Logo YouVersion
Eicon Chwilio

1 Corinthiaid 12:1-31

1 Corinthiaid 12:1-31 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Nawr, wrth droi at beth sy’n dod o’r Ysbryd, dw i am i chi ddeall ffrindiau. Pan oeddech chi’n baganiaid, roeddech yn cael eich dylanwadu a’ch camarwain gan eilun-dduwiau mud. Felly dw i am i chi wybod beth sy’n dod o Dduw a beth sydd ddim. Does neb sy’n siarad dan ddylanwad Ysbryd Glân Duw yn dweud, “Mae Iesu yn felltith!” A does neb yn gallu dweud, “Iesu ydy’r Arglwydd,” ond drwy’r Ysbryd Glân. Mae gwahanol ddoniau, ond yr un Ysbryd sy’n rhoi pob un. Mae ffyrdd gwahanol o wasanaethu, ond dim ond un Arglwydd sydd. Mae Duw yn gweithio mewn ffyrdd gwahanol drwy wahanol bobl, ond yr un Duw sy’n cyflawni’r cwbl ynddyn nhw i gyd. Ac mae’r Ysbryd i’w weld yn gweithio ym mywyd pob unigolyn er lles pawb arall. Felly mae’r Ysbryd yn rhoi gair o ddoethineb i un person. Mae person arall yn cael gair o wybodaeth, drwy’r un Ysbryd. Mae un arall yn cael ffydd, drwy’r un Ysbryd, ac un arall ddoniau i iacháu, drwy’r un Ysbryd. Wedyn mae rhywun arall yn cael galluoedd gwyrthiol, neu broffwydoliaeth, neu’r gallu i ddweud ble mae’r Ysbryd wir ar waith. Mae un arall yn cael y gallu i siarad ieithoedd dieithr, a rhywun arall y gallu i esbonio beth sy’n cael ei ddweud yn yr ieithoedd hynny. Yr un Ysbryd sydd ar waith drwyddyn nhw i gyd, ac yn penderfynu beth i’w roi i bob un. Mae’r corff yn uned er bod iddo lawer o rannau gwahanol, ac mae’r holl rannau gwahanol gyda’i gilydd yn gwneud un corff. Dyna’n union sut mae hi gyda phobl y Meseia. Cawson ni i gyd ein bedyddio gan yr un Ysbryd i berthyn i un corff – yn Iddewon a phobl o genhedloedd eraill, caethweision a dinasyddion rhydd. Cafodd pob un ohonon ni yfed yn helaeth o’r un Ysbryd. Dydy’r corff ddim i gyd yr un fath – mae iddo lawer o wahanol rannau. Petai troed yn dweud, “Am nad ydw i’n llaw dw i ddim yn rhan o’r corff,” fyddai’r droed honno yn peidio bod yn rhan o’r corff? Wrth gwrs ddim! Neu petai clust yn dweud, “Am nad ydw i’n llygad dw i ddim yn rhan o’r corff,” fyddai hi’n peidio bod yn rhan o’r corff wedyn? Na! Fyddai’r corff ddim yn gallu clywed petai’n ddim byd ond llygaid! A phetai’n ddim byd ond clustiau, sut fyddai’n gallu arogli? Duw sydd wedi gwneud y corff, a rhoi pob rhan yn ei le, yn union fel roedd e’n gweld yn dda. Petai pob rhan o’r corff yr un fath â’i gilydd, fyddai’r corff ddim yn bod! Mae angen llawer o wahanol rannau i wneud un corff. Dydy’r llygad ddim yn gallu dweud wrth y llaw, “Does arna i ddim dy angen di!” A dydy’r pen ddim yn gallu dweud wrth y traed, “Does arna i ddim eich angen chi!” Yn hollol fel arall – mae’r rhannau hynny o’r corff sy’n ymddangos lleia pwysig yn gwbl hanfodol! Mae angen dangos gofal arbennig am y rhannau hynny sydd ddim yn amlwg. Mae rhannau preifat y corff yn cael gwisg i’w cuddio o olwg pobl, er mwyn bod yn weddus. Does dim angen triniaeth sbesial felly ar y rhannau sy’n amlwg! Ac mae Duw wedi rhoi’r eglwys at ei gilydd fel corff, ac wedi dangos gofal arbennig am y rhannau oedd yn cael dim parch. Ei fwriad oedd fod dim rhaniadau i fod yn y corff – a bod pob rhan i ddangos yr un gofal am ei gilydd. Felly, os ydy un rhan o’r corff yn dioddef, mae’r corff i gyd yn dioddef; neu os ydy un rhan yn cael ei anrhydeddu, mae’r corff i gyd yn rhannu’r llawenydd. Chi gyda’ch gilydd ydy corff y Meseia, ac mae pob unigolyn yn rhan o’r corff hwnnw. Yn ei eglwys mae Duw wedi penodi ei gynrychiolwyr yn gyntaf, yn ail proffwydi, ac yn drydydd athrawon, yna rhai sy’n gwneud gwyrthiau, rhai sy’n cael doniau i iacháu, rhai sy’n helpu eraill, rhai sy’n rhoi cyngor ac arweiniad, a rhai sy’n siarad ieithoedd dieithr. Ydy pawb yn gynrychiolwyr personol i’r Meseia? Ydy pawb yn athrawon? Ydy pawb yn gwneud gwyrthiau? Ydy pawb yn cael doniau i iacháu? Ydy pawb yn siarad ieithoedd dieithr? Ydy pawb yn gallu esbonio beth sy’n cael ei ddweud? Wrth gwrs ddim! Ond ceisiwch yn frwd y doniau hynny sy’n gwneud mwya o les.

