1 Corinthiaid 12:17-19
1 Corinthiaid 12:17-19 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Fyddai’r corff ddim yn gallu clywed petai’n ddim byd ond llygaid! A phetai’n ddim byd ond clustiau, sut fyddai’n gallu arogli? Duw sydd wedi gwneud y corff, a rhoi pob rhan yn ei le, yn union fel roedd e’n gweld yn dda. Petai pob rhan o’r corff yr un fath â’i gilydd, fyddai’r corff ddim yn bod!
1 Corinthiaid 12:17-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Petai'r holl gorff yn llygad, lle byddai'r clyw? Petai'r cwbl yn glyw, lle byddai'r arogli? Ond fel y mae, gosododd Duw yr aelodau, bob un ohonynt, yn y corff fel y gwelodd ef yn dda. Pe baent i gyd yn un aelod, lle byddai'r corff?
1 Corinthiaid 12:17-19 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Pe yr holl gorff fyddai lygad, pa le y byddai’r clywed? pe’r cwbl fyddai glywed, pa le y byddai’r arogliad? Eithr yr awr hon Duw a osododd yr aelodau, bob un ohonynt yn y corff, fel yr ewyllysiodd efe. Canys pe baent oll un aelod, pa le y byddai’r corff?