Logo YouVersion
Eicon Chwilio

1 Samuel 15:1-35

1 Samuel 15:1-35 beibl.net 2015, 2023 (BNET)

Dyma Samuel yn dweud wrth Saul, “Fi ydy’r un wnaeth yr ARGLWYDD ei anfon i dy eneinio di yn frenin ar Israel. Felly, gwranda nawr ar beth mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud. Dyma mae’r ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud: ‘Dw i am gosbi’r Amaleciaid am beth wnaethon nhw i bobl Israel, sef gwrthod gadael iddyn nhw basio pan oedden nhw ar ei ffordd o’r Aifft. Felly ewch i daro’r Amaleciaid. Dinistriwch nhw’n llwyr, a llosgi eu heiddo. Peidiwch teimlo trueni drostyn nhw. Lladdwch nhw i gyd – yn ddynion a merched, plant a babis bach, gwartheg a defaid, camelod ag asynnod.’” Dyma Saul yn galw’r fyddin at ei gilydd a’u cyfri nhw yn Telaïm. Daeth 200,000 o filwyr traed a 10,000 o ddynion o Jwda. Aeth Saul a’i fyddin i gyfeiriad y trefi lle roedd yr Amaleciaid yn byw, a chuddio yn y dyffryn yn barod i ymosod. Wedyn anfonodd neges at y Ceneaid, “Ewch i ffwrdd o’r ardal. Peidiwch aros gyda’r Amaleciaid, rhag i chi gael eich difa gyda nhw. Buoch chi’n garedig wrth bobl Israel pan oedden nhw’n dod o’r Aifft.” Felly dyma’r Ceneaid yn gadael yr Amaleciaid. Yna dyma Saul yn ymosod ar yr Amaleciaid a’u taro o Hafila yr holl ffordd i Shwr sydd wrth ymyl yr Aifft. Cafodd Agag, brenin yr Amaleciaid, ei ddal yn fyw, ond cafodd ei bobl i gyd eu lladd â’r cleddyf. Dyma Saul a’i fyddin yn gadael i Agag fyw, a dyma nhw hefyd yn cadw’r gorau o’r defaid a’r geifr, y gwartheg, y lloi, yr ŵyn ac unrhyw beth arall oedd o werth. Doedden nhw ddim am ladd yr anifeiliaid gorau; dim ond y rhai gwael a diwerth gafodd eu lladd. ARGLWYDD Yna dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Samuel, “Dw i’n sori mod i wedi gwneud Saul yn frenin. Mae e wedi troi cefn arna i, a dydy e ddim yn gwneud beth dw i’n ddweud.” Roedd Samuel wedi ypsetio’n lân, a bu’n crefu ar yr ARGLWYDD am y peth drwy’r nos. Yna’n gynnar iawn y bore wedyn aeth Samuel i weld Saul. Ond dyma rywun yn dweud wrtho fod Saul wedi mynd i dref Carmel i godi cofeb iddo’i hun yno, ac yna ymlaen i Gilgal. Pan ddaeth Samuel o hyd i Saul, dyma Saul yn ei gyfarch, “Bendith yr ARGLWYDD arnat i. Dw i wedi gwneud popeth ddwedodd yr ARGLWYDD.” Ond dyma Samuel yn ei ateb, “Os felly, beth ydy sŵn y defaid a’r gwartheg yna dw i’n ei glywed?” Atebodd Saul, “Y milwyr wnaeth eu cymryd nhw oddi ar yr Amaleciaid. Maen nhw wedi cadw’r defaid a’r gwartheg gorau i’w haberthu i’r ARGLWYDD dy Dduw. Mae popeth arall wedi cael ei ddinistrio.” Ond dyma Samuel yn dweud wrth Saul, “Taw, i mi gael dweud wrthot ti beth ddwedodd Duw wrtho i neithiwr.” “Dwed wrtho i,” meddai Saul. Ac meddai Samuel, “Pan oeddet ti’n meddwl dy fod ti’n neb o bwys, cest ti dy wneud yn arweinydd ar lwythau Israel. Dewisodd yr ARGLWYDD di yn frenin ar Israel. Wedyn dyma fe’n dy anfon di allan a dweud, ‘Dos i ddinistrio’r Amaleciaid drwg yna. Ymladd yn eu herbyn nhw a dinistria nhw’n llwyr.’ Felly pam wnest ti ddim gwrando? Yn lle hynny, rwyt ti wedi rhuthro ar yr ysbail i gael be alli di i ti dy hun. Ti wedi gwneud drwg yng ngolwg yr ARGLWYDD.” Dyma Saul yn ateb Samuel, “Ond dw i hefyd wedi gwneud beth ddwedodd yr ARGLWYDD! Es i ar yr ymgyrch fel roedd e wedi dweud. Dw i wedi dal y Brenin Agag ac wedi dinistrio’r Amaleciaid yn llwyr. Cymerodd y fyddin y defaid a’r gwartheg gorau i’w haberthu nhw i’r ARGLWYDD dy Dduw yma yn Gilgal!” Yna dyma Samuel yn dweud, “Beth sy’n rhoi mwya o bleser i’r ARGLWYDD? Aberth ac offrwm i’w losgi, neu wneud beth mae e’n ddweud? Mae gwrando yn well nag aberth; mae talu sylw yn well na braster hyrddod. Mae gwrthryfela yn bechod, fel dablo mewn dewiniaeth, ac mae anufudd-dod mor ddrwg ac addoli eilunod. Am dy fod wedi gwrthod gwrando ar yr ARGLWYDD mae e wedi dy wrthod di fel brenin.” Dyma Saul yn cyfaddef i Samuel, “Dw i wedi pechu. Dw i wedi bod yn anufudd i’r ARGLWYDD a gwrthod gwrando arnat ti. Roedd gen i ofn y milwyr, a dyma fi’n gwneud beth roedden nhw eisiau. Plîs maddau i mi. Tyrd yn ôl hefo fi, i mi gael addoli’r ARGLWYDD.” “Na,” meddai Samuel, “wna i ddim mynd yn ôl hefo ti. Ti wedi gwrthod gwrando ar yr ARGLWYDD ac mae e wedi dy wrthod di yn frenin ar Israel.” Yna wrth i Samuel droi i adael, dyma Saul yn gafael yn ymyl ei glogyn, a dyma fe’n rhwygo. Meddai Samuel wrtho, “Mae’r ARGLWYDD wedi rhwygo’r deyrnas oddi arnat ti heddiw, a’i rhoi hi i rywun arall gwell na ti. Dydy Un Godidog Israel, ddim yn dweud celwydd nac yn newid ei feddwl. Dydy e ddim fel person dynol sy’n newid ei feddwl o hyd.” “Dw i wedi pechu”, meddai Saul eto. “Ond plîs dangos barch ata i o flaen arweinwyr a phobl Israel. Tyrd yn ôl hefo fi, i mi gael addoli’r ARGLWYDD dy Dduw.” Felly aeth Samuel yn ôl gyda Saul, a dyma Saul yn addoli’r ARGLWYDD. Yna dyma Samuel yn dweud, “Dewch ag Agag, brenin yr Amaleciaid, ata i.” Daeth Agag ato yn nerfus, gan feddwl, “Wnân nhw ddim fy lladd i bellach, siawns?” Ond dyma Samuel yn dweud, “Fel gwnaeth dy gleddyf di adael gwragedd heb blant, tro dy fam di ydy hi i alaru nawr.” A dyma fe’n hacio Agag i farwolaeth o flaen yr ARGLWYDD yn Gilgal. Aeth Samuel yn ôl i Rama, ac aeth Saul adre i Gibea Wnaeth Samuel ddim gweld Saul byth wedyn. Ond roedd yn dal i deimlo mor drist amdano. Roedd yr ARGLWYDD, ar y llaw arall, yn sori ei fod wedi gwneud Saul yn frenin ar Israel.