1 Corinthiaid 12:1-31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Ynglŷn â doniau ysbrydol, gyfeillion, nid wyf am ichwi fod yn anwybodus yn eu cylch. Fe wyddoch sut y byddech yn cael eich ysgubo i ffwrdd at eilunod mud, pan oeddech yn baganiaid. Am hynny, yr wyf yn eich hysbysu nad yw neb sydd yn llefaru trwy Ysbryd Duw yn dweud, “Melltith ar Iesu!” Ac ni all neb ddweud, “Iesu yw'r Arglwydd!” ond trwy yr Ysbryd Glân. Y mae amrywiaeth doniau, ond yr un Ysbryd sy'n eu rhoi; ac y mae amrywiaeth gweinidogaethau, ond yr un Arglwydd sy'n eu rhoi; ac y mae amrywiaeth gweithrediadau, ond yr un Duw sydd yn gweithredu pob peth ym mhawb. Rhoddir amlygiad o'r Ysbryd i bob un, er lles pawb. Oherwydd fe roddir i un, trwy'r Ysbryd, lefaru doethineb; i un arall, lefaru gwybodaeth, yn ôl yr un Ysbryd; i un arall rhoddir ffydd, trwy'r un Ysbryd; i un arall ddoniau iacháu, trwy'r un Ysbryd; i un arall gyflawni gwyrthiau, i un arall broffwydo, i un arall wahaniaethu rhwng ysbrydoedd, i un arall lefaru â thafodau, i un arall ddehongli tafodau. A'r holl bethau hyn, yr un a'r unrhyw Ysbryd sydd yn eu gweithredu, gan rannu, yn ôl ei ewyllys, i bob un ar wahân. Oherwydd fel y mae'r corff yn un, a chanddo lawer o aelodau, a'r rheini oll, er eu bod yn llawer, yn un corff, fel hyn y mae Crist hefyd. Oherwydd mewn un Ysbryd y cawsom i gyd ein bedyddio i un corff, boed yn Iddewon neu yn Roegiaid, yn gaethweision neu yn rhyddion, a rhoddwyd i bawb ohonom un Ysbryd i'w yfed. Oherwydd nid un aelod yw'r corff, ond llawer. Os dywed y troed, “Gan nad wyf yn llaw, nid wyf yn rhan o'r corff”, nid yw am hynny heb fod yn rhan o'r corff. Ac os dywed y glust, “Gan nad wyf yn llygad, nid wyf yn rhan o'r corff”, nid yw am hynny heb fod yn rhan o'r corff. Petai'r holl gorff yn llygad, lle byddai'r clyw? Petai'r cwbl yn glyw, lle byddai'r arogli? Ond fel y mae, gosododd Duw yr aelodau, bob un ohonynt, yn y corff fel y gwelodd ef yn dda. Pe baent i gyd yn un aelod, lle byddai'r corff? Ond fel y mae, llawer yw'r aelodau, ond un yw'r corff. Ni all y llygad ddweud wrth y llaw, “Nid oes arnaf dy angen di”, na'r pen chwaith wrth y traed, “Nid oes arnaf eich angen chwi.” I'r gwrthwyneb yn hollol, y mae'r aelodau hynny o'r corff sy'n ymddangos yn wannaf yn angenrheidiol; a'r rhai sydd leiaf eu parch yn ein tyb ni, yr ydym yn amgylchu'r rheini â pharch neilltuol; ac y mae ein haelodau anweddaidd yn cael gwedduster neilltuol. Ond nid oes ar ein haelodau gweddus angen hynny. Gosododd Duw y corff wrth ei gilydd, gan roi parchusrwydd neilltuol i'r aelod oedd heb ddim parch, rhag bod ymraniad yn y corff, ac er mwyn i'r holl aelodau gymryd yr un gofal dros ei gilydd. Os bydd un aelod yn dioddef, y mae pob aelod yn cyd-ddioddef; neu os bydd un aelod yn cael ei anrhydeddu, y mae pob aelod yn cydlawenhau. Yn awr, chwi yw corff Crist, ac y mae i bob un ohonoch ei le fel aelod. Ymhlith y rhain y mae Duw wedi gosod yn yr eglwys, yn gyntaf apostolion, yn ail broffwydi, yn drydydd athrawon, yna cyflawni gwyrthiau, yna doniau iacháu, cynorthwyo, cyfarwyddo, llefaru â thafodau. A yw pawb yn apostol? A yw pawb yn broffwyd? A yw pawb yn athro? A yw pawb yn cyflawni gwyrthiau? A oes gan bawb ddoniau iacháu? A yw pawb yn llefaru â thafodau? A yw pawb yn dehongli? Ond rhowch eich bryd ar y doniau gorau.

