1 Samuel 13:14
1 Samuel 13:14 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Ond nawr, fydd hynny ddim yn digwydd. Mae’r ARGLWYDD wedi dod o hyd i ddyn sydd wrth ei fodd, ac wedi dewis hwnnw i arwain ei bobl, am dy fod ti heb gadw’i orchmynion.”
1 Samuel 13:14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ond yn awr, ni fydd dy frenhiniaeth yn sefyll. Bydd yr ARGLWYDD yn ceisio gŵr yn ôl ei galon, a bydd yr ARGLWYDD yn ei osod ef yn arweinydd ar ei bobl, am nad wyt ti wedi cadw'r hyn a orchmynnodd yr ARGLWYDD iti.”
1 Samuel 13:14 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ond yn awr ni saif dy frenhiniaeth di: yr ARGLWYDD a geisiodd iddo ŵr wrth fodd ei galon ei hun: yr ARGLWYDD hefyd a orchmynnodd iddo fod yn flaenor ar ei bobl; oherwydd na chedwaist ti yr hyn a orchmynnodd yr ARGLWYDD i ti.