Logo YouVersion
Eicon Chwilio

1 Corinthiaid 7:1-40

1 Corinthiaid 7:1-40 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Nawr, gadewch i ni droi at yr hyn oedd yn eich llythyr chi: “Mae’n beth da i ddyn beidio cael rhyw o gwbl,” meddech chi. Na, na! Gan fod cymaint o anfoesoldeb rhywiol o gwmpas, dylai pob dyn gael ei wraig ei hun, a phob gwraig ei gŵr ei hun. Ac mae gan ddyn gyfrifoldeb i gael perthynas rywiol gyda’i wraig, a’r un modd y wraig gyda’i gŵr. Mae’r wraig wedi rhoi’r hawl ar ei chorff i’w gŵr, a’r un modd, mae’r gŵr wedi rhoi’r hawl ar ei gorff yntau i’w wraig. Felly peidiwch gwrthod cael rhyw gyda’ch gilydd. Yr unig adeg i ymwrthod, falle, ydy os dych chi wedi cytuno i wneud hynny am gyfnod byr er mwyn rhoi mwy o amser i weddi. Ond dylech ddod yn ôl at eich gilydd yn fuan, rhag i Satan ddefnyddio’ch chwantau i’ch temtio chi. Ond awgrym ydy hynny, dim gorchymyn. Byddwn i wrth fy modd petai pawb yn gallu bod fel ydw i, ond dŷn ni i gyd yn wahanol. Mae Duw wedi rhoi perthynas briodasol yn rhodd i rai, a’r gallu i fyw’n sengl yn rhodd i eraill. Dw i am ddweud hyn wrth y rhai sy’n weddw neu’n ddibriod: Byddai’n beth da iddyn nhw aros yn ddibriod, fel dw i wedi gwneud. Ond os fedran nhw ddim rheoli eu teimladau, dylen nhw briodi. Mae priodi yn well na chael ein difa gan ein nwydau. I’r rhai sy’n briod dyma dw i’n ei orchymyn (yr Arglwydd ddwedodd hyn, dim fi): Ddylai gwraig ddim gadael ei gŵr. Ond os ydy hi eisoes wedi’i adael mae dau ddewis ganddi. Gall hi aros yn ddibriod neu fynd yn ôl at ei gŵr. A ddylai dyn ddim ysgaru ei wraig chwaith. Ac wrth y gweddill ohonoch chi, dyma dw i’n ddweud (soniodd yr Arglwydd Iesu ddim am y peth): Os oes gan Gristion wraig sydd ddim yn credu ond sy’n dal yn fodlon byw gydag e, ddylai’r dyn hwnnw ddim gadael ei wraig. Neu fel arall, os oes gan wraig ŵr sydd ddim yn credu, ond sy’n dal yn fodlon byw gyda hi, ddylai hithau ddim ei adael e. Mae bywyd y gŵr sydd ddim yn credu yn cael ei lanhau drwy ei berthynas â’i wraig o Gristion, a bywyd gwraig sydd ddim yn credu yn cael ei lanhau drwy ei pherthynas hi â’i gŵr sy’n Gristion. Petai fel arall byddai eich plant chi’n ‘aflan’, ond fel hyn, maen nhw hefyd yn lân. (Ond wedyn, os ydy’r gŵr neu’r wraig sydd ddim yn credu yn mynnu gadael y berthynas, gadewch iddyn nhw fynd. Dydy’r partner sy’n Gristion ddim yn gaeth mewn achos felly. Mae Duw am i ni fyw mewn heddwch.) Wraig, ti ddim yn gwybod, falle y byddi di’n gyfrwng i achub dy ŵr! Neu ti’r gŵr, falle y byddi di’n gyfrwng i achub dy wraig! Dylai pob un ohonoch chi dderbyn y sefyllfa mae’r Arglwydd wedi’ch gosod chi ynddi pan alwodd Duw chi i gredu. Mae hon yn rheol dw i’n ei rhoi i bob un o’r eglwysi. Er enghraifft, os oedd dyn wedi bod drwy’r ddefod o gael ei enwaedu cyn dod i gredu, ddylai e ddim ceisio newid ei gyflwr. A fel arall hefyd; os oedd dyn ddim wedi cael ei enwaedu pan ddaeth yn Gristion, ddylai e ddim mynd drwy’r ddefod nawr. Sdim ots os dych chi wedi cael eich enwaedu neu beidio! Beth