1 Corinthiaid 7
7
1Ac am y pethau yr ysgrifenasoch ataf: Da i ddyn na chyffyrddai â gwraig. 2Ond rhag godineb, bydded i bob gŵr ei wraig ei hun, a bydded i bob gwraig ei gŵr ei hun. 3Rhodded y gŵr i’r wraig ddyledus ewyllys da; a’r un wedd y wraig i’r gŵr. 4Nid oes i’r wraig feddiant ar ei chorff ei hun, ond i’r gŵr; ac yr un ffunud, nid oes i’r gŵr feddiant ar ei gorff ei hun, ond i’r wraig. 5Na thwyllwch eich gilydd, oddieithr o gydsyniad dros amser, fel y galloch ymroi i ympryd a gweddi: a deuwch drachefn ynghyd, rhag temtio o Satan chwi oherwydd eich anlladrwydd. 6A hyn yr wyf yn ei ddywedyd o ganiatâd, nid o orchymyn. 7Canys mi a fynnwn fod pob dyn fel fi fy hun: eithr y mae i bob un ei ddawn ei hun gan Dduw; i un fel hyn, ac i arall fel hyn. 8Dywedyd yr wyf wrth y rhai heb briodi, a’r gwragedd gweddwon, Da yw iddynt os arhosant fel finnau. 9Eithr oni allant ymgadw, priodant: canys gwell yw priodi nag ymlosgi. 10Ac i’r rhai a briodwyd yr ydwyf yn gorchymyn, nid myfi chwaith, ond yr Arglwydd, Nad ymadawo gwraig oddi wrth ei gŵr: 11Ac os ymedy hi, arhoed heb briodi, neu, cymoder hi â’i gŵr: ac na ollynged y gŵr ei wraig ymaith. 12Ac wrth y lleill, dywedyd yr wyf fi, nid yr Arglwydd, Os bydd i un brawd wraig ddi-gred, a hithau yn fodlon i drigo gydag ef, na ollynged hi ymaith. 13A’r wraig, yr hon y mae iddi ŵr di-gred, ac yntau yn fodlon i drigo gyda hi, na wrthoded hi ef. 14Canys y gŵr di-gred a sancteiddir trwy’r wraig, a’r wraig ddi-gred a sancteiddir trwy’r gŵr: pe amgen, aflan yn ddiau fyddai eich plant; eithr yn awr sanctaidd ydynt. 15Eithr os yr anghredadun a ymedy, ymadawed. Nid yw’r brawd neu’r chwaer gaeth yn y cyfryw bethau; eithr Duw a’n galwodd ni i heddwch. 16Canys beth a wyddost ti, wraig, a gedwi di dy ŵr? a pheth a wyddost tithau, ŵr, a gedwi di dy wraig? 17Ond megis y darfu i Dduw rannu i bob un, megis y darfu i’r Arglwydd alw pob un, felly rhodied. Ac fel hyn yr wyf yn ordeinio yn yr eglwysi oll. 18A alwyd neb wedi ei enwaedu? nac adgeisied ddienwaediad. A alwyd neb mewn dienwaediad? nac enwaeder arno. 19Enwaediad nid yw ddim, a dienwaediad nid yw ddim, ond cadw gorchmynion Duw. 20Pob un yn yr alwedigaeth y galwyd ef, yn honno arhosed. 21Ai yn was y’th alwyd? na fydded gwaeth gennyt; eto os gelli gael bod yn rhydd, mwynha hynny yn hytrach. 22Canys yr hwn, ac ef yn was, a alwyd yn yr Arglwydd, gŵr rhydd i’r Arglwydd ydyw: a’r un ffunud yr hwn, ac efe yn ŵr rhydd, a alwyd, gwas i Grist yw. 23Er gwerth y’ch prynwyd; na fyddwch weision dynion. 24Yn yr hyn y galwyd pob un, frodyr, yn hynny arhosed gyda Duw. 25Eithr am wyryfon, nid oes gennyf orchymyn yr Arglwydd: ond barn yr ydwyf yn ei roi, fel un a gafodd drugaredd gan yr Arglwydd i fod yn ffyddlon. 26Am hynny yr wyf yn tybied mai da yw hyn, oherwydd yr anghenraid presennol, mai da, meddaf, i ddyn fod felly. 27A wyt ti yn rhwym i wraig? na chais dy ollwng yn rhydd. A wyt ti yn rhydd oddi wrth wraig? na chais wraig. 28Ac os priodi hefyd, ni phechaist: ac os prioda gwyry, ni phechodd. Er hynny y cyfryw rai a gânt flinder yn y cnawd: eithr yr wyf yn eich arbed chwi. 29A hyn yr ydwyf yn ei ddywedyd, frodyr, am fod yr amser yn fyr. Y mae yn ôl, fod o’r rhai sydd â gwragedd iddynt, megis pe byddent hebddynt; 30A’r rhai a wylant, megis heb wylo; a’r rhai a lawenhânt, megis heb lawenhau; a’r rhai a brynant, megis heb feddu; 31A’r rhai a arferant y byd hwn, megis heb ei gamarfer: canys y mae dull y byd hwn yn myned heibio. 32Eithr mi a fynnwn i chwi fod yn ddiofal. Yr hwn sydd heb briodi, sydd yn gofalu am bethau’r Arglwydd, pa wedd y bodlona’r Arglwydd: 33Ond y neb a wreicaodd, sydd yn gofalu am bethau’r byd, pa wedd y bodlona ei wraig. 34Y mae gwahaniaeth hefyd rhwng gwraig a gwyry. Y mae’r hon sydd heb briodi, yn gofalu am y pethau sydd yn perthyn i’r Arglwydd, fel y byddo hi sanctaidd yng nghorff ac ysbryd: ac y mae’r hon sydd wedi priodi, yn gofalu am bethau bydol, pa fodd y rhynga hi fodd i’w gŵr. 35A hyn yr ydwyf yn ei ddywedyd er llesâd i chwi eich hunain; nid i osod magl i chwi, eithr er mwyn gweddeidd-dra, a dyfal lynu wrth yr Arglwydd yn ddiwahân. 36Ond os yw neb yn tybied ei fod yn anweddaidd tuag at ei wyry, od â hi dros flodau ei hoedran, a bod yn rhaid gwneuthur felly; gwnaed a fynno, nid yw yn pechu: priodant. 37Ond yr hwn sydd yn sefyll yn sicr yn ei galon, ac yn afraid iddo, ac â meddiant ganddo ar ei ewyllys ei hun, ac a roddodd ei fryd ar hynny yn ei galon, ar gadw ohono ei wyry; da y mae yn gwneuthur. 38Ac am hynny, yr hwn sydd yn ei rhoddi yn briod, sydd yn gwneuthur yn dda; ond yr hwn nid yw yn ei rhoddi yn briod, sydd yn gwneuthur yn well. 39Y mae gwraig yn rhwym wrth y gyfraith, tra fyddo byw ei gŵr: ond o bydd marw ei gŵr, y mae hi yn rhydd i briodi’r neb a fynno; yn unig yn yr Arglwydd. 40Eithr dedwyddach yw hi os erys hi felly, yn fy marn i: ac yr ydwyf finnau yn tybied fod Ysbryd Duw gennyf.
Dewis Presennol:
1 Corinthiaid 7: BWM
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.