1 Brenhinoedd 16:25-26
1 Brenhinoedd 16:25-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ond gwnaeth Omri fwy o ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD na phawb o'i flaen. Dilynodd holl lwybr a phechod Jeroboam fab Nebat, a barodd i Israel bechu a digio ARGLWYDD Dduw Israel â'u heilunod.
1 Brenhinoedd 16:25-26 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Gwnaeth Omri fwy o ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD na neb o’i flaen. Roedd yn ymddwyn yr un fath â Jeroboam fab Nebat; roedd yn gwneud i Israel hefyd bechu a gwylltio yr ARGLWYDD, Duw Israel, gyda’u holl eilunod diwerth.
1 Brenhinoedd 16:25-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ond gwnaeth Omri fwy o ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD na phawb o'i flaen. Dilynodd holl lwybr a phechod Jeroboam fab Nebat, a barodd i Israel bechu a digio ARGLWYDD Dduw Israel â'u heilunod.
1 Brenhinoedd 16:25-26 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ond Omri a wnaeth ddrygioni yng ngŵydd yr ARGLWYDD, ac a wnaeth yn waeth na’r holl rai a fuasai o’i flaen ef. Canys efe a rodiodd yn holl ffordd Jeroboam mab Nebat, ac yn ei bechod ef, trwy yr hwn y gwnaeth efe i Israel bechu, gan ddigio ARGLWYDD DDUW Israel â’u gwagedd hwynt.