sy’n bwysig ydy’ch bod chi’n gwneud beth mae Duw’n ei ddweud. Felly dylech chi aros fel roeddech chi pan alwodd Duw chi i gredu. Wyt ti’n gaethwas? Paid poeni am y peth. Hyd yn oed os ydy’n bosib y byddi di’n rhydd rywbryd, gwna’r defnydd gorau o’r sefyllfa wyt ti ynddi. Er bod rhywun yn gaethwas pan ddaeth i gredu, mae’n berson rhydd yng ngolwg yr Arglwydd! A’r un modd, os oedd rhywun yn ddinesydd rhydd pan ddaeth i gredu, mae bellach yn gaethwas i’r Meseia! Mae pris uchel wedi’i dalu amdanoch chi! Peidiwch gwneud eich hunain yn gaethweision pobl. Ffrindiau annwyl, Duw ydy’r un dych chi’n atebol iddo. Felly arhoswch fel roeddech chi pan daethoch i gredu. I droi at fater y rhai sydd ddim eto wedi priodi: Does gen i ddim gorchymyn i’w roi gan yr Arglwydd, ond dyma ydy fy marn i (fel un y gallwch ymddiried ynddo drwy drugaredd Duw!): Am ein bod ni’n wynebu creisis ar hyn o bryd, dw i’n meddwl mai peth da fyddai i chi aros fel rydych chi. Os wyt ti wedi dyweddïo gyda merch, paid ceisio datod y cwlwm. Os wyt ti’n rhydd, paid ag edrych am wraig. Ond fyddi di ddim yn pechu os byddi di’n priodi; a dydy’r ferch ifanc ddim yn pechu wrth briodi chwaith. Ond mae’r argyfwng presennol yn rhoi parau priod dan straen ofnadwy, a dw i eisiau’ch arbed chi rhag hynny. Dw i am ddweud hyn ffrindiau: mae’r amser yn brin. O hyn ymlaen dim bod yn briod neu beidio ydy’r peth pwysica; dim y galar na’r llawenydd ddaw i’n rhan; dim prynu pethau, wedi’r cwbl fyddwch chi ddim yn eu cadw nhw! Waeth heb ag ymgolli yn y cwbl sydd gan y byd i’w gynnig, am fod y byd fel y mae yn dod i ben! Ceisio’ch arbed chi rhag poeni’n ddiangen ydw i. Mae dyn dibriod yn gallu canolbwyntio ar waith yr Arglwydd, a sut i’w blesio. Ond rhaid i’r dyn priod feddwl am bethau eraill bywyd – sut i blesio’i wraig – ac mae’n cael ei dynnu’r ddwy ffordd. Mae gwraig sydd bellach yn ddibriod, neu ferch sydd erioed wedi priodi, yn gallu canolbwyntio ar waith yr Arglwydd. Ei nod hi ydy cysegru ei hun yn llwyr (gorff ac ysbryd) i’w wasanaethu e. Ond mae’n rhaid i wraig briod feddwl am bethau’r byd – sut i blesio’i gŵr. Dw i’n dweud hyn er eich lles chi, dim i gyfyngu arnoch chi. Dw i am i ddim byd eich rhwystro chi rhag byw bywyd o ymroddiad llwyr i’r Arglwydd. Os ydy rhywun yn teimlo ei fod yn methu rheoli ei nwydau gyda’r ferch mae wedi’i dyweddïo, a’r straen yn ormod, dylai wneud beth mae’n meddwl sy’n iawn. Dydy e ddim yn pechu drwy ei phriodi hi. Ond os ydy dyn wedi penderfynu peidio ei phriodi – ac yn gwybod yn iawn beth mae’n ei wneud, a heb fod dan unrhyw bwysau – mae yntau’n gwneud y peth iawn. Felly mae’r un sy’n priodi ei ddyweddi yn gwneud yn iawn, ond bydd yr un sy’n dewis peidio priodi yn gwneud peth gwell. Mae gwraig ynghlwm i’w gŵr tra mae ei gŵr yn dal yn fyw. Ond os ydy’r gŵr yn marw, mae’r wraig yn rhydd i briodi dyn arall, cyn belled â’i fod yn Gristion. Ond yn fy marn i byddai’n well iddi aros fel y mae – a dw i’n credu fod Ysbryd Duw wedi rhoi arweiniad i mi yn hyn o beth.

