Logo YouVersion
Eicon Chwilio

1 Corinthiaid 16

16
Y Casgliad i'r Saint
1Ynglŷn â'r casgliad i'r saint, gweithredwch chwithau hefyd yn ôl y cyfarwyddiadau a roddais i eglwysi Galatia. 2Y dydd cyntaf o bob wythnos, bydded i bob un ohonoch, yn ôl ei enillion, osod cyfran o'r neilltu ac ar gadw, fel nad pan ddof fi y gwneir y casgliadau. 3Wedi imi gyrraedd, mi anfonaf pwy bynnag sydd yn gymeradwy yn eich golwg chwi, i ddwyn eich rhodd i Jerwsalem, gyda llythyrau i'w cyflwyno. 4Neu, os bydd yn ymddangos yn iawn i minnau fynd hefyd, fe gânt deithio gyda mi.
Cynlluniau Teithio
5Mi ddof atoch chwi ar ôl mynd trwy Facedonia, oherwydd trwy Facedonia yr wyf am deithio. 6Ac efallai yr arhosaf gyda chwi am ysbaid, neu hyd yn oed dros y gaeaf, er mwyn i chwi fy hebrwng i ba le bynnag y byddaf yn mynd. 7Oherwydd nid wyf am edrych amdanoch, y tro hwn, fel un yn taro heibio ar ei hynt. Rwy'n gobeithio cael aros gyda chwi am beth amser, os bydd yr Arglwydd yn caniatáu. 8Ond rwyf am aros yn Effesus tan y Pentecost. 9Oherwydd y mae drws llydan wedi ei agor imi, un addawol, er bod llawer o wrthwynebwyr.
10Os daw Timotheus, gofalwch ei wneud yn ddibryder yn eich plith, oherwydd y mae ef, fel minnau, yn gwneud gwaith yr Arglwydd. 11Am hynny, peidied neb â'i ddiystyru, ond hebryngwch ef ar ei ffordd â sêl eich bendith, iddo gael dod ataf fi. Oherwydd yr wyf yn ei ddisgwyl gyda'r credinwyr.
12Ynglŷn â'n brawd Apolos, erfyniais yn daer arno i ddod atoch gyda'r lleill, ond nid oedd yn fodlon o gwbl ddod#16:12 Neu, ond yr oedd yn gwbl groes i ewyllys Duw iddo ddod. ar hyn o bryd. Ond fe ddaw pan fydd gwell cyfle.
Cais Terfynol a Chyfarchion
13Byddwch yn wyliadwrus, safwch yn gadarn yn y ffydd, byddwch yn wrol, ymgryfhewch. 14Popeth a wnewch, gwnewch ef mewn cariad.
15Gwyddoch am deulu Steffanas, mai hwy oedd Cristionogion cyntaf Achaia, a'u bod wedi ymroi i weini ar y saint. 16Yr wyf yn erfyn arnoch, gyfeillion, i ymostwng i rai felly, a phawb sydd yn cydweithio ac yn llafurio gyda ni. 17Yr wyf yn llawenhau am fod Steffanas a Ffortwnatus ac Achaicus wedi dod, oherwydd y maent wedi cyflawni yr hyn oedd y tu hwnt i'ch cyrraedd chwi. 18Y maent wedi esmwytho ar fy ysbryd i, a'ch ysbryd chwithau hefyd. Cydnabyddwch rai felly.
19Y mae eglwysi Asia yn eich cyfarch. Y mae Acwila a Priscila, gyda'r eglwys sy'n ymgynnull yn eu tŷ, yn eich cyfarch yn gynnes yn yr Arglwydd. 20Y mae'r credinwyr i gyd yn eich cyfarch. Cyfarchwch eich gilydd â chusan sanctaidd.
21Y mae'r cyfarchiad hwn yn fy llaw i fy hun, Paul. 22Os oes rhywun nad yw'n caru'r Arglwydd, bydded dan felltith. Marana tha#16:22 Ymadrodd Aramaeg sy'n golygu Tyrd, Arglwydd.. 23Gras yr Arglwydd Iesu fyddo gyda chwi! 24Fy nghariad innau fyddo gyda chwi oll, yng Nghrist Iesu!

Dewis Presennol:

1 Corinthiaid 16: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd