1 Ioan 5:1-12
1 Ioan 5:1-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Pob un sy'n credu mai Iesu yw'r Crist, y mae wedi ei eni o Dduw; ac y mae pawb sy'n caru tad yn caru ei blentyn hefyd. Dyma sut yr ydym yn gwybod ein bod yn caru plant Duw: pan fyddwn yn caru Duw ac yn cadw ei orchmynion. Oherwydd dyma yw caru Duw: bod inni gadw ei orchmynion. Ac nid yw ei orchmynion ef yn feichus, am fod pawb sydd wedi eu geni o Dduw yn gorchfygu'r byd. Hon yw'r oruchafiaeth a orchfygodd y byd: ein ffydd ni. Pwy yw gorchfygwr y byd ond y sawl sy'n credu mai Iesu yw Mab Duw? Dyma'r un a ddaeth drwy ddŵr a gwaed, Iesu Grist; nid trwy ddŵr yn unig, ond trwy'r dŵr a thrwy'r gwaed. Yr Ysbryd yw'r tyst, am mai'r Ysbryd yw'r gwirionedd. Oherwydd y mae tri sy'n tystiolaethu, yr Ysbryd, y dŵr, a'r gwaed, ac y mae'r tri yn gytûn. Os ydym yn derbyn tystiolaeth pobl feidrol, y mae tystiolaeth Duw yn fwy. A hon yw tystiolaeth Duw: ei fod wedi tystio am ei Fab. Y mae gan y sawl sy'n credu ym Mab Duw y dystiolaeth ynddo'i hun. Y mae'r sawl nad yw'n credu Duw yn ei wneud ef yn gelwyddog, am nad yw wedi credu'r dystiolaeth y mae Duw wedi ei rhoi. A hon yw'r dystiolaeth: bod Duw wedi rhoi inni fywyd tragwyddol. Ac y mae'r bywyd hwn yn ei Fab. Y sawl y mae'r Mab ganddo, y mae'r bywyd ganddo; y sawl nad yw Mab Duw ganddo, nid yw'r bywyd ganddo.
1 Ioan 5:1-12 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Mae pawb sy’n credu mai Iesu ydy’r Meseia wedi cael eu geni’n blant i Dduw, ac mae pawb sy’n caru’r Tad yn caru ei blentyn hefyd. Dŷn ni’n gwybod ein bod yn caru plant Duw os ydyn ni’n caru Duw ac yn gwneud beth mae’n ei ddweud. Mae caru Duw yn golygu bod yn ufudd iddo, a dydy hynny ddim yn anodd, am fod plant Duw yn ennill y frwydr yn erbyn y byd. Credu sy’n rhoi’r fuddugoliaeth yna i ni! Pwy sy’n llwyddo i ennill y frwydr yn erbyn y byd? Dim ond y rhai sy’n credu mai Iesu ydy Mab Duw. Iesu Grist – daeth yn amlwg pwy oedd pan gafodd ei fedyddio â dŵr, a phan gollodd ei waed ar y groes. Nid dim ond y dŵr, ond y dŵr a’r gwaed. Ac mae’r Ysbryd hefyd yn tystio i ni fod hyn yn wir, am mai’r Ysbryd ydy’r gwir. Felly dyna dri sy’n rhoi tystiolaeth: yr Ysbryd, dŵr y bedydd a’r gwaed ar y groes; ac mae’r tri yn cytuno â’i gilydd. Dŷn ni’n derbyn tystiolaeth pobl, ond mae tystiolaeth Duw cymaint gwell! Dyma’r dystiolaeth mae Duw wedi’i roi am ei Fab! Mae pawb sy’n credu ym Mab Duw yn gwybod fod y dystiolaeth yn wir. Ond mae’r rhai sy’n gwrthod credu Duw yn gwneud Duw ei hun yn gelwyddog, am eu bod wedi gwrthod credu beth mae Duw wedi’i dystio am ei Fab. A dyma’r dystiolaeth: mae Duw wedi rhoi bywyd tragwyddol i ni, ac mae’r bywyd hwn i’w gael yn ei Fab. Felly os ydy’r Mab gan rywun, mae’r bywyd ganddo; ond does dim bywyd gan y rhai dydy’r Mab ddim ganddyn nhw.
1 Ioan 5:1-12 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Pob un a’r sydd yn credu mai Iesu yw’r Crist, o Dduw y ganed ef: a phob un a’r sydd yn caru’r hwn a genhedlodd, sydd yn caru hefyd yr hwn a genhedlwyd ohono. Yn hyn y gwyddom ein bod yn caru plant Duw, pan fyddom yn caru Duw, ac yn cadw ei orchmynion ef. Canys hyn yw cariad Duw; bod i ni gadw ei orchmynion: a’i orchmynion ef nid ydynt drymion. Oblegid beth bynnag a aned o Dduw, y mae yn gorchfygu’r byd: a hon yw’r oruchafiaeth sydd yn gorchfygu’r byd, sef ein ffydd ni. Pwy yw’r hwn sydd yn gorchfygu’r byd, ond yr hwn sydd yn credu mai Iesu yw Mab Duw? Dyma’r hwn a ddaeth trwy ddwfr a gwaed, sef Iesu Grist; nid trwy ddwfr yn unig, ond trwy ddwfr a gwaed. A’r Ysbryd yw’r hwn sydd yn tystiolaethu, oblegid yr Ysbryd sydd wirionedd. Oblegid y mae tri yn tystiolaethu yn y nef; y Tad, y Gair, a’r Ysbryd Glân: a’r tri hyn un ydynt. Ac y mae tri yn tystiolaethu ar y ddaear; yr ysbryd, y dwfr, a’r gwaed: a’r tri hyn, yn un y maent yn cytuno. Os tystiolaeth dynion yr ydym yn ei derbyn, y mae tystiolaeth Duw yn fwy: canys hyn yw tystiolaeth Duw, yr hon a dystiolaethodd efe am ei Fab. Yr hwn sydd yn credu ym Mab Duw, sydd ganddo’r dystiolaeth ynddo ei hun: yr hwn nid yw yn credu yn Nuw, a’i gwnaeth ef yn gelwyddog, oblegid na chredodd y dystiolaeth a dystiolaethodd Duw am ei Fab. A hon yw’r dystiolaeth; roddi o Dduw i ni fywyd tragwyddol: a’r bywyd hwn sydd yn ei Fab ef. Yr hwn y mae’r Mab ganddo, y mae’r bywyd ganddo; a’r hwn nid yw ganddo Fab Duw, nid oes ganddo fywyd.