1 Samuel 15:1-35 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Dywedodd Samuel wrth Saul, “Anfonwyd fi gan yr ARGLWYDD i'th eneinio'n frenin ar ei bobl Israel; felly gwrando'n awr ar eiriau'r ARGLWYDD. Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: ‘Yr wyf am gosbi Amalec am yr hyn a wnaeth i Israel, sef eu rhwystro hwy ar y ffordd wrth iddynt ddod i fyny o'r Aifft.’ Dos, yn awr, a tharo'r Amaleciaid, a'u llwyr ddinistrio hwy a phopeth sydd ganddynt; paid â'u harbed, ond lladd bob dyn a dynes, pob plentyn a baban, pob eidion a dafad, pob camel ac asyn.” Felly galwodd Saul y fyddin allan a'u rhestru yn Telaim. Yr oedd dau gan mil o wŷr traed, a deng mil o ddynion Jwda. Pan ddaeth Saul at ddinas yr Amaleciaid, ymguddiodd mewn cwm, a dweud wrth y Ceneaid, “Ewch i ffwrdd, cefnwch ar yr Amaleciaid, rhag imi eich distrywio chwi gyda hwy; oherwydd buoch chwi'n garedig wrth yr holl Israeliaid pan oeddent yn dod i fyny o'r Aifft.” Aeth y Ceneaid ymaith oddi wrth yr Amaleciaid; yna trawodd Saul Amalec o Hafila hyd at Sur ar gwr yr Aifft. Daliodd Agag brenin Amalec yn fyw, ond lladdodd y bobl i gyd â'r cleddyf. Arbedodd Saul a'r fyddin nid yn unig Agag, ond hefyd y gorau o'r defaid a'r gwartheg, yr anifeiliaid breision a'r ŵyn, a phopeth o werth. Nid oeddent yn fodlon difa'r rheini; ond difodwyd popeth gwael a diwerth. Yna daeth gair yr ARGLWYDD at Samuel, yn dweud, “Y mae'n edifar gennyf fy mod wedi gwneud Saul yn frenin, oherwydd y mae wedi cefnu arnaf a heb gadw fy ngorchymyn.” Digiodd Samuel, a galwodd ar yr ARGLWYDD drwy'r nos. Bore trannoeth cododd yn gynnar i gyfarfod â Saul, ond dywedwyd wrtho fod Saul wedi mynd i Garmel, ac wedi codi cofeb iddo'i hun yno cyn troi'n ôl a mynd draw i Gilgal. Wedi i Samuel ddod o hyd i Saul, dywedodd Saul wrtho, “Bendith yr ARGLWYDD arnat! Yr wyf wedi cadw gorchymyn yr ARGLWYDD.” Gofynnodd Samuel, “Beth ynteu yw'r brefu defaid sydd yn fy nghlustiau, a'r sŵn gwartheg yr wyf yn ei glywed?” Dywedodd Saul, “Y bobl sydd wedi dod â hwy oddi wrth yr Amaleciaid, oherwydd y maent wedi arbed y gorau o'r defaid a'r gwartheg er mwyn aberthu i'r ARGLWYDD dy Dduw. Yr ydym wedi difa'r gweddill.” Dywedodd Samuel wrth Saul, “Taw, imi gael dweud wrthyt beth a ddywedodd yr ARGLWYDD wrthyf neithiwr.” Meddai yntau wrtho, “Dywed.” A dywedodd Samuel, “Er iti fod yn fychan yn d'olwg dy hun, oni ddaethost yn ben ar lwythau Israel, a'r ARGLWYDD wedi d'eneinio'n frenin ar Israel? Fe anfonodd yr ARGLWYDD di allan a dweud, ‘Dos a difroda'r pechaduriaid hynny, Amalec, a rhyfela â hwy nes eu difa.’ Pam na wrandewaist ar lais yr ARGLWYDD, ond rhuthro ar yr ysbail, a gwneud drwg yng ngolwg yr ARGLWYDD?” Dywedodd Saul wrth Samuel, “Ond yr wyf wedi gwrando ar lais yr ARGLWYDD, a mynd fel yr anfonodd ef fi; deuthum ag Agag brenin Amalec yn ôl, a difrodi'r Amaleciaid. Fe gymerodd y bobl beth o'r ysbail, yn ddefaid a gwartheg, y pigion o'r diofryd, er mwyn aberthu i'r ARGLWYDD dy Dduw yn Gilgal.” Yna dywedodd Samuel: “A oes gan yr ARGLWYDD bleser mewn offrymau ac ebyrth, fel mewn gwrando ar lais yr ARGLWYDD? Gwell gwrando nag aberth, ac ufudd-dod na braster hyrddod. Yn wir, pechod fel dewiniaeth yw anufudd-dod, a throsedd fel addoli eilunod yw cyndynrwydd. Am i ti wrthod gair yr ARGLWYDD, gwrthododd ef di fel brenin.” Dywedodd