1 Ioan 4:7-17
1 Ioan 4:7-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Gyfeillion annwyl, gadewch i ni garu ein gilydd, oherwydd o Dduw y mae cariad, ac y mae pob un sy'n caru wedi ei eni o Dduw, ac yn adnabod Duw. Y sawl nad yw'n caru, nid yw'n adnabod Duw, oherwydd cariad yw Duw. Yn hyn y dangoswyd cariad Duw tuag atom: bod Duw wedi anfon ei unig Fab i'r byd er mwyn i ni gael byw drwyddo ef. Yn hyn y mae cariad: nid ein bod ni'n caru Duw, ond ei fod ef wedi ein caru ni, ac wedi anfon ei Fab i fod yn aberth cymod dros ein pechodau. Gyfeillion annwyl, os yw Duw wedi ein caru ni fel hyn, fe ddylem ninnau hefyd garu ein gilydd. Nid oes neb wedi gweld Duw erioed; os ydym yn caru ein gilydd, y mae Duw yn aros ynom, ac y mae ei gariad ef wedi ei berffeithio ynom ni. Dyma sut yr ydym yn gwybod ein bod yn aros ynddo ef, ac ef ynom ninnau: am iddo ef roi inni o'i Ysbryd. Yr ydym ni wedi gweld, ac yr ydym yn tystiolaethu bod y Tad wedi anfon ei Fab yn Waredwr y byd. Pwy bynnag sy'n cyffesu mai Iesu yw Mab Duw, y mae Duw yn aros ynddo, ac yntau yn Nuw. Felly yr ydym ni wedi dod i adnabod a chredu'r cariad sydd gan Dduw tuag atom. Cariad yw Duw, ac y mae'r sawl sy'n aros mewn cariad yn aros yn Nuw, a Duw yn aros ynddo yntau. Yn hyn y mae cariad wedi cael ei berffeithio ynom: bod gennym hyder yn Nydd y Farn, oherwydd fel y mae ef, felly yr ydym ninnau hefyd yn y byd hwn.
1 Ioan 4:7-17 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ffrindiau annwyl, gadewch i ni garu’n gilydd, am fod cariad yn dod oddi wrth Dduw. Mae pawb sy’n caru fel hyn wedi’i eni’n blentyn i Dduw ac yn nabod Duw. Os ydy’r cariad hwn ddim gan rywun, dydy’r person hwnnw ddim yn nabod Duw chwaith – am mai cariad ydy Duw. Dyma sut wnaeth Duw ddangos ei gariad aton ni: anfonodd ei unig Fab i’r byd, er mwyn i ni gael bywyd drwyddo. Dyma beth ydy cariad: dim y ffaith ein bod ni’n caru Duw, ond y ffaith ei fod e wedi’n caru ni ac anfon ei Fab yn aberth oedd yn gwneud iawn am ein pechodau ni. Ffrindiau annwyl, os ydy Duw wedi’n caru ni gymaint â hyn, dylen ninnau hefyd garu’n gilydd. Does neb erioed wedi gweld Duw; ond os ydyn ni’n caru’n gilydd, mae Duw yn byw ynon ni ac mae ei gariad yn dod yn real yn ein bywydau ni. Dŷn ni’n gwybod ein bod ni’n byw ynddo fe, a bod ei fywyd e ynon ni, am ei fod yn rhoi ei Ysbryd i ni. A dŷn ni wedi gweld ac yn gallu tystio fod y Tad wedi anfon ei Fab i fod yn Achubwr y byd. Os ydy rhywun yn cydnabod mai Iesu ydy Mab Duw, mae Duw yn byw ynddyn nhw a hwythau yn Nuw. Dŷn ni’n gwybod faint mae Duw yn ein caru ni, a dŷn ni’n dibynnu’n llwyr ar y cariad hwnnw. Cariad ydy Duw. Mae’r rhai sy’n byw yn y cariad yma yn byw yn Nuw, ac mae Duw yn byw ynddyn nhw. Am fod cariad yn beth real yn ein plith ni, dŷn ni’n gallu bod yn gwbl hyderus ar y diwrnod pan fydd Duw yn barnu. Dŷn ni’n byw yn y byd yma fel gwnaeth Iesu Grist fyw.
1 Ioan 4:7-17 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Anwylyd, carwn ein gilydd: oblegid cariad, o Dduw y mae; a phob un a’r sydd yn caru, o Dduw y ganwyd ef, ac y mae efe yn adnabod Duw. Yr hwn nid yw yn caru, nid adnabu Dduw: oblegid Duw, cariad yw. Yn hyn yr eglurwyd cariad Duw tuag atom ni, oblegid danfon o Dduw ei unig-anedig Fab i’r byd, fel y byddem fyw trwyddo ef. Yn hyn y mae cariad; nid am i ni garu Duw, ond am iddo ef ein caru ni, ac anfon ei Fab i fod yn iawn dros ein pechodau. Anwylyd, os felly y carodd Duw ni, ninnau hefyd a ddylem garu ein gilydd. Ni welodd neb Dduw erioed. Os carwn ni ein gilydd, y mae Duw yn trigo ynom, ac y mae ei gariad ef yn berffaith ynom. Wrth hyn y gwyddom ein bod yn trigo ynddo ef, ac yntau ynom ninnau, am ddarfod iddo roddi i ni o’i Ysbryd. A ninnau a welsom, ac ydym yn tystiolaethu, ddarfod i’r Tad ddanfon y Mab i fod yn Iachawdwr i’r byd. Pwy bynnag a gyffeso fod Iesu yn Fab Duw, y mae Duw yn aros ynddo ef, ac yntau yn Nuw. A nyni a adnabuom ac a gredasom y cariad sydd gan Dduw tuag atom ni. Duw, cariad yw: a’r hwn sydd yn aros mewn cariad, sydd yn aros yn Nuw, a Duw ynddo yntau. Yn hyn y perffeithiwyd ein cariad ni, fel y caffom hyder ddydd y farn: oblegid megis ag y mae efe, yr ydym ninnau hefyd yn y byd hwn.