Logo YouVersion
Eicon Chwilio

1 Corinthiaid 12:12-26

1 Corinthiaid 12:12-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Oherwydd fel y mae'r corff yn un, a chanddo lawer o aelodau, a'r rheini oll, er eu bod yn llawer, yn un corff, fel hyn y mae Crist hefyd. Oherwydd mewn un Ysbryd y cawsom i gyd ein bedyddio i un corff, boed yn Iddewon neu yn Roegiaid, yn gaethweision neu yn rhyddion, a rhoddwyd i bawb ohonom un Ysbryd i'w yfed. Oherwydd nid un aelod yw'r corff, ond llawer. Os dywed y troed, “Gan nad wyf yn llaw, nid wyf yn rhan o'r corff”, nid yw am hynny heb fod yn rhan o'r corff. Ac os dywed y glust, “Gan nad wyf yn llygad, nid wyf yn rhan o'r corff”, nid yw am hynny heb fod yn rhan o'r corff. Petai'r holl gorff yn llygad, lle byddai'r clyw? Petai'r cwbl yn glyw, lle byddai'r arogli? Ond fel y mae, gosododd Duw yr aelodau, bob un ohonynt, yn y corff fel y gwelodd ef yn dda. Pe baent i gyd yn un aelod, lle byddai'r corff? Ond fel y mae, llawer yw'r aelodau, ond un yw'r corff. Ni all y llygad ddweud wrth y llaw, “Nid oes arnaf dy angen di”, na'r pen chwaith wrth y traed, “Nid oes arnaf eich angen chwi.” I'r gwrthwyneb yn hollol, y mae'r aelodau hynny o'r corff sy'n ymddangos yn wannaf yn angenrheidiol; a'r rhai sydd leiaf eu parch yn ein tyb ni, yr ydym yn amgylchu'r rheini â pharch neilltuol; ac y mae ein haelodau anweddaidd yn cael gwedduster neilltuol. Ond nid oes ar ein haelodau gweddus angen hynny. Gosododd Duw y corff wrth ei gilydd, gan roi parchusrwydd neilltuol i'r aelod oedd heb ddim parch, rhag bod ymraniad yn y corff, ac er mwyn i'r holl aelodau gymryd yr un gofal dros ei gilydd. Os bydd un aelod yn dioddef, y mae pob aelod yn cyd-ddioddef; neu os bydd un aelod yn cael ei anrhydeddu, y mae pob aelod yn cydlawenhau.

1 Corinthiaid 12:12-26 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Mae’r corff yn uned er bod iddo lawer o rannau gwahanol, ac mae’r holl rannau gwahanol gyda’i gilydd yn gwneud un corff. Dyna’n union sut mae hi gyda phobl y Meseia. Cawson ni i gyd ein bedyddio gan yr un Ysbryd i berthyn i un corff – yn Iddewon a phobl o genhedloedd eraill, caethweision a dinasyddion rhydd. Cafodd pob un ohonon ni yfed yn helaeth o’r un Ysbryd. Dydy’r corff ddim i gyd yr un fath – mae iddo lawer o wahanol rannau. Petai troed yn dweud, “Am nad ydw i’n llaw dw i ddim yn rhan o’r corff,” fyddai’r droed honno yn peidio bod yn rhan o’r corff? Wrth gwrs ddim! Neu petai clust yn dweud, “Am nad ydw i’n llygad dw i ddim yn rhan o’r corff,” fyddai hi’n peidio bod yn rhan o’r corff wedyn? Na! Fyddai’r corff ddim yn gallu clywed petai’n ddim byd ond llygaid! A phetai’n ddim byd ond clustiau, sut fyddai’n gallu arogli? Duw sydd wedi gwneud y corff, a rhoi pob rhan yn ei le, yn union fel roedd e’n gweld yn dda. Petai pob rhan o’r corff yr un fath â’i gilydd, fyddai’r corff ddim yn bod! Mae angen llawer o wahanol rannau i wneud un corff. Dydy’r llygad ddim yn gallu dweud wrth y llaw, “Does arna i ddim dy angen di!” A dydy’r pen ddim yn gallu dweud wrth y traed, “Does arna i ddim eich angen chi!” Yn hollol fel arall – mae’r rhannau hynny o’r corff sy’n ymddangos lleia pwysig yn gwbl hanfodol! Mae angen dangos gofal arbennig am y rhannau hynny sydd ddim yn amlwg. Mae rhannau preifat y corff yn cael gwisg i’w cuddio o olwg pobl, er mwyn bod yn weddus. Does dim angen triniaeth sbesial felly ar y rhannau sy’n amlwg! Ac mae Duw wedi rhoi’r eglwys at ei gilydd fel corff, ac wedi dangos gofal arbennig am y rhannau oedd yn cael dim parch. Ei fwriad oedd fod dim rhaniadau i fod yn y corff – a bod pob rhan i ddangos yr un gofal am ei gilydd. Felly, os ydy un rhan o’r corff yn dioddef, mae’r corff i gyd yn dioddef; neu os ydy un rhan yn cael ei anrhydeddu, mae’r corff i gyd yn rhannu’r llawenydd.

1 Corinthiaid 12:12-26 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Canys fel y mae’r corff yn un, ac iddo aelodau lawer, a holl aelodau’r un corff, cyd byddont lawer, ydynt un corff; felly y mae Crist hefyd. Oherwydd trwy un Ysbryd y bedyddiwyd ni oll yn un corff, pa un bynnag ai Iddewon ai Groegwyr, ai caethion ai rhyddion; ac ni a ddiodwyd oll i un Ysbryd. Canys y corff nid yw un aelod, eithr llawer. Os dywed y troed, Am nad wyf law, nid wyf o’r corff; ai am hynny nid yw efe o’r corff? Ac os dywed y glust, Am nad wyf lygad, nid wyf o’r corff; ai am hynny nid yw hi o’r corff? Pe yr holl gorff fyddai lygad, pa le y byddai’r clywed? pe’r cwbl fyddai glywed, pa le y byddai’r arogliad? Eithr yr awr hon Duw a osododd yr aelodau, bob un ohonynt yn y corff, fel yr ewyllysiodd efe. Canys pe baent oll un aelod, pa le y byddai’r corff? Ond yr awron llawer yw’r aelodau, eithr un corff. Ac ni all y llygad ddywedyd wrth y llaw, Nid rhaid i mi wrthyt; na’r pen chwaith wrth y traed, Nid rhaid i mi wrthych. Eithr yn hytrach o lawer, yr aelodau o’r corff y rhai a dybir eu bod yn wannaf, ydynt angenrheidiol: A’r rhai a dybiwn ni eu bod yn amharchedicaf o’r corff, ynghylch y rhai hynny y gosodwn ychwaneg o barch; ac y mae ein haelodau anhardd yn cael ychwaneg o harddwch. Oblegid ein haelodau hardd ni nid rhaid iddynt wrtho: eithr Duw a gyd-dymherodd y corff, gan roddi parch ychwaneg i’r hyn oedd ddiffygiol: Fel na byddai anghydfod yn y corff; eithr bod i’r aelodau ofalu’r un peth dros ei gilydd. A pha un bynnag ai dioddef a wna un aelod, y mae’r holl aelodau yn cyd-ddioddef; ai anrhydeddu a wneir un aelod, y mae’r holl aelodau yn cydlawenhau.