Saul wrth Samuel, “Yr wyf wedi pechu, oblegid yr wyf wedi torri gorchymyn yr ARGLWYDD a'th air dithau, am imi ofni'r bobl a gwrando ar eu llais. Maddau'n awr fy mai, a thyrd yn ôl gyda mi, er mwyn imi ymostwng i'r ARGLWYDD.” Ond dywedodd Samuel wrth Saul, “Na ddof; yr wyt wedi gwrthod gair yr ARGLWYDD, ac y mae'r ARGLWYDD wedi dy wrthod di fel brenin ar Israel.” Trodd Samuel i fynd i ffwrdd, ond cydiodd Saul yng nghwr ei fantell, ac fe rwygodd. Ac meddai Samuel wrtho, “Y mae'r ARGLWYDD wedi rhwygo brenhiniaeth Israel oddi wrthyt heddiw, ac am ei rhoi i un yn d'ymyl sy'n well na thi. Nid yw Ysblander Israel yn dweud celwydd nac yn edifarhau, oherwydd nid meidrolyn yw ef, i newid ei feddwl.” Dywedodd Saul eto, “Rwyf ar fai, ond dangos di barch tuag ataf gerbron henuriaid fy mhobl a'r Israeliaid, a thyrd yn ôl gyda mi, er mwyn imi ymostwng gerbron yr ARGLWYDD dy Dduw.” Yna dychwelodd Samuel gyda Saul, ac ymostyngodd Saul gerbron yr ARGLWYDD. A dywedodd Samuel, “Dewch ag Agag brenin Amalec ataf fi.” Daeth Agag ato'n anfoddog, a dweud, “Fe giliodd chwerwder marwolaeth.” Ond dywedodd Samuel: “Fel y gwnaeth dy gleddyf di wragedd yn ddi-blant, felly bydd dy fam dithau'n ddi-blant ymysg gwragedd.” Yna darniodd Samuel Agag gerbron yr ARGLWYDD yn Gilgal. Wedyn aeth Samuel i Rama, a Saul i'w gartref yn Gibea Saul. Ni welodd Samuel mo Saul byth wedyn, hyd ddydd ei farw, ond gofidiodd am Saul. Yr oedd yn edifar gan yr ARGLWYDD ei fod wedi gwneud Saul yn frenin ar Israel.

1 Samuel 15:1-35 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

A Samuel a ddywedodd wrth Saul, Yr ARGLWYDD a’m hanfonodd i i’th eneinio di yn frenin ar ei bobl, sef ar Israel: ac yn awr gwrando ar lais geiriau yr ARGLWYDD. Fel hyn y dywedodd ARGLWYDD y lluoedd; Cofiais yr hyn a wnaeth Amalec i Israel, y modd y gosododd efe i’w erbyn ar y ffordd, pan ddaeth efe i fyny o’r Aifft. Dos yn awr, a tharo Amalec, a dinistria yr hyn oll sydd ganddo, ac nac eiriach ef; ond lladd hwynt, yn ŵr ac yn wraig, yn ddyn bach ac yn blentyn sugno, yn ych ac yn oen, yn gamel ac yn asyn. A Saul a gynullodd y bobl, ac a’u cyfrifodd hwynt yn Telaim, dau can mil o wŷr traed, a deng mil o wŷr Jwda. A Saul a ddaeth hyd ddinas i Amalec, ac a gynllwynodd yn y dyffryn. Dywedodd Saul hefyd wrth y Ceneaid, Cerddwch, ciliwch, ewch i waered o fysg yr Amaleciaid; rhag i mi eich distrywio chwi gyda hwynt: herwydd ti a wnaethost drugaredd â holl feibion Israel, pan ddaethant i fyny o’r Aifft. A’r Ceneaid a ymadawsant o fysg yr Amaleciaid. A Saul a drawodd yr Amaleciaid o Hafila, ffordd y delych di i Sur, yr hon sydd ar gyfer yr Aifft. Ac a ddaliodd Agag brenin yr Amaleciaid yn fyw, ac a laddodd yr holl bobl â min y cleddyf. Ond Saul a’r bobl a arbedasant Agag, a’r gorau o’r defaid, a’r ychen, a’r brasaf o’r ŵyn, a’r hyn oll ydoedd dda, ac ni ddistrywient hwynt: a phob peth gwael a salw, hwnnw a ddifrodasant hwy. Yna y bu gair yr ARGLWYDD wrth Samuel, gan ddywedyd, Edifar yw gennyf osod Saul yn frenin: canys efe a ddychwelodd oddi ar fy ôl i, ac ni chyflawnodd fy ngeiriau. A bu ddrwg gan Samuel; ac efe a lefodd ar yr ARGLWYDD ar hyd y nos. A phan gyfododd Samuel yn fore i gyfarfod Saul, mynegwyd i Samuel, gan ddywedyd, Daeth Saul i Carmel; ac wele, efe a osododd iddo le, efe a amgylchodd hefyd, ac a dramwyodd, ac