1 Brenhinoedd 11:2-4
1 Brenhinoedd 11:2-4 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Dyma’r gwledydd roedd yr ARGLWYDD wedi rhybuddio pobl Israel amdanyn nhw: “Peidiwch cael perthynas gyda nhw. Maen nhw’n siŵr o’ch denu chi ar ôl eu duwiau.” Ond roedd Solomon yn dal i gael perthynas rywiol gyda nhw i gyd. Roedd ganddo saith gant o wragedd a thri chant o gariadon. Ac roedden nhw’n ei arwain ar gyfeiliorn. Wrth iddo fynd yn hŷn dyma’i wragedd yn ei ddenu ar ôl duwiau dieithr. Wnaeth e ddim aros yn gwbl ffyddlon i’r ARGLWYDD fel Dafydd ei dad.
1 Brenhinoedd 11:2-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
y cenhedloedd y dywedodd yr ARGLWYDD wrth yr Israeliaid amdanynt, “Peidiwch â'u priodi, a pheidiwch â rhoi mewn priodas iddynt; byddant yn sicr o'ch hudo i ddilyn eu duwiau.” Ond dal i'w caru a wnâi Solomon. Yr oedd ganddo saith gant o brif wragedd a thri chant o ordderchwragedd; a hudodd ei wragedd ef. Pan heneiddiodd Solomon, hudodd ei wragedd ef i ddilyn duwiau estron, ac nid oedd ei galon yn llwyr gyda'r ARGLWYDD ei Dduw, fel y bu calon ei dad Dafydd.
1 Brenhinoedd 11:2-4 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
O’r cenhedloedd am y rhai y dywedasai yr ARGLWYDD wrth feibion Israel, Nac ewch i mewn atynt hwy, ac na ddeuant hwythau i mewn atoch chwi: diau y troant eich calonnau chwi ar ôl eu duwiau hwynt. Wrthynt hwy y glynodd Solomon mewn cariad. Ac yr oedd ganddo ef saith gant o wragedd, yn freninesau; a thri chant o ordderchwragedd: a’i wragedd a droesant ei galon ef. A phan heneiddiodd Solomon, ei wragedd a droesant ei galon ef ar ôl duwiau dieithr: ac nid oedd ei galon ef berffaith gyda’r ARGLWYDD ei DDUW, fel y buasai calon Dafydd ei dad ef.