1 Corinthiaid 12:25-26
1 Corinthiaid 12:25-26 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ei fwriad oedd fod dim rhaniadau i fod yn y corff – a bod pob rhan i ddangos yr un gofal am ei gilydd. Felly, os ydy un rhan o’r corff yn dioddef, mae’r corff i gyd yn dioddef; neu os ydy un rhan yn cael ei anrhydeddu, mae’r corff i gyd yn rhannu’r llawenydd.
Rhanna
Darllen 1 Corinthiaid 121 Corinthiaid 12:25-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
rhag bod ymraniad yn y corff, ac er mwyn i'r holl aelodau gymryd yr un gofal dros ei gilydd. Os bydd un aelod yn dioddef, y mae pob aelod yn cyd-ddioddef; neu os bydd un aelod yn cael ei anrhydeddu, y mae pob aelod yn cydlawenhau.
Rhanna
Darllen 1 Corinthiaid 121 Corinthiaid 12:25-26 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Fel na byddai anghydfod yn y corff; eithr bod i’r aelodau ofalu’r un peth dros ei gilydd. A pha un bynnag ai dioddef a wna un aelod, y mae’r holl aelodau yn cyd-ddioddef; ai anrhydeddu a wneir un aelod, y mae’r holl aelodau yn cydlawenhau.
Rhanna
Darllen 1 Corinthiaid 12