Ymaith gan hynny â phob drygioni a phob twyll a rhagrith a chenfigen, a phob siarad bychanus! Fel babanod newydd eu geni, blysiwch am laeth ysbrydol pur, er mwyn ichwi drwyddo gynyddu i iachawdwriaeth, os ydych wedi profi tiriondeb yr Arglwydd. Wrth ddod ato ef, y maen bywiol, gwrthodedig gan bobl ond etholedig a chlodfawr gan Dduw, yr ydych chwithau hefyd, fel meini bywiol, yn cael eich adeiladu yn dŷ ysbrydol, i fod yn offeiriadaeth sanctaidd, er mwyn offrymu aberthau ysbrydol, cymeradwy gan Dduw trwy Iesu Grist. Oherwydd y mae'n sefyll yn yr Ysgrythur:
“Wele fi'n gosod maen yn Seion,
conglfaen etholedig a chlodfawr,
a'r hwn sy'n credu ynddo, ni chywilyddir byth mohono.”
Y mae ei glod, gan hynny, yn eiddoch chwi, y credinwyr; ond i'r anghredinwyr,
“Y maen a wrthododd yr adeiladwyr,
hwn a ddaeth yn faen y gongl”,
a hefyd,
“Maen tramgwydd,
a chraig rhwystr.”
Y maent yn tramgwyddo wrth anufuddhau i'r gair; dyma'r dynged a osodwyd iddynt.
Ond yr ydych chwi yn hil etholedig, yn offeiriadaeth frenhinol, yn genedl sanctaidd, yn bobl o'r eiddo Duw ei hun, i hysbysu gweithredoedd ardderchog yr Un a'ch galwodd chwi allan o dywyllwch i'w ryfeddol oleuni ef:
“A chwi gynt heb fod yn bobl,
yr ydych yn awr yn bobl Dduw;
a chwi gynt heb dderbyn trugaredd,
yr ydych yn awr yn rhai a dderbyniodd drugaredd.”
Gyfeillion annwyl, rwy'n deisyf arnoch, fel alltudion a dieithriaid, i ymgadw rhag y chwantau cnawdol sydd yn rhyfela yn erbyn yr enaid. Bydded eich ymarweddiad ymhlith y Cenhedloedd mor amlwg o dda nes iddynt hwy, lle y maent yn awr yn eich sarhau fel drwgweithredwyr, ogoneddu Duw yn nydd ei ymweliad ar gyfrif yr hyn a welant o'ch gweithredoedd da chwi.