1 Corinthiaid 12:27-28
1 Corinthiaid 12:27-28 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Chi gyda’ch gilydd ydy corff y Meseia, ac mae pob unigolyn yn rhan o’r corff hwnnw. Yn ei eglwys mae Duw wedi penodi ei gynrychiolwyr yn gyntaf, yn ail proffwydi, ac yn drydydd athrawon, yna rhai sy’n gwneud gwyrthiau, rhai sy’n cael doniau i iacháu, rhai sy’n helpu eraill, rhai sy’n rhoi cyngor ac arweiniad, a rhai sy’n siarad ieithoedd dieithr.
1 Corinthiaid 12:27-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yn awr, chwi yw corff Crist, ac y mae i bob un ohonoch ei le fel aelod. Ymhlith y rhain y mae Duw wedi gosod yn yr eglwys, yn gyntaf apostolion, yn ail broffwydi, yn drydydd athrawon, yna cyflawni gwyrthiau, yna doniau iacháu, cynorthwyo, cyfarwyddo, llefaru â thafodau.
1 Corinthiaid 12:27-28 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Eithr chwychwi ydych gorff Crist, ac aelodau o ran. A rhai yn wir a osododd Duw yn yr eglwys; yn gyntaf apostolion, yn ail proffwydi, yn drydydd athrawon, yna gwyrthiau, wedi hynny doniau i iacháu, cynorthwyau, llywodraethau, rhywogaethau tafodau.