1 Corinthiaid 7:7-9
1 Corinthiaid 7:7-9 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Byddwn i wrth fy modd petai pawb yn gallu bod fel ydw i, ond dŷn ni i gyd yn wahanol. Mae Duw wedi rhoi perthynas briodasol yn rhodd i rai, a’r gallu i fyw’n sengl yn rhodd i eraill. Dw i am ddweud hyn wrth y rhai sy’n weddw neu’n ddibriod: Byddai’n beth da iddyn nhw aros yn ddibriod, fel dw i wedi gwneud. Ond os fedran nhw ddim rheoli eu teimladau, dylen nhw briodi. Mae priodi yn well na chael ein difa gan ein nwydau.
1 Corinthiaid 7:7-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Carwn pe bai pawb fel yr wyf fi fy hunan; ond y mae gan bob un ei ddawn ei hun oddi wrth Dduw, y naill fel hyn a'r llall fel arall. Yr wyf yn dweud wrth y rhai dibriod, a'r gwragedd gweddwon, mai peth da fyddai iddynt aros felly, fel finnau. Ond os na allant ymatal, dylent briodi, oherwydd gwell priodi nag ymlosgi.
1 Corinthiaid 7:7-9 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Canys mi a fynnwn fod pob dyn fel fi fy hun: eithr y mae i bob un ei ddawn ei hun gan Dduw; i un fel hyn, ac i arall fel hyn. Dywedyd yr wyf wrth y rhai heb briodi, a’r gwragedd gweddwon, Da yw iddynt os arhosant fel finnau. Eithr oni allant ymgadw, priodant: canys gwell yw priodi nag ymlosgi.