a aeth i waered i Gilgal. A Samuel a ddaeth at Saul. A Saul a ddywedodd wrtho ef, Bendigedig fyddych di gan yr ARGLWYDD: mi a gyflewnais air yr ARGLWYDD. A dywedodd Samuel, Beth ynteu yw brefiad y defaid hyn yn fy nghlustiau, a beichiad y gwartheg yr hwn yr ydwyf yn ei glywed? A Saul a ddywedodd, Oddi ar yr Amaleciaid y dygasant hwy: canys y bobl a arbedodd y defaid gorau, a’r ychen, i aberthu i’r ARGLWYDD dy DDUW; a’r rhan arall a ddifrodasom ni. Yna y dywedodd Samuel wrth Saul, Aros, a mi a fynegaf i ti yr hyn a lefarodd yr ARGLWYDD wrthyf fi neithiwr. Yntau a ddywedodd wrtho, Llefara. A Samuel a ddywedodd, Onid pan oeddit fychan yn dy olwg dy hun, y gwnaed di yn ben ar lwythau Israel, ac yr eneiniodd yr ARGLWYDD di yn frenin ar Israel? A’r ARGLWYDD a’th anfonodd di i daith, ac a ddywedodd, Dos, a difroda y pechaduriaid, yr Amaleciaid, ac ymladd i’w herbyn, nes eu difa hwynt. Paham gan hynny na wrandewaist ar lais yr ARGLWYDD, eithr troaist at yr anrhaith, a gwnaethost ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD? A Saul a ddywedodd wrth Samuel, Yn wir mi a wrandewais ar lais yr ARGLWYDD, ac a rodiais yn y ffordd y’m hanfonodd yr ARGLWYDD iddi, a dygais Agag brenin Amalec, ac a ddifrodais yr Amaleciaid. Ond y bobl a gymerth o’r ysbail, ddefaid a gwartheg, blaenion y ddifrodaeth, i aberthu i’r ARGLWYDD dy DDUW yn Gilgal. A Samuel a ddywedodd, A yw ewyllys yr ARGLWYDD ar boethoffrymau, neu ebyrth, megis ar wrando ar lais yr ARGLWYDD? Wele, gwrando sydd well nag aberth, ac ufuddhau na braster hyrddod. Canys anufudd-dod sydd fel pechod dewiniaeth; a throseddiad sydd anwiredd a delw-addoliaeth. Oherwydd i ti fwrw ymaith air yr ARGLWYDD, yntau a’th fwrw dithau ymaith o fod yn frenin. A Saul a ddywedodd wrth Samuel, Pechais: canys troseddais air yr ARGLWYDD, a’th eiriau dithau; oherwydd i mi ofni y bobl, a gwrando ar eu llais hwynt. Ond yn awr maddau, atolwg, fy mhechod, a dychwel gyda mi, fel yr addolwyf yr ARGLWYDD. A Samuel a ddywedodd wrth Saul, Ni ddychwelaf gyda thi; canys bwriaist ymaith air yr ARGLWYDD, a’r ARGLWYDD a’th fwriodd dithau ymaith o fod yn frenin ar Israel. A phan drodd Samuel i fyned ymaith, efe a ymaflodd yng nghwr ei fantell ef; a hi a rwygodd. A Samuel a ddywedodd wrtho, Yr ARGLWYDD a rwygodd frenhiniaeth Israel oddi wrthyt ti heddiw, ac a’i rhoddes i gymydog i ti, gwell na thydi. A hefyd, Cadernid Israel ni ddywed gelwydd, ac nid edifarha: canys nid dyn yw efe, i edifarhau. Yna y dywedodd Saul, Pechais: anrhydedda fi, atolwg, yn awr gerbron henuriaid fy mhobl, a cherbron Israel, a dychwel gyda mi, fel yr addolwyf yr ARGLWYDD dy DDUW. Felly Samuel a ddychwelodd ar ôl Saul: a Saul a addolodd yr ARGLWYDD. Yna y dywedodd Samuel, Cyrchwch ataf fi Agag brenin yr Amaleciaid. Ac Agag a ddaeth ato ef yn hoyw. Ac Agag a ddywedodd, Chwerwder marwolaeth yn ddiau a aeth ymaith. A Samuel a ddywedodd, Fel y diblantodd dy gleddyf di wragedd, felly y diblentir dy fam dithau ymysg gwragedd. A Samuel a ddarniodd Agag gerbron yr ARGLWYDD yn Gilgal. Yna Samuel a aeth i Rama; a Saul a aeth i fyny i’w dŷ yn Gibea Saul. Ac nid ymwelodd Samuel mwyach â Saul hyd ddydd ei farwolaeth; ond Samuel a alarodd am Saul: ac edifar fu gan yr ARGLWYDD osod Saul yn frenin ar Israel.

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd