen i ofn y milwyr, a dyma fi’n gwneud beth roedden nhw eisiau. Plîs maddau i mi. Tyrd yn ôl hefo fi, i mi gael addoli’r ARGLWYDD.” “Na,” meddai Samuel, “wna i ddim mynd yn ôl hefo ti. Ti wedi gwrthod gwrando ar yr ARGLWYDD ac mae e wedi dy wrthod di yn frenin ar Israel.”

1 Samuel 15:12-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Bore trannoeth cododd yn gynnar i gyfarfod â Saul, ond dywedwyd wrtho fod Saul wedi mynd i Garmel, ac wedi codi cofeb iddo'i hun yno cyn troi'n ôl a mynd draw i Gilgal. Wedi i Samuel ddod o hyd i Saul, dywedodd Saul wrtho, “Bendith yr ARGLWYDD arnat! Yr wyf wedi cadw gorchymyn yr ARGLWYDD.” Gofynnodd Samuel, “Beth ynteu yw'r brefu defaid sydd yn fy nghlustiau, a'r sŵn gwartheg yr wyf yn ei glywed?” Dywedodd Saul, “Y bobl sydd wedi dod â hwy oddi wrth yr Amaleciaid, oherwydd y maent wedi arbed y gorau o'r defaid a'r gwartheg er mwyn aberthu i'r ARGLWYDD dy Dduw. Yr ydym wedi difa'r gweddill.” Dywedodd Samuel wrth Saul, “Taw, imi gael dweud wrthyt beth a ddywedodd yr ARGLWYDD wrthyf neithiwr.” Meddai yntau wrtho, “Dywed.” A dywedodd Samuel, “Er iti fod yn fychan yn d'olwg dy hun, oni ddaethost yn ben ar lwythau Israel, a'r ARGLWYDD wedi d'eneinio'n frenin ar Israel? Fe anfonodd yr ARGLWYDD di allan a dweud, ‘Dos a difroda'r pechaduriaid hynny, Amalec, a rhyfela â hwy nes eu difa.’ Pam na wrandewaist ar lais yr ARGLWYDD, ond rhuthro ar yr ysbail, a gwneud drwg yng ngolwg yr ARGLWYDD?” Dywedodd Saul wrth Samuel, “Ond yr wyf wedi gwrando ar lais yr ARGLWYDD, a mynd fel yr anfonodd ef fi; deuthum ag Agag brenin Amalec yn ôl, a difrodi'r Amaleciaid. Fe gymerodd y bobl beth o'r ysbail, yn ddefaid a gwartheg, y pigion o'r diofryd, er mwyn aberthu i'r ARGLWYDD dy Dduw yn Gilgal.” Yna dywedodd Samuel: “A oes gan yr ARGLWYDD bleser mewn offrymau ac ebyrth, fel mewn gwrando ar lais yr ARGLWYDD? Gwell gwrando nag aberth, ac ufudd-dod na braster hyrddod. Yn wir, pechod fel dewiniaeth yw anufudd-dod, a throsedd fel addoli eilunod yw cyndynrwydd. Am i ti wrthod gair yr ARGLWYDD, gwrthododd ef di fel brenin.” Dywedodd Saul wrth Samuel, “Yr wyf wedi pechu, oblegid yr wyf wedi torri gorchymyn yr ARGLWYDD a'th air dithau, am imi ofni'r bobl a gwrando ar eu llais. Maddau'n awr fy mai, a thyrd yn ôl gyda mi, er mwyn imi ymostwng i'r ARGLWYDD.” Ond dywedodd Samuel wrth Saul, “Na ddof; yr wyt wedi gwrthod gair yr ARGLWYDD, ac y mae'r ARGLWYDD wedi dy wrthod di fel brenin ar Israel.”

1 Samuel 15:12-26 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

A phan gyfododd Samuel yn fore i gyfarfod Saul, mynegwyd i Samuel, gan ddywedyd, Daeth Saul i Carmel; ac wele, efe a osododd iddo le, efe a amgylchodd hefyd, ac a dramwyodd, ac a aeth i waered i Gilgal. A Samuel a ddaeth at Saul. A Saul a ddywedodd wrtho ef, Bendigedig fyddych di gan yr ARGLWYDD: mi a gyflewnais air yr ARGLWYDD. A dywedodd Samuel, Beth ynteu yw brefiad y defaid hyn yn fy nghlustiau, a beichiad y gwartheg yr hwn yr ydwyf yn ei glywed? A Saul a ddywedodd, Oddi ar yr Amaleciaid y dygasant hwy: canys y bobl a arbedodd y defaid gorau, a’r ychen, i aberthu i’r ARGLWYDD dy DDUW; a’r rhan arall a ddifrodasom ni. Yna y dywedodd Samuel wrth Saul, Aros, a mi a fynegaf i ti yr hyn a lefarodd yr ARGLWYDD wrthyf fi neithiwr. Yntau a ddywedodd wrtho, Llefara. A Samuel a ddywedodd, Onid pan oeddit fychan yn dy olwg dy hun, y gwnaed di yn ben ar lwythau Israel, ac yr eneiniodd yr ARGLWYDD di yn frenin ar Israel? A’r ARGLWYDD a’th anfonodd di i daith, ac a ddywedodd, Dos, a difroda y pechaduriaid, yr Amaleciaid, ac ymladd i’w herbyn, nes eu difa hwynt. Paham gan hynny na wrandewaist ar lais yr ARGLWYDD, eithr troaist at yr anrhaith, a gwnaethost ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD? A Saul a ddywedodd wrth Samuel, Yn wir mi a wrandewais ar lais yr ARGLWYDD, ac a rodiais yn y ffordd y’m hanfonodd yr ARGLWYDD iddi, a dygais Agag brenin Amalec, ac a ddifrodais yr Amaleciaid. Ond y bobl a gymerth o’r ysbail, ddefaid a gwartheg, blaenion y ddifrodaeth, i aberthu i’r ARGLWYDD dy DDUW yn Gilgal. A Samuel a ddywedodd, A yw ewyllys yr ARGLWYDD ar boethoffrymau, neu ebyrth, megis ar wrando ar lais yr ARGLWYDD? Wele, gwrando sydd well nag aberth, ac ufuddhau na braster hyrddod. Canys anufudd-dod sydd fel pechod dewiniaeth; a throseddiad sydd anwiredd a delw-addoliaeth. Oherwydd i ti fwrw ymaith air yr ARGLWYDD, yntau a’th fwrw dithau ymaith o fod yn frenin. A Saul a ddywedodd wrth Samuel, Pechais: canys troseddais air yr ARGLWYDD, a’th eiriau dithau; oherwydd i mi ofni y bobl, a gwrando ar eu llais hwynt. Ond yn awr maddau, atolwg, fy mhechod, a dychwel gyda mi, fel yr addolwyf yr ARGLWYDD. A Samuel a ddywedodd wrth Saul, Ni ddychwelaf gyda thi; canys bwriaist ymaith air yr ARGLWYDD, a’r ARGLWYDD a’th fwriodd dithau ymaith o fod yn frenin ar Israel.

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd