Logo YouVersion
Eicon Chwilio

1 Pedr 2:1-12

1 Pedr 2:1-12 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Felly, rhaid i chi gael gwared â phopeth drwg o’ch bywydau – pob twyll, balchder dauwynebog, cenfigennu wrth eraill ac enllibio pobl. Yn lle gadael i bethau felly eich rheoli chi dylech chi fod yn crefu am y llaeth ysbrydol pur fydd yn gwneud i chi dyfu yn eich ffydd. Gan eich bod chi eisoes wedi cael blas ar mor dda ydy’r Arglwydd, dylech fod yr un fath â babi bach newydd ei eni sydd eisiau dim byd arall ond llaeth ei fam. Mae’r Arglwydd fel carreg sylfaen, ond un sy’n fyw. Dyma’r garreg gafodd ei gwrthod gan bobl, ond roedd wedi’i dewis gan Dduw ac yn werthfawr iawn yn ei olwg. Felly wrth i chi glosio at yr Arglwydd dych chi fel cerrig sy’n fyw ac yn anadlu, ac mae Duw yn eich defnyddio chi i adeiladu ei ‘deml’ ysbrydol. A chi hefyd ydy’r offeiriaid sydd wedi cael eich dewis i gyflwyno aberthau ysbrydol i Dduw. Aberthau sy’n dderbyniol o achos beth wnaeth Iesu Grist. Dyma pam mae’r ysgrifau sanctaidd yn dweud fel hyn: “Edrychwch! Dw i’n gosod yn Jerwsalem garreg sylfaen werthfawr sydd wedi’i dewis gen i. Fydd y sawl sy’n credu ynddo byth yn cael ei siomi.” Ydy, mae’r garreg yma’n werthfawr yn eich golwg chi sy’n credu. Ond i’r rhai sy’n gwrthod credu: “Mae’r garreg wrthododd yr adeiladwyr wedi cael ei gwneud yn garreg sylfaen,” Hon hefyd ydy’r “garreg sy’n baglu pobl a chraig sy’n gwneud iddyn nhw syrthio.” Y rhai sy’n gwrthod gwneud beth mae Duw’n ei ddweud sy’n baglu. Dyna’n union oedd wedi’i drefnu ar eu cyfer nhw. Ond dych chi’n bobl sydd wedi’ch dewis yn offeiriaid i wasanaethu’r Brenin, yn genedl sanctaidd, yn bobl sy’n perthyn i Dduw. Eich lle chi ydy dangos i eraill mor wych ydy Duw, yr Un alwodd chi allan o’r tywyllwch i mewn i’w olau bendigedig. Ar un adeg doeddech chi’n neb, ond bellach chi ydy pobl Dduw. Ar un adeg doeddech chi ddim wedi profi trugaredd Duw, ond bellach dych wedi profi ei drugaredd. Ffrindiau annwyl, dim y byd yma ydy’ch cartref chi. Dych chi fel pobl ddieithr yma . Felly dw i’n apelio arnoch chi i wrthod gwneud beth mae’r chwantau naturiol am i chi ei wneud. Maen nhw’n brwydro yn erbyn beth sydd orau i ni. Dylech chi fyw bywydau da. Wedyn fydd pobl sydd ddim yn credu ddim yn gallu’ch cyhuddo chi o wneud drwg. Yn lle gwneud hynny byddan nhw’n gweld y pethau da dych chi’n eu gwneud ac yn dod i gredu. Byddan nhw’n canmol Duw ar y diwrnod hwnnw pan fydd yn dod atyn nhw.