1 Corinthiaid 12:1-31 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Eithr am ysbrydol ddoniau, frodyr, ni fynnwn i chwi fod heb wybod. Chwi a wyddoch mai Cenhedloedd oeddech, yn eich arwain ymaith at yr eilunod mudion, fel y’ch tywysid. Am hynny yr wyf yn hysbysu i chwi, nad oes neb yn llefaru trwy Ysbryd Duw, yn galw yr Iesu yn ysgymunbeth: ac ni all neb ddywedyd yr Arglwydd Iesu, eithr trwy’r Ysbryd Glân. Ac y mae amryw ddoniau, eithr yr un Ysbryd. Ac y mae amryw weinidogaethau, eithr yr un Arglwydd. Ac y mae amryw weithrediadau, ond yr un yw Duw, yr hwn sydd yn gweithredu pob peth ym mhawb: Eithr eglurhad yr Ysbryd a roddir i bob un er llesâd. Canys i un, trwy’r Ysbryd, y rhoddir ymadrodd doethineb; ac i arall, ymadrodd gwybodaeth, trwy’r un Ysbryd; Ac i arall ffydd, trwy’r un Ysbryd; ac i arall ddawn i iacháu, trwy’r un Ysbryd; Ac i arall, wneuthur gwyrthiau; ac i arall, broffwydoliaeth; ac i arall, wahaniaeth ysbrydoedd; ac i arall, amryw dafodau; ac i arall, gyfieithiad tafodau. A’r holl bethau hyn y mae’r un a’r unrhyw Ysbryd yn eu gweithredu, gan rannu i bob un o’r neilltu megis y mae yn ewyllysio. Canys fel y mae’r corff yn un, ac iddo aelodau lawer, a holl aelodau’r un corff, cyd byddont lawer, ydynt un corff; felly y mae Crist hefyd. Oherwydd trwy un Ysbryd y bedyddiwyd ni oll yn un corff, pa un bynnag ai Iddewon ai Groegwyr, ai caethion ai rhyddion; ac ni a ddiodwyd oll i un Ysbryd. Canys y corff nid yw un aelod, eithr llawer. Os dywed y troed, Am nad wyf law, nid wyf o’r corff; ai am hynny nid yw efe o’r corff? Ac os dywed y glust, Am nad wyf lygad, nid wyf o’r corff; ai am hynny nid yw hi o’r corff? Pe yr holl gorff fyddai lygad, pa le y byddai’r clywed? pe’r cwbl fyddai glywed, pa le y byddai’r arogliad? Eithr yr awr hon Duw a osododd yr aelodau, bob un ohonynt yn y corff, fel yr ewyllysiodd efe. Canys pe baent oll un aelod, pa le y byddai’r corff? Ond yr awron llawer yw’r aelodau, eithr un corff. Ac ni all y llygad ddywedyd wrth y llaw, Nid rhaid i mi wrthyt; na’r pen chwaith wrth y traed, Nid rhaid i mi wrthych. Eithr yn hytrach o lawer, yr aelodau o’r corff y rhai a dybir eu bod yn wannaf, ydynt angenrheidiol: A’r rhai a dybiwn ni eu bod yn amharchedicaf o’r corff, ynghylch y rhai hynny y gosodwn ychwaneg o barch; ac y mae ein haelodau anhardd yn cael ychwaneg o harddwch. Oblegid ein haelodau hardd ni nid rhaid iddynt wrtho: eithr Duw a gyd-dymherodd y corff, gan roddi parch ychwaneg i’r hyn oedd ddiffygiol: Fel na byddai anghydfod yn y corff; eithr bod i’r aelodau ofalu’r un peth dros ei gilydd. A pha un bynnag ai dioddef a wna un aelod, y mae’r holl aelodau yn cyd-ddioddef; ai anrhydeddu a wneir un aelod, y mae’r holl aelodau yn cydlawenhau. Eithr chwychwi ydych gorff Crist, ac aelodau o ran. A rhai yn wir a osododd Duw yn yr eglwys; yn gyntaf apostolion, yn ail proffwydi, yn drydydd athrawon, yna gwyrthiau, wedi hynny doniau i iacháu, cynorthwyau, llywodraethau, rhywogaethau tafodau. Ai apostolion pawb? ai proffwydi pawb? ai athrawon pawb? ai gwneuthurwyr gwyrthiau pawb? A oes gan bawb ddoniau i iacháu? a yw pawb yn llefaru â thafodau? a yw pawb yn cyfieithu? Eithr deisyfwch y doniau gorau: ac eto yr wyf yn dangos i chwi ffordd dra rhagorol.