Logo YouVersion
Eicon Chwilio

1 Corinthiaid 16:1-24

1 Corinthiaid 16:1-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Ynglŷn â'r casgliad i'r saint, gweithredwch chwithau hefyd yn ôl y cyfarwyddiadau a roddais i eglwysi Galatia. Y dydd cyntaf o bob wythnos, bydded i bob un ohonoch, yn ôl ei enillion, osod cyfran o'r neilltu ac ar gadw, fel nad pan ddof fi y gwneir y casgliadau. Wedi imi gyrraedd, mi anfonaf pwy bynnag sydd yn gymeradwy yn eich golwg chwi, i ddwyn eich rhodd i Jerwsalem, gyda llythyrau i'w cyflwyno. Neu, os bydd yn ymddangos yn iawn i minnau fynd hefyd, fe gânt deithio gyda mi. Mi ddof atoch chwi ar ôl mynd trwy Facedonia, oherwydd trwy Facedonia yr wyf am deithio. Ac efallai yr arhosaf gyda chwi am ysbaid, neu hyd yn oed dros y gaeaf, er mwyn i chwi fy hebrwng i ba le bynnag y byddaf yn mynd. Oherwydd nid wyf am edrych amdanoch, y tro hwn, fel un yn taro heibio ar ei hynt. Rwy'n gobeithio cael aros gyda chwi am beth amser, os bydd yr Arglwydd yn caniatáu. Ond rwyf am aros yn Effesus tan y Pentecost. Oherwydd y mae drws llydan wedi ei agor imi, un addawol, er bod llawer o wrthwynebwyr. Os daw Timotheus, gofalwch ei wneud yn ddibryder yn eich plith, oherwydd y mae ef, fel minnau, yn gwneud gwaith yr Arglwydd. Am hynny, peidied neb â'i ddiystyru, ond hebryngwch ef ar ei ffordd â sêl eich bendith, iddo gael dod ataf fi. Oherwydd yr wyf yn ei ddisgwyl gyda'r credinwyr. Ynglŷn â'n brawd Apolos, erfyniais yn daer arno i ddod atoch gyda'r lleill, ond nid oedd yn fodlon o gwbl ddod ar hyn o bryd. Ond fe ddaw pan fydd gwell cyfle. Byddwch yn wyliadwrus, safwch yn gadarn yn y ffydd, byddwch yn wrol, ymgryfhewch. Popeth a wnewch, gwnewch ef mewn cariad. Gwyddoch am deulu Steffanas, mai hwy oedd Cristionogion cyntaf Achaia, a'u bod wedi ymroi i weini ar y saint. Yr wyf yn erfyn arnoch, gyfeillion, i ymostwng i rai felly, a phawb sydd yn cydweithio ac yn llafurio gyda ni. Yr wyf yn llawenhau am fod Steffanas a Ffortwnatus ac Achaicus wedi dod, oherwydd y maent wedi cyflawni yr hyn oedd y tu hwnt i'ch cyrraedd chwi. Y maent wedi esmwytho ar fy ysbryd i, a'ch ysbryd chwithau hefyd. Cydnabyddwch rai felly. Y mae eglwysi Asia yn eich cyfarch. Y mae Acwila a Priscila, gyda'r eglwys sy'n ymgynnull yn eu tŷ, yn eich cyfarch yn gynnes yn yr Arglwydd. Y mae'r credinwyr i gyd yn eich cyfarch. Cyfarchwch eich gilydd â chusan sanctaidd. Y mae'r cyfarchiad hwn yn fy llaw i fy hun, Paul. Os oes rhywun nad yw'n caru'r Arglwydd, bydded dan felltith. Marana tha. Gras yr Arglwydd Iesu fyddo gyda chwi! Fy nghariad innau fyddo gyda chwi oll, yng Nghrist Iesu!