1 Corinthiaid 7:1-40 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Yn awr, ynglŷn â'r pethau yn eich llythyr. Peth da yw i ddyn beidio â chyffwrdd â gwraig. Ond oherwydd yr anfoesoldeb rhywiol sy'n bod, bydded gan bob dyn ei wraig ei hun, a chan bob gwraig ei gŵr ei hun. Dylai'r gŵr roi i'r wraig yr hyn sy'n ddyledus iddi, a'r un modd y wraig i'r gŵr. Nid y wraig biau'r hawl ar ei chorff ei hun, ond y gŵr. A'r un modd, nid y gŵr biau'r hawl ar ei gorff ei hun, ond y wraig. Peidiwch â gwrthod eich gilydd, oddieithr, efallai, ichwi gytuno ar hyn dros dro er mwyn ymroi i weddi, ac yna dod ynghyd eto, rhag i Satan eich temtio oherwydd eich diffyg ymatal. Ond fel goddefiad yr wyf yn dweud hyn, nid fel gorchymyn. Carwn pe bai pawb fel yr wyf fi fy hunan; ond y mae gan bob un ei ddawn ei hun oddi wrth Dduw, y naill fel hyn a'r llall fel arall. Yr wyf yn dweud wrth y rhai dibriod, a'r gwragedd gweddwon, mai peth da fyddai iddynt aros felly, fel finnau. Ond os na allant ymatal, dylent briodi, oherwydd gwell priodi nag ymlosgi. I'r rhai sydd wedi priodi yr wyf fi'n gorchymyn—na, nid fi, ond yr Arglwydd—nad yw'r wraig i ymadael â'i gŵr; ond os bydd iddi ymadael, dylai aros yn ddibriod, neu gymodi â'i gŵr. A pheidied y gŵr ag ysgaru ei wraig. Wrth y lleill yr wyf fi, nid yr Arglwydd, yn dweud: os bydd gan Gristion wraig ddi-gred, a hithau'n cytuno i fyw gydag ef, ni ddylai ei hysgaru. Ac os bydd gan wraig ŵr di-gred, ac yntau'n cytuno i fyw gyda hi, ni ddylai ysgaru ei gŵr. Oherwydd y mae'r gŵr di-gred wedi ei gysegru trwy ei wraig, a'r wraig ddi-gred wedi ei chysegru trwy ei gŵr o Gristion. Onid e, byddai eich plant yn halogedig. Ond fel y mae, y maent yn sanctaidd. Ond os yw'r anghredadun am ymadael, gadewch i hwnnw neu honno fynd. Nid yw'r gŵr na'r wraig o Gristion, mewn achos felly, yn gaeth; i heddwch y mae Duw wedi eich galw. Oherwydd sut y gwyddost, wraig, nad achubi di dy ŵr? Neu sut y gwyddost, ŵr, nad achubi di dy wraig? Beth bynnag am hynny, dalied pob un i fyw yn ôl y gyfran a gafodd gan yr Arglwydd, pob un yn ôl yr alwad a gafodd gan Dduw. Yr wyf yn gwneud hyn yn rheol yn yr holl eglwysi. A gafodd rhywun ei alw ac yntau'n enwaededig? Peidied â chuddio'i gyflwr. A gafodd rhywun ei alw ac yntau'n ddienwaededig? Peidied â cheisio enwaediad. Nid enwaediad sy'n cyfrif, ac nid dienwaediad sy'n cyfrif, ond cadw gorchmynion Duw. Dylai pob un aros yn y cyflwr yr oedd ynddo pan gafodd ei alw. Ai caethwas oeddit pan gefaist dy alw? Paid â phoeni; ond os gelli ennill dy ryddid, cymer dy gyfle, yn hytrach na pheidio. Oherwydd y sawl oedd yn gaeth