1 Corinthiaid 12:4-14
1 Corinthiaid 12:4-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Y mae amrywiaeth doniau, ond yr un Ysbryd sy'n eu rhoi; ac y mae amrywiaeth gweinidogaethau, ond yr un Arglwydd sy'n eu rhoi; ac y mae amrywiaeth gweithrediadau, ond yr un Duw sydd yn gweithredu pob peth ym mhawb. Rhoddir amlygiad o'r Ysbryd i bob un, er lles pawb. Oherwydd fe roddir i un, trwy'r Ysbryd, lefaru doethineb; i un arall, lefaru gwybodaeth, yn ôl yr un Ysbryd; i un arall rhoddir ffydd, trwy'r un Ysbryd; i un arall ddoniau iacháu, trwy'r un Ysbryd; i un arall gyflawni gwyrthiau, i un arall broffwydo, i un arall wahaniaethu rhwng ysbrydoedd, i un arall lefaru â thafodau, i un arall ddehongli tafodau. A'r holl bethau hyn, yr un a'r unrhyw Ysbryd sydd yn eu gweithredu, gan rannu, yn ôl ei ewyllys, i bob un ar wahân. Oherwydd fel y mae'r corff yn un, a chanddo lawer o aelodau, a'r rheini oll, er eu bod yn llawer, yn un corff, fel hyn y mae Crist hefyd. Oherwydd mewn un Ysbryd y cawsom i gyd ein bedyddio i un corff, boed yn Iddewon neu yn Roegiaid, yn gaethweision neu yn rhyddion, a rhoddwyd i bawb ohonom un Ysbryd i'w yfed. Oherwydd nid un aelod yw'r corff, ond llawer.
1 Corinthiaid 12:4-14 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Mae gwahanol ddoniau, ond yr un Ysbryd sy’n rhoi pob un. Mae ffyrdd gwahanol o wasanaethu, ond dim ond un Arglwydd sydd. Mae Duw yn gweithio mewn ffyrdd gwahanol drwy wahanol bobl, ond yr un Duw sy’n cyflawni’r cwbl ynddyn nhw i gyd. Ac mae’r Ysbryd i’w weld yn gweithio ym mywyd pob unigolyn er lles pawb arall. Felly mae’r Ysbryd yn rhoi gair o ddoethineb i un person. Mae person arall yn cael gair o wybodaeth, drwy’r un Ysbryd. Mae un arall yn cael ffydd, drwy’r un Ysbryd, ac un arall ddoniau i iacháu, drwy’r un Ysbryd. Wedyn mae rhywun arall yn cael galluoedd gwyrthiol, neu broffwydoliaeth, neu’r gallu i ddweud ble mae’r Ysbryd wir ar waith. Mae un arall yn cael y gallu i siarad ieithoedd dieithr, a rhywun arall y gallu i esbonio beth sy’n cael ei ddweud yn yr ieithoedd hynny. Yr un Ysbryd sydd ar waith drwyddyn nhw i gyd, ac yn penderfynu beth i’w roi i bob un. Mae’r corff yn uned er bod iddo lawer o rannau gwahanol, ac mae’r holl rannau gwahanol gyda’i gilydd yn gwneud un corff. Dyna’n union sut mae hi gyda phobl y Meseia. Cawson ni i gyd ein bedyddio gan yr un Ysbryd i berthyn i un corff – yn Iddewon a phobl o genhedloedd eraill, caethweision a dinasyddion rhydd. Cafodd pob un ohonon ni yfed yn helaeth o’r un Ysbryd. Dydy’r corff ddim i gyd yr un fath – mae iddo lawer o wahanol rannau.
1 Corinthiaid 12:4-14 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac y mae amryw ddoniau, eithr yr un Ysbryd. Ac y mae amryw weinidogaethau, eithr yr un Arglwydd. Ac y mae amryw weithrediadau, ond yr un yw Duw, yr hwn sydd yn gweithredu pob peth ym mhawb: Eithr eglurhad yr Ysbryd a roddir i bob un er llesâd. Canys i un, trwy’r Ysbryd, y rhoddir ymadrodd doethineb; ac i arall, ymadrodd gwybodaeth, trwy’r un Ysbryd; Ac i arall ffydd, trwy’r un Ysbryd; ac i arall ddawn i iacháu, trwy’r un Ysbryd; Ac i arall, wneuthur gwyrthiau; ac i arall, broffwydoliaeth; ac i arall, wahaniaeth ysbrydoedd; ac i arall, amryw dafodau; ac i arall, gyfieithiad tafodau. A’r holl bethau hyn y mae’r un a’r unrhyw Ysbryd yn eu gweithredu, gan rannu i bob un o’r neilltu megis y mae yn ewyllysio. Canys fel y mae’r corff yn un, ac iddo aelodau lawer, a holl aelodau’r un corff, cyd byddont lawer, ydynt un corff; felly y mae Crist hefyd. Oherwydd trwy un Ysbryd y bedyddiwyd ni oll yn un corff, pa un bynnag ai Iddewon ai Groegwyr, ai caethion ai rhyddion; ac ni a ddiodwyd oll i un Ysbryd. Canys y corff nid yw un aelod, eithr llawer.