Logo YouVersion
Eicon Chwilio

1 Ioan 4:7-17

1 Ioan 4:7-17 BNET

Ffrindiau annwyl, gadewch i ni garu’n gilydd, am fod cariad yn dod oddi wrth Dduw. Mae pawb sy’n caru fel hyn wedi’i eni’n blentyn i Dduw ac yn nabod Duw. Os ydy’r cariad hwn ddim gan rywun, dydy’r person hwnnw ddim yn nabod Duw chwaith – am mai cariad ydy Duw. Dyma sut wnaeth Duw ddangos ei gariad aton ni: anfonodd ei unig Fab i’r byd, er mwyn i ni gael bywyd drwyddo. Dyma beth ydy cariad: dim y ffaith ein bod ni’n caru Duw, ond y ffaith ei fod e wedi’n caru ni ac anfon ei Fab yn aberth oedd yn gwneud iawn am ein pechodau ni. Ffrindiau annwyl, os ydy Duw wedi’n caru ni gymaint â hyn, dylen ninnau hefyd garu’n gilydd. Does neb erioed wedi gweld Duw; ond os ydyn ni’n caru’n gilydd, mae Duw yn byw ynon ni ac mae ei gariad yn dod yn real yn ein bywydau ni. Dŷn ni’n gwybod ein bod ni’n byw ynddo fe, a bod ei fywyd e ynon ni, am ei fod yn rhoi ei Ysbryd i ni. A dŷn ni wedi gweld ac yn gallu tystio fod y Tad wedi anfon ei Fab i fod yn Achubwr y byd. Os ydy rhywun yn cydnabod mai Iesu ydy Mab Duw, mae Duw yn byw ynddyn nhw a hwythau yn Nuw. Dŷn ni’n gwybod faint mae Duw yn ein caru ni, a dŷn ni’n dibynnu’n llwyr ar y cariad hwnnw. Cariad ydy Duw. Mae’r rhai sy’n byw yn y cariad yma yn byw yn Nuw, ac mae Duw yn byw ynddyn nhw. Am fod cariad yn beth real yn ein plith ni, dŷn ni’n gallu bod yn gwbl hyderus ar y diwrnod pan fydd Duw yn barnu. Dŷn ni’n byw yn y byd yma fel gwnaeth Iesu Grist fyw.