pan alwyd ef i fod yn yr Arglwydd, un rhydd yr Arglwydd ydyw. Yr un modd, y sawl oedd yn rhydd pan alwyd ef, un caeth i Grist ydyw. Am bris y'ch prynwyd chwi. Peidiwch â mynd yn gaeth i feistriaid dynol. Gyfeillion, arhosed pob un gerbron Duw yn y cyflwr hwnnw yr oedd ynddo pan gafodd ei alw. Ynglŷn â'r gwyryfon, nid oes gennyf orchymyn gan yr Arglwydd, ond yr wyf yn rhoi fy marn fel un y gellir, trwy drugaredd yr Arglwydd, ddibynnu arno. Yn fy meddwl i, peth da, yn wyneb yr argyfwng sydd yn pwyso arnom, yw i bob un aros fel y mae. A wyt yn rhwym wrth wraig? Paid â cheisio dy ryddhau. A wyt yn rhydd oddi wrth wraig? Paid â cheisio gwraig. Ond os priodi a wnei, ni fyddi wedi pechu. Ac os prioda gwyryf, ni fydd wedi pechu. Ond fe gaiff rhai felly flinder yn y bywyd hwn, ac am eich arbed yr wyf fi. Hyn yr wyf yn ei ddweud, gyfeillion: y mae'r amser wedi mynd yn brin. Am yr hyn sydd ar ôl ohono, bydded i'r rhai sydd â gwragedd ganddynt fod fel pe baent heb wragedd, a'r rhai sy'n wylo fel pe na baent yn wylo, a'r rhai sy'n llawenhau fel pe na baent yn llawenhau, a'r rhai sy'n prynu fel rhai heb feddu dim, a'r rhai sy'n ymwneud â'r byd fel pe na baent yn ymwneud ag ef. Oherwydd mynd heibio y mae holl drefn y byd hwn. Carwn ichwi fod heb ofalon. Y mae'r dyn dibriod yn gofalu am bethau'r Arglwydd, sut i foddhau'r Arglwydd. Ond y mae'r gŵr priod yn gofalu am bethau'r byd, sut i foddhau ei wraig, ac y mae'n cael ei dynnu y naill ffordd a'r llall. A'r ferch ddibriod a'r wyryf, y maent yn gofalu am bethau'r Arglwydd, er mwyn bod yn sanctaidd mewn corff yn ogystal ag ysbryd. Ond y mae'r wraig briod yn pryderu am bethau'r byd, sut i foddhau ei gŵr. Yr wyf yn dweud hyn er eich lles chwi eich hunain; nid er mwyn eich dal yn ôl, ond er mwyn gwedduster, ac ymroddiad diwyro i'r Arglwydd. Os oes unrhyw un yn teimlo ei fod yn ymddwyn yn anweddaidd tuag at ei ddyweddi, os yw ei nwydau'n rhy gryf ac felly bod y peth yn anorfod, gwnaed yn ôl ei ddymuniad a bydded iddynt briodi; nid oes pechod yn hynny. Ond y sawl sydd yn aros yn gadarn ei feddwl, heb fod dan orfod, ond yn cadw ei ddymuniad dan reolaeth, ac yn penderfynu yn ei feddwl gadw ei ddyweddi yn wyryf, bydd yn gwneud yn dda. Felly bydd yr hwn sydd yn priodi ei ddyweddi yn gwneud yn dda, ond bydd y dyn nad yw'n priodi yn gwneud yn well. Y mae gwraig yn rhwym i'w gŵr cyhyd ag y mae ef yn fyw. Ond os bydd ei gŵr farw, y mae'n rhydd i briodi pwy bynnag a fyn, dim ond iddi wneud hynny yn yr Arglwydd. Ond bydd yn ddedwyddach o aros fel y mae, yn ôl fy marn i. Ac yr wyf yn meddwl bod Ysbryd Duw gennyf fi hefyd.

