1 Corinthiaid 6:12-14
1 Corinthiaid 6:12-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
“Y mae popeth yn gyfreithlon i mi,” meddwch; ond nid yw popeth er lles. “Y mae popeth yn gyfreithlon i mi,” meddwch; ond ni chaiff dim fy nghaethiwo i. “Y bwydydd i'r bol a'r bol i'r bwydydd,” meddwch; ond fe ddifetha Duw y naill a'r llall. Eto, nid i buteindra y mae'r corff, ond i'r Arglwydd, a'r Arglwydd i'r corff. Cyfododd Duw yr Arglwydd, ac fe'n cyfyd ninnau hefyd drwy ei allu.
1 Corinthiaid 6:12-14 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ond, “Mae gen i ryddid i wneud beth dw i eisiau” meddech chi. A dw i’n ateb, “Dydy popeth ddim yn dda i chi.” Er mod i’n rhydd i wneud beth dw i eisiau, fydd dim byd yn cael bod yn feistr arna i. “Mae’n naturiol,” meddech chi wedyn, “fel bwyd i’r stumog a’r stumog i fwyd.” Falle wir, ond bydd Duw yn dinistrio’r ddau yn y diwedd. Chafodd y corff mo’i greu i fod yn anfoesol yn rhywiol – cafodd ei wneud i wasanaethu’r Arglwydd. Ac mae’r corff yn bwysig i’r Arglwydd! Cododd Duw gorff yr Arglwydd Iesu yn ôl yn fyw, a bydd yn defnyddio’i nerth i godi ein cyrff ninnau yr un fath.
1 Corinthiaid 6:12-14 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Pob peth sydd gyfreithlon i mi, ond nid yw pob peth yn llesáu; pob peth sydd gyfreithlon i mi, eithr ni’m dygir i dan awdurdod gan ddim. Y bwydydd i’r bol, a’r bol i’r bwydydd: eithr Duw a ddinistria hwn a hwythau. A’r corff nid yw i odineb, ond i’r Arglwydd; a’r Arglwydd i’r corff. Eithr Duw a gyfododd yr Arglwydd, ac a’n cyfyd ninnau trwy ei nerth ef.