1 Pedr 2:1-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Ymaith gan hynny â phob drygioni a phob twyll a rhagrith a chenfigen, a phob siarad bychanus! Fel babanod newydd eu geni, blysiwch am laeth ysbrydol pur, er mwyn ichwi drwyddo gynyddu i iachawdwriaeth, os ydych wedi profi tiriondeb yr Arglwydd. Wrth ddod ato ef, y maen bywiol, gwrthodedig gan bobl ond etholedig a chlodfawr gan Dduw, yr ydych chwithau hefyd, fel meini bywiol, yn cael eich adeiladu yn dŷ ysbrydol, i fod yn offeiriadaeth sanctaidd, er mwyn offrymu aberthau ysbrydol, cymeradwy gan Dduw trwy Iesu Grist. Oherwydd y mae'n sefyll yn yr Ysgrythur: “Wele fi'n gosod maen yn Seion, conglfaen etholedig a chlodfawr, a'r hwn sy'n credu ynddo, ni chywilyddir byth mohono.” Y mae ei glod, gan hynny, yn eiddoch chwi, y credinwyr; ond i'r anghredinwyr, “Y maen a wrthododd yr adeiladwyr, hwn a ddaeth yn faen y gongl”, a hefyd, “Maen tramgwydd, a chraig rhwystr.” Y maent yn tramgwyddo wrth anufuddhau i'r gair; dyma'r dynged a osodwyd iddynt. Ond yr ydych chwi yn hil etholedig, yn offeiriadaeth frenhinol, yn genedl sanctaidd, yn bobl o'r eiddo Duw ei hun, i hysbysu gweithredoedd ardderchog yr Un a'ch galwodd chwi allan o dywyllwch i'w ryfeddol oleuni ef: “A chwi gynt heb fod yn bobl, yr ydych yn awr yn bobl Dduw; a chwi gynt heb dderbyn trugaredd, yr ydych yn awr yn rhai a dderbyniodd drugaredd.” Gyfeillion annwyl, rwy'n deisyf arnoch, fel alltudion a dieithriaid, i ymgadw rhag y chwantau cnawdol sydd yn rhyfela yn erbyn yr enaid. Bydded eich ymarweddiad ymhlith y Cenhedloedd mor amlwg o dda nes iddynt hwy, lle y maent yn awr yn eich sarhau fel drwgweithredwyr, ogoneddu Duw yn nydd ei ymweliad ar gyfrif yr hyn a welant o'ch gweithredoedd da chwi.

1 Pedr 2:1-12 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Wedi rhoi heibio gan hynny bob drygioni, a phob twyll, a rhagrith, a chenfigen, a phob gogan-air, Fel rhai bychain newydd-eni, chwenychwch ddidwyll laeth y gair, fel y cynyddoch trwyddo ef: Os profasoch fod yr Arglwydd yn dirion. At yr hwn yr ydych yn dyfod, megis at faen bywiol, a wrthodwyd gan ddynion, eithr etholedig gan Dduw, a gwerthfawr. A chwithau, megis meini bywiol, ydych wedi eich adeiladu yn dŷ ysbrydol, yn offeiriadaeth sanctaidd, i offrymu aberthau ysbrydol, cymeradwy gan Dduw trwy Iesu Grist. Oherwydd paham y cynhwysir yn yr ysgrythur, Wele, yr wyf yn gosod yn Seion benconglfaen, etholedig, a gwerthfawr: a’r hwn a gred ynddo, nis gwaradwyddir. I chwi gan hynny, y rhai ydych yn credu, y mae yn urddas: eithr i’r anufuddion, y maen a wrthododd yr adeiladwyr, hwnnw a wnaed yn ben y gongl, Ac yn faen tramgwydd, ac yn graig rhwystr, i’r rhai sydd yn tramgwyddo wrth y gair, gan fod yn anufudd; i’r hwn beth yr ordeiniwyd hwynt hefyd. Eithr chwychwi ydych rywogaeth etholedig, brenhinol offeiriadaeth, cenedl sanctaidd, pobl briodol i Dduw; fel y mynegoch rinweddau’r hwn a’ch galwodd allan o dywyllwch i’w ryfeddol oleuni ef: Y rhai gynt nid oeddech bobl, ond yn awr ydych bobl i Dduw: y rhai ni chawsech drugaredd, ond yr awron a gawsoch drugaredd. Anwylyd, yr wyf yn atolwg i chwi, megis dieithriaid a phererinion, ymgedwch oddi wrth chwantau cnawdol, y rhai sydd yn rhyfela yn erbyn yr enaid; Gan fod â’ch ymarweddiad yn onest ymysg y Cenhedloedd: fel, lle maent yn eich goganu megis drwgweithredwyr, y gallont, oherwydd eich gweithredoedd da a welant, ogoneddu Duw yn nydd yr ymweliad.