1 Corinthiaid 16:1-24 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

I droi at yr arian sy’n cael ei gasglu i helpu pobl Dduw: Gwnewch beth ddwedais i wrth eglwysi Galatia i’w wneud. Bob dydd Sul dylai pob un ohonoch chi roi arian o’r neilltu, faint bynnag mae’ch incwm chi’n ei ganiatáu, fel bydd dim rhaid casglu’r cwbl gyda’i gilydd pan ddof i acw. Wedyn, pan gyrhaedda i bydda i’n ysgrifennu llythyrau yn awdurdodi’r rhai fyddwch chi’n eu dewis i fynd â’ch rhodd i Jerwsalem. Ac os dych chi’n meddwl y byddai’n beth da i mi fynd, gallan nhw fynd gyda mi. Dw i’n bwriadu mynd i dalaith Macedonia gyntaf, a bydda i’n dod i’ch gweld chi ar ôl hynny. Falle yr arhosa i gyda chi am dipyn – hyd yn oed dreulio’r gaeaf acw. Wedyn gallwch fy helpu i fynd ymlaen ar fy nhaith. Petawn i’n dod yn syth fyddwn i ond yn gallu taro heibio, a does gen i ddim eisiau gwneud hynny. Dw i eisiau aros gyda chi am dipyn, os Duw a’i myn. Dw i’n mynd i aros yn Effesus tan y Pentecost, am fod cyfle i wneud gwaith mawr wedi codi yma, er bod digon o wrthwynebiad. Pan ddaw Timotheus atoch chi, gwnewch yn siŵr fod ganddo ddim i boeni amdano tra bydd gyda chi. Mae e, fel fi, yn gwneud gwaith Duw. Felly ddylai neb edrych i lawr arno. A rhowch help ymarferol iddo ar ei daith yn ôl ata i. Dw i’n edrych ymlaen at ei weld e a’r brodyr eraill. Ynglŷn â’n brawd Apolos: Gwnes i bwyso arno i ddod atoch chi gyda’r lleill, ond roedd e’n benderfynol o beidio ar hyn o bryd. Ond bydd yn dod pan ddaw cyfle! Gwyliwch eich hunain. Daliwch i gredu. Byddwch yn ddewr. Byddwch yn gryf. Gwnewch bopeth mewn cariad. Gwyddoch mai’r rhai o dŷ Steffanas oedd y bobl gyntaf yn nhalaith Achaia i ddod i gredu, ac maen nhw wedi rhoi eu hunain yn llwyr i helpu eu cyd-Gristnogion. Dw i’n eich annog chi, frodyr a chwiorydd, i barchu pobl fel nhw, a phawb arall tebyg sydd wedi rhoi eu hunain yn llwyr i’r gwaith. Rôn i mor falch pan gyrhaeddodd Steffanas, Ffortwnatus ac Achaicus ar eich rhan chi. Maen nhw wedi codi nghalon i, fel maen nhw wedi gwneud i chi hefyd. Mae’n bwysig cydnabod rhai fel nhw. Mae’r eglwysi yma yn nhalaith Asia yn anfon eu cyfarchion atoch chi. Mae Acwila a Priscila yn cofio atoch chi’n frwd yn yr Arglwydd, a’r eglwys sy’n cyfarfod yn eu tŷ nhw. Yn wir, mae’r brodyr a’r chwiorydd i gyd yn anfon eu cyfarchion. Cyfarchwch eich cyd-Gristnogion yn llawn cariad. Dw i’n ysgrifennu’r cyfarchiad yma yn fy llawysgrifen fy hun – PAUL. Os ydy rhywun ddim yn caru’r Arglwydd, mae dan felltith! O, tyrd Arglwydd! Dw i’n gweddïo y byddwch chi’n profi haelioni rhyfeddol ein Harglwydd Iesu. Fy nghariad atoch chi i gyd sy’n perthyn i’r Meseia Iesu. Amen.

1 Corinthiaid 16:1-24 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Hefyd am y gasgl i’r saint; megis yr ordeiniais i eglwysi Galatia, felly gwnewch chwithau. Y dydd cyntaf o’r wythnos, pob un ohonoch rhodded heibio yn ei ymyl, gan drysori, fel y llwyddodd Duw ef, fel na byddo casgl pan ddelwyf fi. A phan ddelwyf, pa rai bynnag a ddangosoch eu bod yn gymeradwy trwy lythyrau, y rhai hynny a ddanfonaf i ddwyn eich rhodd i Jerwsalem. Ac os bydd y peth yn haeddu i minnau hefyd fyned, hwy a gânt fyned gyda mi. Eithr mi a ddeuaf atoch, gwedi yr elwyf trwy Facedonia; (canys trwy Facedonia yr wyf yn myned.) Ac nid hwyrach yr arhosaf gyda chwi, neu y gaeafaf hefyd, fel y’m hebryngoch i ba le bynnag yr elwyf. Canys nid oes i’m bryd eich gweled yn awr ar fy hynt; ond yr wyf yn gobeithio yr arhosaf ennyd gyda chwi, os cenhada’r Arglwydd. Eithr mi a arhosaf yn Effesus hyd y Sulgwyn. Canys agorwyd i mi ddrws mawr a grymus, ac y mae gwrthwynebwyr lawer. Ac os Timotheus a ddaw, edrychwch ar ei fod yn ddi-ofn gyda chwi: canys gwaith yr Arglwydd y mae yn ei weithio, fel finnau. Am hynny na ddiystyred neb ef: ond hebryngwch ef mewn heddwch, fel y delo ataf fi: canys yr wyf fi yn ei ddisgwyl ef gyda’r brodyr. Ac am y brawd Apolos, mi a ymbiliais lawer ag ef am ddyfod atoch chwi gyda’r brodyr: eithr er dim nid oedd ei ewyllys ef i ddyfod yr awron; ond efe a ddaw pan gaffo amser cyfaddas. Gwyliwch, sefwch yn y ffydd, ymwrolwch, ymgryfhewch. Gwneler eich holl bethau chwi mewn cariad. Ond yr ydwyf yn atolwg i chwi, frodyr, (chwi a adwaenoch dŷ Steffanas, mai blaenffrwyth Achaia ydyw, ac iddynt ymosod i weinidogaeth y saint,) Fod ohonoch chwithau yn ddarostyngedig i’r cyfryw, ac i bob un sydd yn cydweithio, ac yn llafurio. Ac yr ydwyf yn llawen am ddyfodiad Steffanas, Ffortunatus, ac Achaicus: canys eich diffyg chwi hwy a’i cyflawnasant; Canys hwy a esmwythasant ar fy ysbryd i, a’r eiddoch chwithau: cydnabyddwch gan hynny y cyfryw rai. Y mae eglwysi Asia yn eich annerch chwi. Y mae Acwila a Phriscila, gyda’r eglwys sydd yn eu tŷ hwynt, yn eich annerch chwi yn yr Arglwydd yn fynych. Y mae’r brodyr oll yn eich annerch. Annerchwch eich gilydd â chusan sancteiddol. Yr annerch â’m llaw i Paul fy hun. Od oes neb nid yw yn caru’r Arglwydd Iesu Grist, bydded Anathema, Maranatha. Gras ein Harglwydd Iesu Grist a fyddo gyda chwi. Fy serch innau a fo gyda chwi oll yng Nghrist Iesu. Amen. Yr epistol cyntaf at y Corinthiaid a ysgrifennwyd o Philipi, gyda Steffanas, a Ffortunatus, ac Achaicus, a Thimotheus.