1 Corinthiaid 7:1-40 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Ac am y pethau yr ysgrifenasoch ataf: Da i ddyn na chyffyrddai â gwraig. Ond rhag godineb, bydded i bob gŵr ei wraig ei hun, a bydded i bob gwraig ei gŵr ei hun. Rhodded y gŵr i’r wraig ddyledus ewyllys da; a’r un wedd y wraig i’r gŵr. Nid oes i’r wraig feddiant ar ei chorff ei hun, ond i’r gŵr; ac yr un ffunud, nid oes i’r gŵr feddiant ar ei gorff ei hun, ond i’r wraig. Na thwyllwch eich gilydd, oddieithr o gydsyniad dros amser, fel y galloch ymroi i ympryd a gweddi: a deuwch drachefn ynghyd, rhag temtio o Satan chwi oherwydd eich anlladrwydd. A hyn yr wyf yn ei ddywedyd o ganiatâd, nid o orchymyn. Canys mi a fynnwn fod pob dyn fel fi fy hun: eithr y mae i bob un ei ddawn ei hun gan Dduw; i un fel hyn, ac i arall fel hyn. Dywedyd yr wyf wrth y rhai heb briodi, a’r gwragedd gweddwon, Da yw iddynt os arhosant fel finnau. Eithr oni allant ymgadw, priodant: canys gwell yw priodi nag ymlosgi. Ac i’r rhai a briodwyd yr ydwyf yn gorchymyn, nid myfi chwaith, ond yr Arglwydd, Nad ymadawo gwraig oddi wrth ei gŵr: Ac os ymedy hi, arhoed heb briodi, neu, cymoder hi â’i gŵr: ac na ollynged y gŵr ei wraig ymaith. Ac wrth y lleill, dywedyd yr wyf fi, nid yr Arglwydd, Os bydd i un brawd wraig ddi-gred, a hithau yn fodlon i drigo gydag ef, na ollynged hi ymaith. A’r wraig, yr hon y mae iddi ŵr di-gred, ac yntau yn fodlon i drigo gyda hi, na wrthoded hi ef. Canys y gŵr di-gred a sancteiddir trwy’r wraig, a’r wraig ddi-gred a sancteiddir trwy’r gŵr: pe amgen, aflan yn ddiau fyddai eich plant; eithr yn awr sanctaidd ydynt. Eithr os yr anghredadun a ymedy, ymadawed. Nid yw’r brawd neu’r chwaer gaeth yn y cyfryw bethau; eithr Duw a’n galwodd ni i heddwch. Canys beth a wyddost ti, wraig, a gedwi di dy ŵr? a pheth a wyddost tithau, ŵr, a gedwi di dy wraig? Ond megis y darfu i Dduw rannu i bob un, megis y darfu i’r Arglwydd alw pob un, felly rhodied. Ac fel hyn yr wyf yn ordeinio yn yr eglwysi oll. A alwyd neb wedi ei enwaedu? nac adgeisied ddienwaediad. A alwyd neb mewn dienwaediad? nac enwaeder arno. Enwaediad nid yw ddim, a dienwaediad nid yw ddim, ond cadw gorchmynion Duw. Pob un yn yr alwedigaeth y galwyd ef, yn honno arhosed. Ai yn was y’th alwyd? na fydded gwaeth gennyt; eto os gelli gael bod yn rhydd, mwynha hynny yn hytrach. Canys yr hwn, ac ef yn was, a alwyd yn yr Arglwydd, gŵr rhydd i’r Arglwydd ydyw: a’r un ffunud yr hwn, ac efe yn ŵr rhydd, a alwyd, gwas i Grist yw. Er gwerth y’ch prynwyd; na fyddwch weision dynion. Yn yr hyn y galwyd pob un, frodyr, yn hynny arhosed gyda Duw. Eithr am wyryfon, nid oes gennyf orchymyn yr Arglwydd: ond barn yr ydwyf yn ei roi, fel un a gafodd drugaredd gan yr Arglwydd i fod yn ffyddlon. Am hynny yr wyf yn tybied mai da yw hyn, oherwydd yr anghenraid presennol, mai da, meddaf, i ddyn fod felly. A wyt ti yn rhwym i wraig? na chais dy ollwng yn rhydd. A wyt ti yn rhydd oddi wrth wraig? na chais wraig. Ac os priodi hefyd, ni phechaist: ac os prioda gwyry, ni phechodd. Er hynny y cyfryw rai a gânt flinder yn y cnawd: eithr yr wyf yn eich arbed chwi. A hyn yr ydwyf yn ei ddywedyd, frodyr, am fod yr amser yn fyr. Y mae yn ôl, fod o’r rhai sydd â gwragedd iddynt, megis pe byddent hebddynt; A’r rhai a wylant, megis heb wylo; a’r rhai a lawenhânt, megis heb lawenhau; a’r rhai a brynant, megis heb feddu; A’r rhai a arferant y byd hwn, megis heb ei gamarfer: canys y mae dull y byd hwn yn myned heibio. Eithr mi a fynnwn i chwi fod yn ddiofal. Yr hwn sydd heb briodi, sydd yn gofalu am bethau’r Arglwydd, pa wedd y bodlona’r Arglwydd: Ond y neb a wreicaodd, sydd yn gofalu am bethau’r byd, pa wedd y bodlona ei wraig. Y mae gwahaniaeth hefyd rhwng gwraig a gwyry. Y mae’r hon sydd heb briodi, yn gofalu am y pethau sydd yn perthyn i’r Arglwydd, fel y byddo hi sanctaidd yng nghorff ac ysbryd: ac y mae’r hon sydd wedi priodi, yn gofalu am bethau bydol, pa fodd y rhynga hi fodd i’w gŵr. A hyn yr ydwyf yn ei ddywedyd er llesâd i chwi eich hunain; nid i osod magl i chwi, eithr er mwyn gweddeidd-dra, a dyfal lynu wrth yr Arglwydd yn ddiwahân. Ond os yw neb yn tybied ei fod yn anweddaidd tuag at ei wyry, od â hi dros flodau ei hoedran, a bod yn rhaid gwneuthur felly; gwnaed a fynno, nid yw yn pechu: priodant. Ond yr hwn sydd yn sefyll yn sicr yn ei galon, ac yn afraid iddo, ac â meddiant ganddo ar ei ewyllys ei hun, ac a roddodd ei fryd ar hynny yn ei galon, ar gadw ohono ei wyry; da y mae yn gwneuthur. Ac am hynny, yr hwn sydd yn ei rhoddi yn briod, sydd yn gwneuthur yn dda; ond yr hwn nid yw yn ei rhoddi yn briod, sydd yn gwneuthur yn well. Y mae gwraig yn rhwym wrth y gyfraith, tra fyddo byw ei gŵr: ond o bydd marw ei gŵr, y mae hi yn rhydd i briodi’r neb a fynno; yn unig yn yr Arglwydd. Eithr dedwyddach yw hi os erys hi felly, yn fy marn i: ac yr ydwyf finnau yn tybied fod Ysbryd Duw gennyf.