1 Corinthiaid 12:14-18
1 Corinthiaid 12:14-18 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dydy’r corff ddim i gyd yr un fath – mae iddo lawer o wahanol rannau. Petai troed yn dweud, “Am nad ydw i’n llaw dw i ddim yn rhan o’r corff,” fyddai’r droed honno yn peidio bod yn rhan o’r corff? Wrth gwrs ddim! Neu petai clust yn dweud, “Am nad ydw i’n llygad dw i ddim yn rhan o’r corff,” fyddai hi’n peidio bod yn rhan o’r corff wedyn? Na! Fyddai’r corff ddim yn gallu clywed petai’n ddim byd ond llygaid! A phetai’n ddim byd ond clustiau, sut fyddai’n gallu arogli? Duw sydd wedi gwneud y corff, a rhoi pob rhan yn ei le, yn union fel roedd e’n gweld yn dda.
1 Corinthiaid 12:14-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Oherwydd nid un aelod yw'r corff, ond llawer. Os dywed y troed, “Gan nad wyf yn llaw, nid wyf yn rhan o'r corff”, nid yw am hynny heb fod yn rhan o'r corff. Ac os dywed y glust, “Gan nad wyf yn llygad, nid wyf yn rhan o'r corff”, nid yw am hynny heb fod yn rhan o'r corff. Petai'r holl gorff yn llygad, lle byddai'r clyw? Petai'r cwbl yn glyw, lle byddai'r arogli? Ond fel y mae, gosododd Duw yr aelodau, bob un ohonynt, yn y corff fel y gwelodd ef yn dda.
1 Corinthiaid 12:14-18 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Canys y corff nid yw un aelod, eithr llawer. Os dywed y troed, Am nad wyf law, nid wyf o’r corff; ai am hynny nid yw efe o’r corff? Ac os dywed y glust, Am nad wyf lygad, nid wyf o’r corff; ai am hynny nid yw hi o’r corff? Pe yr holl gorff fyddai lygad, pa le y byddai’r clywed? pe’r cwbl fyddai glywed, pa le y byddai’r arogliad? Eithr yr awr hon Duw a osododd yr aelodau, bob un ohonynt yn y corff, fel yr ewyllysiodd efe.